Back
Y Diweddariad: 25 Ebrill 2025
25/04/25
 
Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • ·     Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd yn helpu i ddatblygu technoleg drochi i gefnogi pobl yn eu harddegau sydd â gorbryder
  • ·       Cyllid newydd ar gael i feithrin cydlyniant cymunedol 


Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd yn helpu i ddatblygu technoleg drochi i gefnogi pobl yn eu harddegau sydd â gorbryder

Mae pobl ifanc o Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd wedi cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu therapi realiti estynedig i helpu i fynd i'r afael â gorbryder ymhlith pobl ifanc.

Mae'r dechnoleg drochi yn darparu ymyriad i bobl ifanc fel dewis arall yn lle therapi traddodiadol ac mae wedi cael ei datblygu a’i phrofi gan chwe pherson ifanc o ddarpariaeth Grassroots Caerdydd dros gyfnod peilot o chwe wythnos.

Wedi'i greu gan Elemental Health, sy'n darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc - ac mewn cydweithrediad â Sugar Creative a Media Cymru - mae’r dull hwn yn ffordd i bobl ifanc ymgysylltu â therapi trwy “dyfu” yn ddigidol planhigyn sy'n eu cynrychioli nhw. O'r math o flodau i nifer y dail, o ffactorau amgylcheddol i gyflwr y planhigyn, mae'r broses wedi'i chynllunio i helpu pobl ifanc i rannu gyda'u gweithiwr cymorth - a'i gilydd os dymunant - eu planhigion, eu nodweddion, a sut mae hyn yn cysylltu â'r hyn a allai fod yn digwydd yn eu bywyd allanol.

Yn dilyn y cynllun peilot, mae data wedi awgrymu bod yr ap wedi helpu i ymgysylltu ag ystod o bobl ifanc, y mae llawer ohonynt yn niwrowahanol, ac na fyddent efallai'n ymgysylltu â, yn mynychu nac yn ymateb yn dda i gwnsela traddodiadol. Canfuwyd bod y buddion yn cynnwys lleihau gorbryder ac iselder a chynyddu cysylltiad cymdeithasol. Gan adeiladu ar waith helaeth Elemental Health mewn ysgolion, y gobaith yw y gallai'r therapi hefyd gefnogi pobl ifanc sy'n wynebu rhwystrau o ran presenoldeb yn yr ysgol.

Darllenwch fwy


Cyllid newydd ar gael i feithrin cydlyniant cymunedol

Mae Cyngor Caerdydd unwaith eto’n gwahodd ceisiadau gan grwpiau cymunedol cyfansoddiadol a sefydliadau'r trydydd sector ledled y ddinas am gyllid grant sydd ar gael i helpu i adeiladu cymunedau cryf a chydlynol.

Wedi'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae grantiau bach hyd at £2,000 ar gael i gefnogi prosiectau a mentrau sy'n hybu cydlyniant cymunedol. Gellir defnyddio cyllid ar gyfer digwyddiadau, gweithgareddau, deunyddiau darllen cefnogol, neu i feithrin gallu cymunedol.

 I fod yn gymwys, rhaid i brosiectau gyd-fynd â sawl un o'r amcanion canlynol:

  • Dathlu amrywiaeth
  • Gwrthwynebu effeithiau casineb, naratifau casineb, twyllwybodaeth, a chamwybodaeth
  • Lleihau tensiynau cymunedol
  • Meithrin gallu cymunedol
  • Cefnogi cydlyniant cymunedol
  • Hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer yr holl nodweddion gwarchodedig (Deddf Cydraddoldeb 2010)
  • Hyrwyddo cymunedau cydlynol (Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol)
  • Digwyddiadau cydraddoldeb pwysig
  • Cefnogi cynhwysiant ac integreiddio, mynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, nodi nodweddion cyffredin trwy ddiddordebau a phrofiadau a rennir, a dathlu diwylliant a threftadaeth yr ardal.

Darllenwch fwy