Back
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn dangos cynnydd cadarnhaol yn dilyn arolygiad diweddar

 

29/4/2025

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg wedi cael ei harolygu yn ddiweddar gan Estyn. Ar adeg yr arolygiad, roedd y pennaeth wedi bod yn y swydd ers 16 wythnos ar ôl ymddiswyddiad ei ragflaenydd. Yn ystod y cyfnod hwn, cyflwynwyd nifer o welliannau i helpu i lywio'r ysgol i gyfeiriad cadarnhaol, gan osod y sylfaen ar gyfer cynnydd pellach - datblygiad a nodwyd gan Estyn.

Rhoddodd Estyn ganmoliaeth i'r ysgol am nifer o ganlyniadau cadarnhaol a chynnydd cyflym yn ei hadroddiad arolygu.

Mae Uchafbwyntiau Allweddol yr adroddiad yn cynnwys:

Arweinyddiaeth a Gweledigaeth: Mae'r ysgol wedi cael newidiadau sylweddol, gan gynnwys symud i adeilad newydd a chroesawu pennaeth gweithredol dros dro ym mis Medi 2024. Mae'r newidiadau hyn wedi arwain at weledigaeth glir ar gyfer gwella ac wedi cyflwyno systemau effeithiol i fonitro a gwerthuso cynnydd.Mae arweinwyr wedi sefydlu partneriaethau dysgu proffesiynol cryf, gan feithrin cydweithredu ac ysgogi newid cadarnhaol o fewn cymuned yr ysgol.

Amgylchedd Dysgu Cadarnhaol:Mae'r ysgol wedi creu amgylchedd dysgu llonydd a chadarnhaol lle mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda. Mae'r amgylchedd hwn yn cefnogi datblygiad moesol disgyblion ac yn hyrwyddo diwylliant o barch a chydweithrediad.

Datblygu'r Cwricwlwm:Mae'r cwricwlwm wedi'i ddiweddaru yn sicrhau cynnydd disgyblion ym mhob maes dysgu a phrofiad. Mae'n ymgorffori treftadaeth a diwylliant Cymru yn llwyddiannus, gan adlewyrchu amgylchiadau cyfredol ac agweddau pwysig ar hanes Cymru.

Mae'r cwricwlwm yn hyrwyddo datblygiad moesol disgyblion trwy weithgareddau difyr, fel y 'Cwestiwn Mawr' ar gyfer pob dosbarth.

Diogelu a Phresenoldeb:Mae arweinwyr wedi meithrin diwylliant cadarn o ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles pob disgybl. Mae strategaethau newydd i fonitro presenoldeb yn dechrau gwella cyfraddau presenoldeb, gan ddangos ymrwymiad yr ysgol i les disgyblion.

Cymorth i Ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol:Mae'r ysgol yn rhoi cymorth effeithiol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd da o'u mannau cychwyn. Mae hyn yn cynnwys monitro gofalus a gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau allanol.

Llais ac Ymgysylltiad Disgyblion:Mae grwpiau llais disgyblion newydd wedi'u sefydlu, sy'n cynnwys plant mewn prosesau gwneud penderfyniadau a gwella eu hymgysylltiad â gweithgareddau'r ysgol.

Dywedodd y Pennaeth Gweithredol Claire Cook: "Hoffwn i ddiolch i'n staff am eu gwaith caled a'u hymrwymiad diwyro i'r ysgol. Maen nhw wedi cofleidio'r newidiadau diweddar gyda brwdfrydedd, ac mae eu hymroddiad i welliant parhaus yn ganmoladwy. Mae ymdrechion ein staff addysgu a chymorth yn ganolog i'r cynnydd rydyn ni'n ei wneud, ac rwy'n falch o'r ffordd maen nhw wedi gweithio'n ddiflino i addasu ac arloesi er budd gorau ein plant. 

"Mae staff wedi gweithio ar y cyd ag ysgolion eraill o fewn y ffederasiwn i gryfhau eu datblygiad proffesiynol, gan rannu arbenigedd ac adnoddau sydd wedi bod yn amhrisiadwy. Mae'r dull cydweithredol hwn yn allweddol i sicrhau bod ein staff yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw i ddarparu addysg o ansawdd uchel i'n plant yn Llaneirwg. 

 

"Rydyn ni'n hyderus, trwy fyfyrio parhaus, cydweithredu, ac ymrwymiad cyffredin ar bob lefel i wella, y byddwn ni'n mynd i'r afael â'r meysydd a amlygwyd yn yr adroddiad ac yn parhau i wella'r profiad dysgu a'r cynnydd ar gyfer ein holl blant. Mae'r ysgolion yn edrych ymlaen at ddangos ein cynnydd yn y misoedd nesaf."

Bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â'r argymhellion a roddir yn yr adroddiad arolygu, gan ganolbwyntio ar sicrhau trefniadau arweinyddiaeth hirdymor, gwella ansawdd addysgu, gwella sgiliau disgyblion yn y Gymraeg, darllen ac ysgrifennu, a chynyddu cyfraddau presenoldeb ymhellach.

Mae'r Awdurdod Lleol yn gweithio gyda'r ysgol a rhanddeiliaid allweddol i gwblhau cynlluniau i sefydlu arweinyddiaeth barhaol yn yr ysgol a bydd cynigion yn cael eu cyfathrebu i rieni a chymuned yr ysgol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae Estyn wedi tynnu sylw at ymrwymiad yr ysgol i welliant parhaus, ac mae ymroddiad y staff a'r tîm arwain wedi llwyddo i greu amgylchedd dysgu meithringar ac effeithiol i ddisgyblion. Mae'r cynnydd a wnaed yn y cyfnod byr hwn yn dyst i'w gwaith caled a'u hymrwymiad.

"Ar ôl cyfnod o newid, rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi'r ysgol wrth iddi barhau â'i thaith wella. Bydd cynlluniau yn cael eu gweithredu yn fuan i sefydlu arweinyddiaeth barhaol, gan roi'r sefydlogrwydd sydd ei angen i adeiladu ar y sylfaen gadarn o ddysgu cadarnhaol o ansawdd uchel sydd eisoes ar waith."

Ar adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg 158 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae 18.9% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac mae 6.4% o'r disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.