19 Mehefin - Chris Brown
23 Mehefin - Lana Del Ray
4 Gorffennaf a 5 Gorffennaf –
Oasis
11 a 12 Gorffennaf -
Stereophonics
19 Gorffennaf - Kedrick Lamar
1 Awst - Catfish and the Bottlemen
Ac eithrio cyngherddau Oasis,
pan fydd y gatiau'n agor am 4pm, bydd gatiau'r stadiwm yn agor am 5pm ar gyfer
y cyngherddau hyn.
Mae disgwyl i draffordd yr M4
fod yn brysur iawn ar gyfer y cyngherddau hyn - felly cynlluniwch ymlaen llaw -
i osgoi’r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio’r cyfleusterau parcio a
theithio yn y maes parcio ger Arena Vindico ar Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref
Chwaraeon - CF11 0JS.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf
am y draffordd a’r cefnffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru, neu
@TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.
Cynghorir yn gryf i unrhyw un sy'n mynd i’r cyngherddau
hyn i gynllunio eu taith o flaen llaw a mynd i mewn i'r stadiwm yn gynnar.
Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig ar principalitystadium.wales, yn enwedig y polisi bagiau (dim bagiau
mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd
Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a
diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Ar
gyfer yr holl gyngherddau, bydd y ffyrdd canlynol ar gau fel rhan o’r trefniant
cau ffyrdd llawn yng nghanol y ddinas am 3pm tan ganol nos.
· Yn ogystal, bydd Heol Penarth ar gau 30 munud cyn i'r cyngherddau orffen ac am hyd at awr ar ôl iddyn nhw orffen er diogelwch teithwyr trên sy’n cyrraedd ac yn gadael yr orsaf drenau.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir
mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig drwy’r dydd. Caniateir mynediad yn unig i
barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a
mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae’r
ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r
Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi’r Orsedd.
Trenau
Er mwyn helpu i reoli'r cynnydd disgwyliedig yn nifer y teithwyr, bydd Trafnidiaeth Cymru (TC) a Great Western Railway (GWR) yn gweithredu gwasanaethau ychwanegol ac estynedig (trenau gyda mwy o gerbydau nag arfer) i fynd â chwsmeriaid i'r digwyddiadau ac oddi yno'n esmwyth.
Fodd bynnag, gallai peth gwaith peirianneg effeithio ar wasanaethau TC a GWR ac anogir teithwyr i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eu taith - https://www.cymraeg.traveline.cymru/
O ddydd Llun 9 Mehefin tan ddydd Gwener 20 Mehefin, ac ar ddydd Sul 29
Mehefin, mae Network Rail yn gosod trac newydd yn ardaloedd Filton a Stoke
Gifford, yn ogystal â chwblhau gwaith arall rhwng Pilning a Severn Beach.
Mae hyn yn golygu na fydd trenau uniongyrchol rhwng Bryste a De Cymru yn
ystod y dyddiadau hyn, gan gynnwys ar gyfer Cyngerdd Chris Brown ddydd Iau 19
Mehefin. Dylai cwsmeriaid sy'n teithio rhwng
Bryste a De Cymru newid yng Nghaerloyw neu Cheltenham Spa, lle bydd trenau'n
dal i fynd i/o Dde Cymru.
Bydd GWR yn gweithredu gwasanaeth ychwanegol o Gaerdydd i Bristol Temple
Meads (trwy Gaerloyw) ar ôl y cyngerdd, gyda chymorth bysys.
Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau cyn gig Lana Del Ray ar ddydd Llun 23
Mehefin, lle bydd GWR yn gweithredu dau wasanaeth ychwanegol tuag at Bryste
Temple Meads ar ôl y gig, yn ogystal â thrên ychwanegol i Gasnewydd, a
gwasanaethau ychwanegol i Abertawe.
