Back
Goroeswr yr Holocost yn derbyn Gwobr Heddwch gan Gaerdydd ar 80 mlwyddiant Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop

08/05/25

Mewn arwydd emosiynol a symbolaidd o ewyllys da, mae Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Helen Lloyd Jones, wedi dyfarnu Gwobr Heddwch Bersonol i Eva Clarke, goroeswr yr Holocost a gafodd ei geni yn ystod dyddiau olaf yr Ail Ryfel Byd.

An old person standing at a podiumAI-generated content may be incorrect.

Eva Clarke yn siarad yn Seremoni Diwrnod Cofio'r Holocost Genedlaethol Cymru a gynhaliwyd yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd ar 27 Ionawr 2025

 

Mae'r gydnabyddiaeth arbennig hon, a roddwyd ar 80 mlwyddiant Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, yn tanlinellu taith ryfeddol Eva Clarke, a aned yng ngwersyll-garchar Mauthausen, Awstria, ar 29 Ebrill, 1945, ychydig ddyddiau cyn i'r rhyfel ddod i ben ar 8 Mai, 1945.

Gwyrth oedd goroesiad Eva Clarke.  Cafodd siambrau nwy'r gwersyll eu dinistrio ar 28 Ebrill, 1945, ac agorodd yr Americanwyr Mauthausen ychydig ddyddiau ar ôl genedigaeth Eva. Yn drasig, roedd y rhan fwyaf o'i theulu wedi cael eu llofruddio yn Auschwitz-Birkenau, gan gynnwys tri o'i neiniau a theidiau, ei thad, ewythrod, modrybedd, a'i chefnder 7 oed, Peter.  Eva a'i mam oedd yr unig oroeswyr o'u teulu.

Trwy gydol ei hoes, mae Eva wedi gweithio'n ddiflino gydag Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost i godi ymwybyddiaeth o erchyllterau'r Holocost a chondemnio hil-laddiadau ble bynnag maen nhw'n digwydd.  Cymerodd ran yn Niwrnod Cofio'r Holocost eleni yng Nghaerdydd  ac mae ei hymroddiad i rannu profiadau ei theulu wedi bod yn amhrisiadwy i sicrhau na chaiff erchyllterau'r gorffennol byth eu hanghofio a bod cenedlaethau'r dyfodol yn dysgu pwysigrwydd goddefgarwch, dealltwriaeth a hawliau dynol.

A person wearing a gold necklaceAI-generated content may be incorrect.

Mynegodd Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Helen Lloyd Jones

 

Mynegodd Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Helen Lloyd Jones, edmygedd o ddewrder a gwytnwch Eva, gan ddweud: "Mae stori Eva Clarke yn atgof pwerus o gryfder parhaol yr ysbryd dynol. Mae'n anrhydedd i ni gydnabod ei chyfraniadau i'n cymuned a thu hwnt. Mae ei pharodrwydd i rannu'r profiadau torcalonnus a ddioddefodd ei theulu yn sicrhau na chaiff erchyllterau'r Holocost byth eu hanghofio a bod cenedlaethau'r dyfodol yn deall pwysigrwydd cofio'r gorffennol i atal erchyllterau o'r fath rhag digwydd eto.

"Mae taith bywyd Eva, o ddyddiau dirdynnol ei geni i'w chyfraniadau at heddwch, yn ysbrydoliaeth i bawb.  Mae'r Wobr Heddwch a roddwyd iddi yn symbol o barch a diolchgarwch dwysaf Caerdydd am ei hymdrechion diflino i hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth."

A close-up of a documentAI-generated content may be incorrect.

Y Wobr Heddwch Rhoddwyd i Eva Clarke 8 Mai, 2025

 

Ym 1933, pan ddaeth Hitler i rym, gadawodd tad Eva, Bernd Nathan, Hamburg a symud i Prague.  Yno, cyfarfu â mam Eva, Anka Kauderová. Priododd y cwpl ar 15 Mai, 1940. Ym mis Rhagfyr 1941, fe'u hanfonwyd i Terezín (Theresienstadt), lle buon nhw am dair blynedd. Roedden nhw'n ifanc, yn gryf, ac yn gallu gweithio.

