15/4/2025
Canfuwyd bod Ysgol Gynradd Lansdowne yn Nhreganna yn darparu amgylchedd meithringar a chynhwysol lle mae disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.
Yn ystod arolygiad diweddar gan Estyn, Arolygiaeth Addysg Cymru, cafodd yr ysgol ei chydnabod am ei hawyrgylch croesawgar, cynhwysol a chadarnhaol, lle mae perthnasoedd cryf rhwng staff a disgyblion yn cyfrannu at amgylchedd dysgu cefnogol.
Canfuwyd bod yr ysgol yn cynnig cwricwlwm amrywiol sy'n helpu disgyblion i fagu hyder a gwneud cynnydd da yn eu dysgu a'u datblygiad cyffredinol. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y flaenoriaeth a roddir i les disgyblion, gan ddarparu cefnogaeth gref i'w helpu i reoli eu hemosiynau a pharhau i ymgysylltu â'u haddysg.
Canfuwyd bod darllen yn gryfder nodedig, wrth i ddisgyblion iau ddatblygu dealltwriaeth ddiogel o ffoneg ac wrth i ddisgyblion hŷn ddangos dealltwriaeth gref a sgiliau meddwl beirniadol. Mae'r ysgol hefyd yn rhagori mewn hyrwyddo sgiliau cyfathrebu effeithiol ar draws pob grŵp blwyddyn.
Mae'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag ADY yn effeithiol iawn, gyda'r ddarpariaeth arbenigol yn yr ysgol yn cynnig cymorth gwerthfawr i ddiwallu anghenion penodol disgyblion.
Mewn adroddiad cadarnhaol, mae Estyn wedi gwneud tri argymhelliad y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â nhw yn ei chynllun gweithredu. Mae'r rhain yn cynnwys
- Gwella addysgu mathemateg a darparu mwy o gyfleoedd i ddisgyblion gymhwyso eu sgiliau rhifedd mewn cyd-destunau bywyd go iawn.
- Darparu mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ymateb i adborth a dylanwadu ar eu dysgu.
- Mynd i'r afael â'r lefel o absenoldeb parhaus i sicrhau bod pob disgybl yn cael y budd llawn o'u haddysg.
Dywedodd y Pennaeth Michelle Jones: 'Rwy'n falch iawn bod yr adroddiad yn tynnu sylw at gryfderau niferus ein hysgol, yn ogystal ag ymrwymiad ac ymroddiad ein staff, disgyblion, rhieni a llywodraethwyr.
"Gyda'n gilydd, rydym yn gweithio'n ddiflino i wneud gwahaniaeth a sicrhau bod ein disgyblion yn gwneud cynnydd ystyrlon mewn amgylchedd cynhwysol ac amrywiol, lle mae lles a pherthnasoedd wrth wraidd popeth a wnawn. Byddwn yn parhau i ymdrechu i wneud ein gorau, gan sicrhau ein bod yn diwallu anghenion ein holl ddysgwyr ac yn adeiladu ar y pethau cadarnhaol a nodwyd yn ein hadroddiad."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Dylai'r ysgol deimlo'n falch o'r adborth cadarnhaol o arolygiad Estyn sy'n taflu goleuni ar y staff ymroddedig, rhieni cefnogol, a disgyblion brwdfrydig sydd i gyd wedi cyfrannu at greu cymuned ysgol fywiog a chynhwysol.
"Mae'n amlwg bod yr ysgol yn parhau i ganolbwyntio ar feithrin cariad at ddysgu, hyrwyddo lles, a sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfle i lwyddo a bydd yr Awdurdod Lleol yn ei chefnogi i fynd i'r afael â'r argymhellion a pharhau i wella'r ddarpariaeth ar gyfer pob disgybl."
Ar adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol Gynradd Lansdowne 320 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae 38.8% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae 5.1% o'r disgyblion yn nodi bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol ac mae 39.5% o'r disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.