12/05/25
Mae gofalwyr maeth yn annog eraill i ystyried maethu plentyn a chreu cysylltiadau oes yng Nghaerdydd.
Cynhelir Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch faethu fwyaf y flwyddyn, rhwng Mai 12 a Mai 25 eleni, gyda thema sy'n dathlu pŵer perthnasoedd.
Boed yn gyswllt clós rhwng gofalwr a phlentyn, y berthynas sy'n cael ei chreu gyda gweithwyr cymdeithasol cefnogol, neu'r cyfeillgarwch sy'n datblygu gyda gofalwyr maeth eraill o fewn cymuned, mae perthnasoedd cryf yn llinyn aur sy'n rhedeg trwy'r holl straeon maethu.
Yng Nghymru, mae dros 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru yn bwriadu recriwtio 800 o ofalwyr ychwanegol erbyn 2026.
Rhannodd Tanyaei stori am y perthnasoedd parhaol a ffurfiodd o ganlyniad i faethu trwy Faethu CymruCaerdydd.
Dywedodd hi: "Fe wnaethon ni faethu brawd a chwaer am 9 mlynedd nes iddyn nhw symud i annibyniaeth. Maen nhw'n 21 a 18 nawr. Maen nhw'n dal i gadw mewn cysylltiad ac yn ymweld â ni yn aml, ac mae'r ddau yn dweud eu bod nhw'n ddiolchgar am y bywyd gawson nhw gyda ni gan ein bod wedi rhoi sefydlogrwydd iddyn nhw. Mae'n hyfryd eu gweld nhw'n tyfu'n oedolion hyderus, annibynnol sy'n dal i fod yn rhan o'n bywydau."
Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant: "Mae gofalwyr maeth yn gwneud gwaith anhygoel drwy gydol y flwyddyn, ond mae Pythefnos Gofal Maeth yn gyfle hanfodol i dynnu sylw at yr effaith anhygoel y mae gofalwyr maeth yn ei chael ar fywydau plant a phobl ifanc yn ein dinas. Mae thema dathlu pŵer perthnasoedd yn adleisio ein cenhadaeth i ddarparu amgylcheddau sefydlog, meithringar lle mae plant yn gallu ffynnu.
"Nid yw maethu'n ymwneud â darparu cartref yn unig; mae'n ymwneud â meithrin cysylltiadau parhaol sy'n cefnogi plant trwy eu blynyddoedd ffurfiannol a'r tu hwnt. Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i'n holl ofalwyr maeth sydd, fel Tanya, wedi dangos cariad ac ymrwymiad diysgog, gan helpu plant i dyfu'n oedolion hyderus ac annibynnol.
"Os ydych chi erioed wedi meddwl am faethu, yna cymerwch y cam hwnnw ac ymunwch â'n cymuned o ofalwyr. Mae eich cefnogaeth chi'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr ym mywyd plentyn, gan greu bondiau sy'n para am oes."
I ddarganfod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Nghaerdydd ewch i:
Maethu Yng Nghaerdydd | Maethu Cymru Caerdydd
Dewch i gwrdd â'ch tîm Maethu Cymru lleol yn: