29.4.25
Bydd Castell Caerdydd yn cael ei oleuo'n goch wrth i Gaerdydd nodi pen-blwydd Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn 80 oed, gyda phicnic dathlu arbennig ar dir y Castell, partïon stryd dan ofal preswylwyr y ddinas, ac arddangosfa 'Dyddiau Buddugoliaeth' yn Amgueddfa Caerdydd yn dangos sut gwnaeth trigolion y ddinas ddathlu diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Dathliadau Diwrnod VE, Parc y Mynydd Bychan, 9 Mehefin 1945. Llun gan: Amgueddfa Caerdydd
Bydd y picnic, sy'n cael ei drefnu gan Gyngor Caerdydd a'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gynnal ym man agored cyhoeddus y Castell rhwng 11am a 5pm ar Ddydd Llun Gwyl Banc 5 Mai.
Bydd y digwyddiad, sy'n addas i deuluoedd, yn cynnwys adloniant amrywiol am ddim. Bydd cerddoriaeth o'r llwyfan bandiau, diddanwyr yn crwydro'r maes yn perfformio sioeau syrcas a sioeau pypedau, a gweithgareddau crefft i blant.
Bydd Amgueddfa Firing Line Gwarchodlu Dragŵn Y Frenhines a'r Gatrawd Frenhinol Gymreig hefyd yn cymryd rhan yn y dathliadau gydag arddangosfa o arteffactau o'r Ail Ryfel Byd a thanciau bach wedi'u rheoli o bell i chwarae gyda nhw.
Does dim tâl y ymuno â'r digwyddiad, ac nid oes angen tocynnau - dewch â'ch ffrindiau a'ch teulu at ei gilydd, paciwch bicnic, bachwch flanced, a dewch i fwynhau'r hwyl.
Mae'r digwyddiad yn rhan oymgyrch Gŵyl Fwyd Prydain Fawr.Dan arweiniad Together Coalition, nod yr ymgyrch yw dod â chymunedau ledled Cymru a'r DU at ei gilydd i nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop gyda pharti stryd, picnic yn eu parc lleol, neu drwy ymuno â digwyddiad cymunedol lleol.
Bydd waliau allanol Castell Caerdydd yn cael eu goleuo'n goch dros ar nos Fawrth 6 Mai, yn rhan o raglen genedlaethol i nodi'r pen-blwydd.
Mewn arddangosfa arbennig yn Amgueddfa Caerdydd, bydd atgofion trigolion a gwrthrychau fel baneri bach fu'n cyhwfan dros Landaf a rhaglen dathliadau Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop Parc y Mynydd Bychan, yn dangos sut gwnaeth Caerdydd ddathlu'r Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop gwreiddiol a'r Diwrnod Buddugoliaeth yn Japan gwreiddiol 80 mlynedd yn ôl.
Yn eu plith bydd Cynthia, sy'n cofio mynd i ddosbarth dawns gyda ffrindiau yn ystod blynyddoedd y rhyfel a chael ffrog wedi'i gwneud o sidan parasiwt, ac Ann sy'n cofio Parti Buddugoliaeth yn Ewrop yn Bangor Street, a'r brechdanau a wnaeth ei mam o banas stwnsh gyda rhinflas banana.
Mae'r arddangosfa am ddim yn Amgueddfa Caerdydd (Yr Ais, canol dinas Caerdydd) ac ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Gwener 2 Mai tan ddydd Sadwrn 10 Mai.
Mae trigolion nifer o strydoedd preswyl hefyd wedi trefnu partïon stryd cymunedol ar Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop.
I feithrin ymdeimlad o undod ac ysbryd cymunedol, cynigiwyd cyfle i breswylwyr gyflwyno ceisiadau i gynnal partïon stryd ar Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop dros Benwythnos Gŵyl y Banc.
Oherwydd setliad mwy ffafriol o ran y gyllideb, bu modd i'r Cyngor neilltuo cyllid untro yn y flwyddyn ariannol hon ac felly peidio â hawlio'r costau sy'n gysylltiedig fel arfer â chau ffyrdd ar gyfer partïon stryd cymunedol. Gwnaed hyn ar yr amod bod partïon Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn anfasnachol eu natur, sy'n golygu nad oes unrhyw gynhyrchion nac adloniant i'w werthu i fynychwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn nodi diwedd bron i chwe blynedd o ryfel, ar draul bywyd miliynau o bobl. Mae'n ddigwyddiad arwyddocaol yn ein hanes ac yn un y dylid ei gofio.
"Efallai mai eleni fydd un o'n cyfleoedd olaf i anrhydeddu cyn-filwyr sy'n dal yn fyw ac a aberthodd cymaint ac ymladd mor ddewr dros ryddid a democratiaeth. Mae clywed straeon trigolion drwy arddangosfa Dyddiau Buddugoliaeth, goleuo muriau Castell Caerdydd yn goch a gwahodd trigolion y ddinas i ddod ynghyd fel ffrindiau a theuluoedd yn lleoliad eiconig Caerdydd yn ffordd arbennig o ddangos ein diolchgarwch iddynt a'n parch tuag atynt.
"Rwy'n gobeithio y bydd cymunedau ledled y ddinas yn ymuno â ni mewn heddwch ac undod, i nodi'r pen-blwydd pwysig hwn."