Back
Dathlu cerrig milltir pwysig yn nhwf y Gymraeg a gwasanaethau dwyieithog
13/6/25

Mae Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg Cyngor Caerdydd ar gyfer 2024/25 yn dangos cynnydd sylweddol o ran hyrwyddo'r Gymraeg ar draws y brifddinas.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gyflawniadau allweddol ym meysydd hyfforddi'r gweithlu, addysg, ac ymgysylltu â'r cyhoedd, gan atgyfnerthu uchelgais Caerdydd i fod yn ddinas wirioneddol ddwyieithog.

Mae’r llwyddiannau allweddol hynny’n cynnwys:

  • Cynnydd o 10% yn nifer y staff sy'n siarad Cymraeg, gyda 1,480 o gyflogeion y Cyngor bellach yn adrodd bod sgiliau Cymraeg ganddynt – sy'n cynrychioli bron i 19% o weithlu'r Cyngor.
  • Mae dros 1,400 o staff wedi derbyn hyfforddiant Cymraeg, gan ragori ar darged y Cyngor ar gyfer 2027 ddwy flynedd yn gynt na’r disgwyl.
  • Cyfieithwyd dros 13.8 miliwn o eiriau gan dîm Caerdydd Ddwyieithog, gan gefnogi gwasanaethau mewnol a phartneriaid allanol.

·       Darparwyd 689 awr o gyfieithu ar y pryd i gefnogi 252 o ddigwyddiadau a chyfarfodydd dwyieithog.

  • Mae 17.7% o ddisgyblion dosbarth derbyn a chynnydd i 19.7% o blant meithrin wedi cofrestru mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
  • Mynychodd dros 700 o fyfyrwyr ffair yrfaoedd Gyrfa Gymraeg, gan hyrwyddo llwybrau gyrfa Cymraeg.
  • Tyfodd cyrhaeddiad cyfryngau cymdeithasol Cymraeg i bron i 5,000 o ddilynwyr, gan gynhyrchu dros 450,000 o argraffiadau.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Caerdydd yw'r awdurdod lleol sydd â'r trydydd nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru o hyd, ac mae'n wych gweld y cynnydd sydd wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf wrth i ni weithio i gefnogi nod Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wneud Caerdydd yn brifddinas wirioneddol ddwyieithog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu fel rhan o fywyd bob dydd – o ysgolion a gweithleoedd i wasanaethau cyhoeddus a digwyddiadau diwylliannol.”

Mae dyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i gydymffurfio â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg sy’n sefydlu sut y dylai sefydliadau ddefnyddio’r Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd. Mae disgwyl i Gaerdydd gydymffurfio â 171 o safonau, gan gynnwys y gofyniad i gynhyrchu'r adroddiad cydymffurfio blynyddol hwn.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi rhywbeth hanesyddol a ddigwyddodd am y tro cyntaf erioed – cynhaliwyd asesiad llawn o’r effaith ar y Gymraeg a datblygwyd polisi iaith Gymraeg pwrpasol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl) Caerdydd, gan osod cynsail ar gyfer polisi cynllunio ledled Cymru yn y dyfodol.

Mae’r bartneriaeth ranbarthol Cymraeg i Bawb i hyrwyddo mynediad at addysg Gymraeg yn ne-ddwyrain Cymru, dan gadeiryddiaeth Cyngor Caerdydd, wedi bod yn llwyddiant a bydd nawr yn cael ei hehangu'n genedlaethol gyda’r cyllid gan Lywodraeth Cymru’n cael ei ddyblu.

Wrth edrych ymlaen, bydd y Cyngor yn adolygu ei Strategaeth Caerdydd Ddwyieithog a'i Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn 2025/26 i gyd-fynd â'r CDLl newydd ac yn atgyfnerthu ei ddull o ddefnyddio data i fesur cynnydd.

Bydd y Cabinet yn ystyried yr adroddiad blynyddol ar Safonau’r Gymraeg yn ei gyfarfod nesaf ar 19 Mehefin cyn ei gyhoeddi'n ffurfiol ar Fehefin 30. Mae'r adroddiad llawn ar gael yma https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8733&LLL=1