8/5/2025
Mae Ysgol Gynradd Windsor Clive yn Nhrelái yn falch o gyhoeddi ei bod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Ysgolion Tes 2025 - dathliad cenedlaethol sy'n cael ei adnabod fel 'Oscars y byd addysg'.
Mae'r ysgol wedi cael ei chydnabod yng nghategori Menter Iechyd Meddwl Disgyblion y Flwyddyn, gan sefyll allan am ei hymrwymiad rhagorol i gefnogi lles myfyrwyr.
Ysgol Gynradd Windsor Clive yw'r unig ysgol gynradd yng Nghymru i gyrraedd y rhestr fer mewn unrhyw gategori, sy'n gyflawniad sylweddol i'r ysgol, ei disgyblion, a'r gymuned ehangach.
Mae Gwobrau Ysgolion Tes yn anrhydeddu'r unigolion a'r sefydliadau mwyaf ysbrydoledig o bob rhan o sectorau gwladol ac annibynnol y Deyrnas Unedig, gan gynnwys addysg y blynyddoedd cynnar, addysg gynradd ac addysg uwchradd.
Eleni, adolygodd panel arbenigol o arweinwyr addysg geisiadau ar draws 22 categori, gan gynnwys gwobr newydd ar gyfer 'Ymddiriedolaeth Gynhwysol y Flwyddyn'. Bydd 'Gwobr Cyflawniad Oes' arbennig hefyd yn cael ei datgelu yn ystod y noson wobrwyo.
Dywedodd Kim Fisher, Pennaeth Ysgol Gynradd Windsor Clive:Rydyn ni wrth ein bodd i fod ar y rhestr fer ar gyfer gwobr mor fawreddog. Mae hyn yn gydnabyddiaeth am y gwaith caled sydd wedi'i wneud i sicrhau bod iechyd meddwl a lles plant yn flaenoriaeth. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yn y seremoni wobrwyo.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol mor uchel ei pharch yn anrhydedd enfawr i Ysgol Gynradd Windsor Clive a chymuned gyfan yr ysgol.
"Dylen nhw deimlo'n arbennig o falch bod yr ysgol yn chwifio'r faner dros Gymru ac yn dangos effaith eu gwaith ar iechyd meddwl disgyblion. Llongyfarchiadau a phob lwc yn y seremoni wobrwyo."
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig ar 20 Mehefin 2025 yng ngwesty mawreddog Grosvenor House Hotel, Park Lane, Llundain.