Mae'r mudiad, sy’n bartneriaeth rhwng Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sy’n gweithio gyda'i gilydd i wneud Caerdydd yn Ddinas sy'n Deall Dementia, yn cefnogi wythnos weithredu flynyddol y Gymdeithas Alzheimer's unwaith eto i annog pobl i weithredu ar ddementia.
Mae derbyn diagnosis yn gam hanfodol i unigolion sy'n byw gyda dementia, gan ei fod yn eu galluogi i gael mynediad at wasanaethau gofal, triniaeth a chymorth hanfodol.
Mae'r wythnos hon yn gyfle amserol i dynnu sylw at y wybodaeth, y cyngor a'r gefnogaeth sydd ar gael ar y wefan Caerdydd sy'n Deall Dementia, sy'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i'r rhai sy'n pryderu am eu cof, cyngor ymarferol a chyfeiriad at adnoddau a chefnogaeth bellach, yn ogystal â manylion am ddigwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd a gynhelir ledled y ddinas ar gyfer unigolion sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Leonora Thomson, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion: "Mae Wythnos Gweithredu ar Ddementia yn ein hatgoffa o bwysigrwydd diagnosis cynnar a'r gwahaniaeth y gall ei wneud ym mywydau pobl. Drwy Gaerdydd sy'n Deall Dementia, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb y mae dementia yn effeithio arnynt yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u deall a'u bod yn teimlo’n gysylltiedig â'u cymunedau.
"O gyngor ymarferol a digwyddiadau cynhwysol,
i'n rhwydwaith cynyddol o fusnesau sy’n deall dementia, rydym yn falch o fod yn
creu dinas lle gall pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr fyw'n dda."
Ymhlith yr adnoddau defnyddiol ar y wefan Caerdydd sy'n Deall Dementia mae dolen i ganllaw ar sut i leihau'r risg o ddatblygu dementia. Mae'r canllaw hefyd ar gael mewn fersiwn hawdd ei darllen.
Gyda chefnogaeth Caerdydd sy'n Deall Dementia, mae mwy na 700 o fusnesau ledled y ddinas a Bro Morgannwg wedi addo bod yn ystyriol o ddementia drwy gymryd camau i fod yn fwy croesawgar a hygyrch i bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. (Dewch yn Fusnes neu Sefydliad sy'n Deall Dementia - Caerdydd sy’n Deall Dementia)
Mae llyfrau ar y rhestr ddarllen Darllen yn Well ar gyfer Dementia newydd ar gael mewn hybiau a llyfrgelloedd i helpu pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr ac aelodau o'r teulu, gan gynnwys plant iau, i ddeall mwy am ddementia. Mae'r rhestr lyfrau yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ddibynadwy yn ogystal â straeon personol a llyfrau i blant sy'n briodol i’w hoedran.
Mae hybiau a llyfrgelloedd ledled y ddinas yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n ystyriol o ddementia bob wythnos gan gynnwys caffis dementia, gweithgareddau hel atgofion, sesiynau cyd-ganu a sesiynau ymarfer corff lefel isel. Mae manylion yr hyn sydd ar gael yma Digwyddiadau | Hybiau Caerdydd: Hybiau Caerdydd
Mae Hybiau i Bawb yn wasanaeth newydd sy'n darparu amgylchedd diogel, gofalgar a difyr i bobl yng nghyfnodau cynnar dementia. Mae'r sesiynau'n cadw'r mynychwyr yn weithgar yn gymdeithasol ac yn gysylltiedig â'u cymuned, tra’n rhoi cyfle i'r rhai sy'n gofalu amdanynt gymryd hoe ac adfywio, yn gwybod bod eu hanwyliaid yn ddiogel.
Mae'r gweithgareddau yn cynnwys crefftau, cwisiau a chwaraeon ar eich eistedd ac yn canolbwyntio ar ysgogiad gwybyddol, cadw i symud, rhyngweithio cymdeithasol a meithrin emosiynau cadarnhaol. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael yn Hybiau Rhiwbeina, Llaneirwg, Grangetown ac Ystum Taf ar hyn o bryd. Ffoniwch 02920 234272 neu e-bostiwch hybiauibawb@caerdydd.gov.uk am fwy o wybodaeth.