Bydd yr orymdaith yn
digwydd ar 21 Mehefin gyda ffyrdd yn cau i sicrhau y gellir cynnal yr orymdaith
yn ddiogel.
Am 11am, bydd pobl yn
ymgynnull ar Heol y Porth, cyn y bydd yr orymdaith yn dechrau ei thaith 2
filltir ar hyd Stryd y Castell gan symud i'r Stryd Fawr, ymlaen i Heol Eglwys
Fair, yn ôl i'r Ais, ymlaen i Heol Eglwys Ioan, ar hyd Heol y Frenhines, i fyny
Plas y Parc, yn ôl ar hyd Heol y Brodyr Llwydion, ymlaen i Ffordd y Brenin a
gorffen ar Stryd y Castell.
I hwyluso’r digwyddiadau,
bydd y ffyrdd canlynol ar gau yn ystod yr amseroedd canlynol ar 21 Mehefin.
·
Rhwng 6am a 3pm, bydd Stryd y Castell, o'r gyffordd â Heol y Porth, Heol
y Dug a Ffordd y Brenin i'r gyffordd â Heol y Gogledd ar gau (caniateir
mynediad i fysiau sy'n gadael Heol y Brodyr Llwydion)
·
O 8am tan 2.30pm, bydd y ffyrdd
canlynol ar gau: Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol
Ddwyreiniol y Bont-faen i'r gyffordd â Heol y Gadeirlan, y Stryd Fawr, Heol
Eglwys Fair, Ffordd Churchill a Sgwâr
Callaghan.
·
O 11.00am tan 2.30pm, bydd y ffyrdd canlynol ar gau: - Stryd Wood, Sgwâr
Canolog, Stryd y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott, Heol y Tollty, Heol Eglwys
Fair, Lôn y Felin, Yr Ais, Stryd John, Heol y Frenhines, Plas y Parc, Heol y
Brodyr Llwydion – o'r gyffordd â Boulevard De Nantes drwodd i Ffordd y Brenin.