Back
Canmol Ysgol Gynradd Mount Stuart am ei hethos cynhwysol a'i chymuned gref yn yr arolygiad diweddaraf gan Estyn

 

29/5/2025

Mae Ysgol Gynradd Mount Stuart yn Butetown, Caerdydd, wedi derbyn adroddiad disglair gan Estyn, yr Arolygiaeth dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, yn dilyn ei harolygiad diweddar. 

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr ysgol fel "ysgol groesawgar a chynhwysol gyda gweledigaeth glir sy'n dod â staff, disgyblion a rhieni at ei gilydd."  Canmolodd arolygwyr werthoedd cryf yr ysgol o barch, gwytnwch a chreadigrwydd, sy'n sail i ddiwylliant dysgu bywiog ac yn galluogi disgyblion i ddatblygu hyder a chariad gwirioneddol at ddysgu.

Tynnodd Estyn sylw at weithrediad llwyddiannus cwricwlwm cyfoethog ac amrywiol yr ysygol gydag arweinwyr wedi ymrwymo'n gryf i ymgorffori gwrth-hiliaeth ac amrywiaeth. Maent yn arwain dysgu proffesiynol sy'n helpu eraill i ddyfnhau eu dealltwriaeth o arferion gorau mewn amrywiaeth a datblygiad cwricwlwm, o fewn yr ysgol ac yn ehangach. 

Mae cwricwlwm yr ysgol yn adlewyrchu'n gryf ei chymuned amrywiol ac mae staff yn cynllunio profiadau dysgu yn ofalus i sicrhau cynrychiolaeth o bob diwylliant a chrefydd.  Mae hyn yn ehangu safbwyntiau disgyblion ac yn cryfhau'r amgylchedd dysgu cynhwysol.  Mae'r cwricwlwm deinamig, pwrpasol yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion ymgysylltu'n frwdfrydig â'r celfyddydau ac i wneud cysylltiadau rhwng Cymru a diwylliannau eraill ac mae bron pob disgybl yn teimlo wedi eu hysbrydoli gan y cwricwlwm ac yn cysylltu'n dda â'u dysgu.

Canmolwyd yr ysgol hefyd am:

  • Berthnasoedd cadarnhaol rhwng staff, disgyblion a theuluoedd, gan greu ymdeimlad cryf o gymuned.
  • Cwricwlwm amrywiol a diddorol, gan gynnwys cyfleoedd rhagorol yn y celfyddydau.
  • Ymrwymiad i amrywiaeth a gwrth-hiliaeth, gyda staff yn darparu cymorth hyfforddi i ysgolion eraill.
  • Disgwyliadau uchel ar gyfer sgiliau iaith a chyfathrebu, gyda chefnogaeth amgylchedd amlieithog yr ysgol.
  • Darpariaeth blynyddoedd cynnar wedi'i strwythuro'n dda sy'n meithrin annibyniaeth a chwilfrydedd mewn dysgwyr ifanc.

Gyda 56.8% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol a 41.3% yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, nodwyd bod llwyddiant yr ysgol wrth hyrwyddo cynhwysiant a chynnydd academaidd yn gryfder allweddol.  Canmolodd y tîm arolygu hefyd ymrwymiad yr ysgol i lais disgyblion a'r ffordd y mae plant hŷn yn cael eu hannog i arwain ar faterion sy'n bwysig iddynt.

Croesawodd y pennaeth Helen Borley, sydd wedi arwain yr ysgol ers 2017, yr adroddiad, gan ddweud:"Rydym wrth ein bodd gyda'r ffordd y mae'r adroddiad yn adlewyrchu gwaith caled ac ymrwymiad y tîm staff cyfan i wneud ein gorau glas dros gymuned yr ysgol."

Dwedodd yr Athro Gary Beauchamp, Cadeirydd y Llywodraethwyr; Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at falchder aruthrol a gwaith caledhollaelodau cymuned yr ysgol yn ymdrechu i gynnig y cyfleoedd gorau i bob dysgwr a'u teuluoedd."

Nododd Estyn dri maes allweddol ar gyfer datblygu pellach ymae llywodraethwyr ac arweinwyr ysgol eisoes wedi ymrwymo i fynd i'r afael â nhw drwy gamau gweithredu cadarn. Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • Sicrhau bod disgyblion yn cymhwyso sgiliau rhifedd ar draws y cwricwlwm
  • Ehangu'r ystod o sgiliau digidol y gall disgyblion gael mynediad atynt
  • Gwella presenoldeb disgyblion

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae Estyn wedi cydnabod craidd yr hyn sy'n gwneud Ysgol Gynradd Mount Stuart mor arbennig - amgylchedd cynnes, cynhwysol lle mae pob plentyn yn cael ei werthfawrogi a'i gefnogi. Mae'r gwerthoedd cryf o barch, gwytnwch a chreadigrwydd yn cael eu cydnabod yn yr adroddiad ac mae ymroddiad staff, cryfder y gymuned, a brwdfrydedd disgyblion, yn gwneud yr ysgol yn lle bywiog ac ysbrydoledig i ddysgu."

Ar adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol Gynradd Mount Stuart 433 o ddisgyblion ar y gofrestr gyda 3.6% o ddisgyblion yn nodi bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol.