Back
Gwaith ar y gweill i archwilio opsiynau i sicrhau dyfodol Plasty Hanesyddol Caerdydd

18/06/25

Mae Cyngor Caerdydd wedi dechrau'r broses o edrych ar opsiynau perchnogaeth amgen ar gyfer Y Plasty yn y ddinas, gan sicrhau dyfodol yr adeilad dinesig.

A large stone house with a drivewayAI-generated content may be incorrect.

Plasty Hanesyddol Caerdydd

Mae'r symudiad yn dilyn adroddiad a gymeradwywyd gan aelodau o Gabinet y Cyngor ym mis Tachwedd 2024 a oedd yn cynnwys  argymhelliad i gynnal ymarfer marchnad agored i archwilio opsiynau perchnogaeth ar gyfer yr adeilad.

Unwaith y bydd yr ymarfer marchnad agored wedi'i gwblhau, mae disgwyl i Gabinet y Cyngor gyfarfod eto yn yr Hydref i benderfynu ar yr opsiwn a ffefrir ar gyfer yr adeilad.  

Er bod Cyngor Caerdydd wedi gallu gwneud atgyweiriadau hanfodol, mae angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol ar yr eiddo i fynd i'r afael â phroblemau gyda ffabrig ac adeiladwaith yr adeilad, a'i systemau mecanyddol a thrydanol.

Byddai'r lefel o fuddsoddiad sy'n ofynnol, yn ôl adroddiad mis Tachwedd, "ond yn cael ei gyfiawnhau pe byddai gan y Cyngor ddefnydd gweithredol hirdymor ar gyfer yr eiddo" ond yn anffodus, oherwydd ei gyfyngiadau, nid yw'r Cyngor wedi gallu canfod defnydd amgen addas. Nododd yr adroddiad hefyd fod yr adeilad Rhestredig Gradd II ar hyn o bryd yn cael ei "danddefnyddio gyda'r llawr cyntaf yn anaml yn cael ei ddefnyddio a'r ail lawr wedi'i gau oherwydd ei gyflwr gwael", sydd wedi bod yn wir am dros chwarter canrif. I'r perwyl hwnnw, nid yw'n rhan o anghenion y Cyngor.

Ynghyd â hyn, byddai unrhyw fuddsoddiad ar raddfa fawr yn gofyn am gyllideb cynnal a chadw refeniw cefnogol dros yr hirdymor i fodloni'r gofynion blynyddol i gynnal eiddo rhestredig Gradd II.

Mae gwaith wedi'i wneud i ganfod lleoliadau amgen i gynnal y nifer cyfyngedig o swyddogaethau dinesig a gynhaliwyd yn flaenorol yn y Plasty.

Wrth sôn am y camau diweddaraf sy'n cael eu cymryd, dwedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:  "Mae'r penderfyniad i farchnata'r eiddo i ddarpar berchnogion newydd yn adlewyrchu dull strategol Cyngor Caerdydd o ddatgloi potensial asedau sydd wedi'u tanddefnyddio, a chydbwyso cynnal a chadw adeiladau treftadaeth y ddinas â lleihau'r gost i'r trethdalwr.  Trwy ddechrau proses sydd â'r nod o sicrhau buddsoddiad cyfalaf sylweddol ar y farchnad agored, rydym yn edrych i sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy i'r Plasty rhestredig Gradd II hanesyddol hwn."

Gyda'i leoliad gwych dafliad carreg ar droed o Ganol Dinas Caerdydd, Gorsaf Heol y Frenhines, a Phrifysgol Caerdydd, mae'r Plasty yn cyflwyno cyfle prin ar gyfer ailddefnydd gwahanol. Mae'r eiddo yn rhychwantu tua 16,445 troedfedd sgwâr dros dri llawr ac islawr, ac fe saif mewn 0.83 erw o dir.

Gwahoddir partïon â diddordeb i ddarllen mwy am yr eiddo  ar wefan Savills yma.