13/5/2025
Mae disgyblion o Willows High ar fin cychwyn ar raglen gyfoethogi sydd wedi'i chynllunio i ddarparu profiad ymarferol mewn gyrfaoedd adeiladu a STEM.
Mae "Adeiladu Dyfodol Llewyrchus" yn brosiect cydweithredol rhwng Ysgol Uwchradd Willows a Morgan Sindall Construction, y contractwyr a ddewiswyd i ddylunio a darparu'r ysgol newydd sbon gwerth £60m.
Mae'r rhaglen ar gyfer disgyblion Blwyddyn 8 a 9, a'r disgyblion hynny ym Mlwyddyn 10 sy'n arbenigo mewn meysydd sy'n gysylltiedig ag adeiladu, yn anelu at helpu dysgwyr i wneud dewisiadau gwybodus am eu dewisiadau TGAU a'u llwybrau gyrfa yn y dyfodol. Trwy gyfres o sesiynau rhyngweithiol, bydd disgyblion yn cael cip gwerthfawr ar wahanol agweddau ar y diwydiant adeiladu, o reoli prosiect i gynaliadwyedd, sy'n cysylltu â'r cwricwlwm ac yn darparu cyfleoedd dysgu dilys.
Mae uchafbwyntiau'r rhaglen yn cynnwys:
Dywedodd pennaeth Ysgol Uwchradd Willows, Chris Norman: "Rydyn ni'n falch iawn o'n Rhaglen Gyfoethogi, sy'n rhoi cyfle i'n disgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau na fydden ni o reidrwydd yn gallu eu ffitio i mewn i'r diwrnod ysgol arferol ac na fyddai ar gael y tu allan i'r ysgol.
"Mae'r opsiwn newydd hwn, a ddarperir gan Morgan Sindall, yn ychwanegiad gwych i'n darpariaeth ac nid yn unig yn rhoi cyfle i ddisgyblion fod yn rhan o ddatblygu ac adeiladu'r ysgol newydd ond hefyd yn rhoi sgiliau bywyd pwysig iddyn nhw a fydd o fudd iddyn nhw yn y dyfodol."
Dywedodd Robert Williams, Cyfarwyddwr Ardal Morgan Sindall yng Nghymru:"Mae'r prosiect Adeiladu Dyfodol Llewyrchus yn golygu llawer i dîm Morgan Sindall yng Nghymru. Rydym yn angerddol iawn am ddangos i bobl ifanc yr holl gyfleoedd gwych sydd ar gael sy'n gysylltiedig ag adeiladu, ac mae'r rhaglen hon yn ffordd ardderchog o roi gwybodaeth a phrofiad ymarferol iddynt i ysbrydoli gyrfaoedd yn y sector yn y dyfodol. Gall llawer o ddisgyblion hyd yn oed fwynhau'r cyfle unigryw i fod yn rhan o'r gwaith o adeiladu eu hysgol newydd.
"Bydd y rhaglen hon hefyd yn helpu i gryfhau sector amgylchedd adeiledig Caerdydd, gan greu gweithlu medrus, ymgysylltiedig ac amrywiol ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Mae'r gefnogaeth gan Gyngor Caerdydd wedi bod yn hanfodol i ddod â'r prosiect hwn yn fyw ac mae wedi bod yn bleser cydweithio mewn sawl ffordd. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at fynd i'r afael â'r rhaglen."
Dywedodd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae'r cyfle cyffrous hwn yn rhoi cipolwg cynhwysfawr i ddisgyblion ar y diwydiant adeiladu yn unol â'r cwricwlwm.
"Mae darparu cyfleoedd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth yn hanfodol ac mae'r rhaglen gyfoethogi yn cynnig cyfle unigryw i ddisgyblion gymryd rhan yn natblygiad yr ysgol newydd, y bydd llawer ohonynt yn cael ei mwynhau.
"Mae'n cynnig gwybodaeth werthfawr i ddysgwyr i'w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eu TGAU a'u llwybrau gyrfaol yn y dyfodol, gan helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr adeiladu proffesiynol."
Mae "Adeiladu Dyfodol Llewyrchus" yn rhan o raglen ymgysylltu ag ysgolion Morgan Sindall a ddarperir o dan y fenter Buddion Lles Cymunedol sy'n gysylltiedig ag adeiladu ysgol uwchradd newydd Willows.
Mae Buddion Lles Cymunedol (BLlC), neu Werth Cymdeithasol yn flaenorol, wedi'u cynllunio i fod o fudd i gymunedau lleol. Mae'n ofynnol i gontractwyr sy'n cyflawni prosiectau datblygu gwerth mwy na £250k gyflwyno cynllun cyflawni cyffredinol sy'n amlinellu eu dull gweithredu ac maent yn cael eu cefnogi gan y Cyngor i gyflawni eu hymrwymiadau i gymunedau drwy gydol cylch bywyd y prosiect.
Maent yn canolbwyntio ar: