Dyma'ch diweddariad dydd Mawrth, sy'n cynnwys:
Arddangosfa 'Lleisiau Grangetown' yn Amgueddfa Caerdydd wedi'i hymestyn
Mae'r arddangosfa 'Lleisiau Grangetown' yn Amgueddfa Caerdydd wedi'i hymestyn tan 26 Ebrill 2025.
Mae'r arddangosfa, sy'n rhannu straeon pobl sy'n byw yn y gymuned heddiw, yn ddiweddglo prosiect 'Curaduron Ifanc' yr amgueddfa.
Roedd y prosiect, a gynhaliwyd rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2024, yn rhoi rheolaeth ar yr arddangosfa i aelodau Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange, gyda'r nod o ychwanegu elfen amrywiaeth at y straeon a adroddir yn yr Amgueddfa.
Fel rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliaeth, oedd wedi'i ariannu gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol (AIM) a Llywodraeth Cymru, roedd yr Amgueddfa'n cwrdd yn rheolaidd gyda grŵp y 'Curaduron Ifanc' i ddarparu hyfforddiant ar gyfer creu arddangosfeydd a chasglu hanesion llafar.
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Dewisodd y bobl ifanc a oedd yn rhan o'r prosiect y themâu ar gyfer eu cyfweliadau, y cwestiynau roedden nhw eisiau eu gofyn, a'r bobl roedden nhw eisiau siarad â nhw - mae'n arddangosfa am y gymuned, wedi'i datblygu gan y gymuned ac yn cael ei hadrodd yn eu lleisiau eu hunain. Mae hynny'n ei gwneud hi'n arbennig iawn."
Mae mwy na 1,800 o ddisgyblion yn disgleirio mewn arddangosfa gerddorol ysblennydd diolch i wersi am ddim
Mae disgyblion blwyddyn tri o ysgolion ledled Caerdydd a Bro Morgannwg wedi bod yn derbyn gwersi cerddoriaeth am ddim gan ddefnyddio offerynnau pBuzz, llais a chwythbrennau, yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru. Mae'r fenter hon yn rhan o'r ymdrechion ehangach i wella addysg gerddoriaeth a darparu profiadau cyfoethogi i ddysgwyr ifanc.
Uchafbwynt rhaglen eleni yw dathliad y Profiadau Cyntaf, a arweiniodd at weithdy a pherfformiad torfol. Daeth y digwyddiad â dros 1,800 o ddisgyblion o 39 o ysgolion at ei gilydd yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, lle gwnaethant arddangos eu doniau cerddorol trwy chwarae a chanu'n ddwyieithog, yng nghwmni band jazz proffesiynol byw a chantorion o Addysg Gerdd CF (Gwasanaeth Cerdd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg gynt).
Mae'r fenter wedi cael ei chefnogi gan y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth (CCAC) a'i chyflwyno gan diwtoriaid a cherddorion proffesiynol Addysg Gerdd CF. Mae'r rhaglen yn cynnwys Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer athrawon, y cyfeirir ati'n gyffredin fel Dysgu Proffesiynol, a gweithdai ysgol. Mae'r ymdrechion hyn wedi rhoi hwb sylweddol i hyder athrawon wrth ddefnyddio caneuon a darnau o Charanga, gyda chefnogaeth adnoddau dosbarth comisiynu Addysg Gerdd CF.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Rydym wedi ymrwymo i wella addysg gerddoriaeth a meithrin cariad at gerddoriaeth ymhlith dysgwyr ifanc. Rhan bwysig o hyn yw cefnogi ysgolion ac athrawon i roi cyfleoedd cyffrous i blant a phobl ifanc brofi llawenydd creu cerddoriaeth, yn y Cwricwlwm i Gymru."
Rhwydwaith gwresogi ardal carbon isel yng Nghaerdydd ar fin cael ei gwblhau
Mae gwaith adeiladu rhwydwaith gwresogi ardal carbon isel a fydd yn lleihau allyriadau carbon o adeiladau cysylltiedig yng Nghaerdydd hyd at 80% ar fin cael ei gwblhau, gyda disgwyl i'r gwres gael ei gyflenwi i gwsmeriaid am y tro cyntaf yn y misoedd nesaf, unwaith y bydd y gwaith comisiynu a'r profion terfynol wedi digwydd.
Prosiect gwerth £15.5 miliwn Cyngor Caerdydd, a gyflwynir gyda chymorth grant gan Lywodraeth y DU a benthyciad gan Lywodraeth Cymru, fydd y cyntaf o'i fath yng Nghymru. Bydd y rhwydwaith, sy'n rhan o ymateb Caerdydd Un Blaned Cyngor Caerdydd i newid hinsawdd, yn cyflenwi amrywiaeth o adeiladau ym Mae Caerdydd, gan gynnwys y Senedd, Canolfan Mileniwm Cymru, Coleg Caerdydd a'r Fro, Hyb Butetown, fflatiau Harbwr Scott ac amrywiaeth o adeiladau eraill y Cyngor.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Bydd lansio'r rhwydwaith gwresogi am y tro cyntaf yn garreg filltir arwyddocaol ar y ffordd i gyflawni ein huchelgeisiau carbon niwtral. Mae'n brosiect seilwaith gwyrdd mawr, y cyntaf o'i fath ar y raddfa hon yn unrhyw le yng Nghymru, a bydd yn dileu'r angen i adeiladau cysylltiedig gael boeleri nwy yn syth, gan leihau eu hallyriadau carbon hyd at 80%. Dros gyfnod o flwyddyn, bydd hynny'n arbed dros 10,000 tunnell o allyriadau carbon unwaith y bydd wedi'i gwblhau - sef faint o garbon a gynhyrchir o wresogi 3,700 o gartrefi yn fras."