I gyd-fynd â dechrau taith hynod boblogaidd Oasis bydd GWR yn gweithredu
chwe thrên ychwanegol i gael pobl adref, gan ddarparu bron i 4,000 o seddi
ychwanegol, ar gyfer y ddwy noson.
Ar gyfer pob digwyddiad, mae rhybudd i bawb sy’n bwriadu teithio ar drên i
wirio amser eu trên olaf adref, ac i ganiatáu digon o amser - Bydd system giwio yn dechrau o 10pm a
bydd y ciwio ar gyfer gwasanaethau rheilffordd y brif linell ar y Sgwâr
Canolog, a chiwiau'r Cymoedd yng nghefn yr orsaf.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i - https://trc.cymru/lleoedd/digwyddiadau
Sylwer hefyd ar newidiadau
pwysig i weithrediadau gorsafoedd ar ddiwrnodau digwyddiadau:
·
Bydd Cyfnewidfa Fysiau
Caerdydd yn cau am 3pm
·
Bydd Gorsaf Heol y
Frenhines Caerdydd yn cau am 10pm, oni bai bod gan gwsmeriaid ofynion
hygyrchedd neu'n teithio i Fae Caerdydd.
Bydd Arolygwyr Diogelu Refeniw yn cynnal gwiriadau tocynnau cyn ac ar ôl y digwyddiadau.
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Bydd cyfleusterau parcio a theithio digwyddiadau yn
defnyddio’r maes parcio ger Arena Vindico ar Rhodfa Ryngwladol yn y Pentref
Chwaraeon, Bae Caerdydd - CF11 0JS.
Bydd y man gollwng yng nghanol y ddinas ar Ffordd
Tresilian.
Bydd staff ar y safle am
9am, ond bydd y bws cyntaf i ganol y ddinas yn gadael am 11am. Bydd y bws olaf
yn ôl o ganol y ddinas am 12 hanner nos a bydd y safle yn cau’n fuan wedi
hynny.
Y gost yw £15. Arian parod yn unig.
Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod Digwyddiad (Ceir a
Choetsys)
Cyrraedd
yno: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4,
ewch tua’r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i’r ganolfan
ddinesig.
Cost:
£20 yn daladwy ar y diwrnod am gar a £30 i goets – mae taliadau cerdyn hefyd ar
gael nawr.
Amserau
parcio: Bydd y maes parcio yn agor am
8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi
Sophia (ceir)
(Taith
gerdded o tua 0.5 milltir i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio
ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Cyrraedd
yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost:
£20 i geir a £30 i goetsys - mae taliadau cerdyn ar gael nawr.
Amserau
parcio: Bydd y maes parcio yn agor am
8.00am ac yn cau am 12 hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd
ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd
Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo
personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw
gerbydau sy’n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus
lleol:
Caiff
gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch
i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws
penodol.
Ar
gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach
(stagecoachbus.com)
Ar
gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am
ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/
National
Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Bydd y llwybrau beicio a'r
llwybrau beicio dros dro yn yr ardal cau ffyrdd yn dal i fod ar agor i feicwyr
eu defnyddio yn ystod y cyngherddau. Fodd bynnag, oherwydd nifer y bobl a
ddisgwylir, gofynnwn i bob beiciwr gymryd gofal a thalu sylw.
Mae'r
trefniadau cau ffyrdd yn berthnasol i bob cerbyd modur o unrhyw fath, ond nid i
feiciau â phedalau.
Gall
y rheini sy’n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o’r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn
llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y
gellir ei feicio’n hawdd mewn 20 munud.
Gwyddom
hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw’n beicio ar hyn o bryd
roi cynnig arni.
Pan
fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol byth
oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu
ddigwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Mae
meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa
Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries
a Heol y Brodyr Llwydion).
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir
bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia.
Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio
preifat amrywiol.
Gweler
argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Ar
gyfer yr holl gyngherddau, bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i
House of Fraser gynt) yn cau am 3pm ac yn ailagor am hanner nos.