Yn ystod eu hamser yn Terezín, beichiogodd Anka gyda mab, Dan.  Pan ddarganfu'r Natsïaid hyn, gorfodwyd rhieni Eva i lofnodi dogfen yn nodi, pan fyddai'r babi'n cael ei eni, y byddai'n rhaid ei drosglwyddo i'r Gestapo. Yn drasig, bu farw Dan o niwmonia yn ddau fis oed.  Achubodd ei farwolaeth ef fywyd Eva, yn anfwriadol - pe bai Anka wedi cyrraedd Auschwitz-Birkenau gyda babi, byddai wedi cael ei hanfon ar unwaith i'r siambrau nwy. Fodd bynnag, gan iddi gyrraedd heb fabi, a gan nad oedd yn amlwg feichiog gydag Eva, goroesodd.

Roedd Anka yn Auschwitz-Birkenau rhwng 1-10 Hydref, 1944. Roedd hi wedi gwirfoddoli i ddilyn ei gŵr, a oedd wedi cael ei anfon yno.  Yn drasig, ni welodd ei gŵr byth eto, ac ni ddysgodd erioed ei bod hi'n feichiog. Ar ôl y rhyfel, darganfu ei fod wedi cael ei saethu ar 18 Ionawr, 1945, lai nag wythnos cyn i'r Fyddin Goch ryddhau'r gwersyll.

Gan nad oedd Anka yn amlwg feichiog a'i bod hi'n cael ei hystyried yn addas i weithio, cafodd ei hanfon allan o Auschwitz i weithio mewn ffatri arfau yn Freiberg, ger Dresden. Roedd hi yno am chwe mis - yn mynd yn wannach ac, ar yr un pryd, yn dod yn fwy amlwg o feichiog. Erbyn gwanwyn 1945, roedd yr Almaenwyr yn encilio ac yn gwagio gwersyll-garcharau a gwersyllodd llafur gorfodol. Gorfodwyd mam Eva a'i chyd-garcharorion ar drên: nid tryciau gwartheg y tro hwn ond tryciau glo - roedden nhw'n agored i'r gwynt a'r glaw ac, yn amlwg, yn frwnt. Ni chawsant unrhyw fwyd a phrin unrhyw ddŵr yn ystod yr hyn a ddaeth yn daith hunllefus o dair wythnos o amgylch cefn gwlad Tsiecaidd. Doedd y Natsïaid ddim yn gwybod beth i'w wneud gyda'u 'cargo a oedd yn marw'.

Cyrhaeddodd y trên wersyll-garchar Mauthausen yn y pen draw. Cafodd Anka gymaint o sioc pan welodd enw'r gwersyll drwg-enwog hwn nes i'w hesgoriad ddechrau a ganwyd Eva ar drol, yn yr awyr agored, heb unrhyw gymorth, boed yn feddygol neu fel arall. Erbyn hyn, roedd Anka yn pwyso tua phum stôn (35 kg) - roedd hi'n edrych fel sgerbwd beichiog hanner byw. Roedd Eva yn pwyso tua 3 phwys (1.5 kg). Pe na bai siambrau nwy'r gwersyll wedi cael eu dinistrio ar 28 Ebrill, 1945, a phe na bai'r Americanwyr wedi rhyddhau Mauthausen ychydig ddyddiau ar ôl genedigaeth Eva, ni fyddai'r fam na'r plentyn wedi goroesi.

Ym 1948, dychwelodd Eva a'i mam i Prague, lle priododd Anka lysdad Eva ym mis Chwefror 1948.  Yn yr un flwyddyn, gwnaethant ymfudo i'r DU ac ymgartrefu yng Nghaerdydd. Yn ddiweddarach, cyfarfu Eva â'i gŵr, myfyriwr yn y Gyfraith o'r Fenni a aeth ymlaen i fod yn Athro yn y Gyfraith yng Nghaergrawnt. Symudodd i Gaergrawnt i fod gydag ef.