Back
Trawsnewidiad Trem y Môr yn cyrraedd uchelfannau newydd
6/6/25

Mae Cyngor Caerdydd a'r datblygwyr partner Wates Residential heddiw wedi dathlu gosod y garreg gopa ar floc newydd o fflatiau Byw'n Annibynnol, sy’n rhan o waith adfywio ystâd Trem y Môr yn Grangetown.

Mae'r pwynt uchaf yn y gwaith o adeiladu Bloc B, a fydd yn darparu 24 o gartrefi cyngor ynni-effeithlon iawn i bobl hŷn, bellach wedi'i gyrraedd ac mae disgwyl i'r fflatiau fod yn barod ar gyfer preswylwyr y flwyddyn nesaf.

Yn chwe llawr o uchder, mae Bloc B yn un o ddau floc sy'n cael eu codi, gyda chefnogaeth Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yng Ngham 1 ailddatblygiad ehangach Trem y Môr. Bydd y blociau yn darparu 126 o fflatiau cyngor hygyrch ac addasadwy i bobl hŷn yn lle’r bloc tŵr presennol ar yr ystâd. Disgwylir cwblhau Bloc A, a fydd yn cynnwys 102 o fflatiau Byw yn y Gymuned, cyfleusterau cymunedol helaeth, teras ar y to a chaffi, yn 2027.

Yn ymuno â’r Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, yn y digwyddiad heddiw i osod y garreg copa oedd Edward Rees, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru, Wates Residential.

Dwedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae hwn yn gam pwysig ymlaen yn ailddatblygiad Trem y Môr. Mae gweld Bloc B yn cyrraedd ei bwynt uchaf yn dod â ni'n agosach at ddarparu cartrefi o ansawdd uchel, ynni-effeithlon sy'n diwallu anghenion trigolion hŷn yn ein dinas.

“Mae'r golygfeydd godidog rydyn ni wedi'u mwynhau o ben yr adeilad heddiw yn rhagolwg bach o'r olygfa ar draws yr afon a'r bae y bydd preswylwyr newydd yn gallu ei werthfawrogi o'u teras to cyn hir.

“Mae'n galonogol gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud ar brosiect a fydd nid yn unig yn gwella ein tai ond hefyd yn gwella'r gymuned ehangach trwy fannau cyhoeddus a chysylltedd gwell."

Dwedodd y Cynghorydd Thorne:  "Trem y Môr yw'r ailddatblygiad ystâd mwyaf cyfannol a chyffrous yn ein rhaglen ddatblygu tai gyfan, sydd â'r capasiti i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd i'r ddinas.

"Rydw i wedi bod yn gwylio ffrâm goncrit Bloc B yn codi'n raddol o'r ddaear dros y misoedd diwethaf ac mae'n wych cyrraedd y garreg filltir newydd hon gyda phwynt uchaf Bloc B.”

Dwedodd Edward Rees, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru, Wates Residential: "Mae cyrraedd y garreg filltir hon yn foment falch ac yn peri cyffro go iawn wrth i ni symud yn agosach at groesawu preswylwyr i'w cartrefi newydd. Mae pob manylyn wedi'i ystyried i greu bywydau cyfforddus, diogel ac annibynnol i'r rhai sy'n symud i mewn.

"Dim ond y dechrau yw Bloc B.  Ynghyd â Chyngor Caerdydd, rydym yn llunio cymdogaeth sy'n teimlo'n agored, yn gysylltiedig ac yn llawn bywyd, gyda mannau gwyrdd a mannau a rennir y gall pobl eu mwynhau a bod yn falch ohonynt."

Bydd ailddatblygiad cyffredinol Trem y Môr yn cael ei gyflawni mewn nifer o gamau, gyda thua 180 o’r eiddo presennol a adeiladwyd yn y 1970au yn cael eu disodli gan hyd at 400 o gartrefi carbon isel deiliadaeth gymysg newydd ar gyfer y gymuned bresennol.

Bydd yr adfywio hefyd yn darparu gwell cysylltedd i'r ystâd a'r gymuned ehangach, gwelliannau i'r man agored cyhoeddus ar Y Marl, a chreu ardal gyhoeddus ddeniadol wedi'i rheoli'n dda gan ddefnyddio seilwaith gwyrdd a systemau draenio cynaliadwy (SDCau).