8/5/2025
Mae dros 10,000 o blant ysgol yn coffáu 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop gyda phicnic arbennig wedi ei ddarparu gan Wasanaeth Arlwyo Addysg Caerdydd.
Bydd disgyblion o 83 o ysgolion cynradd ac arbennig ledled y ddinas yn nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop trwy fwynhau picnic i ginio.
Mae sawl ysgol yn dathlu gydag addurniadau Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop ac yn gwisgo'r lliwiau coch, gwyn a glas i gofio'r diwrnod pan ddaeth ymladd yn yr Almaen Natsïaidd yn Ewrop i ben ar 8 Mai 1945.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae'n galonogol gweld cymaint o'n plant ieuengaf yn dod at ei gilydd i anrhydeddu 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop. Trwy fwyd, lliw a chofio, mae ein hysgolion yn helpu cenhedlaeth newydd i ddeall arwyddocâd heddwch, undod, a'r aberth a wnaed dros ein rhyddid."
Mae'r picnic arbennig ar Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn rhan o gyfres o fwydlenni thematig a ddarparwyd gan Wasanaeth Arlwyo Addysg Caerdydd, sydd wedi'u cynllunio i helpu plant i ddathlu digwyddiadau allweddol drwy gydol y flwyddyn.