Back
Prentis parciau Caerdydd yn ennill Gwobr 'Seren Ddisglair'

19.6.25

Mae prentis parciau Caerdydd wedi ennill Gwobr 'Prentis y Flwyddyn Seren Ddisglair'.

Dywedodd Morgan, a ddechreuodd ei yrfa parciau yn 2019 gyda Phrentisiaeth Sylfaen Cynnal a Chadw Tyweirch Chwaraeon cyn mynd ymlaen i gwblhau prentisiaeth Lefel 3 a sicrhau rôl llawn amser fel rhan o'r tîm sy'n gofalu am gaeau chwaraeon Caerdydd: "Dwi'n falch iawn o fod wedi ennill y wobr gan ei fod yn gydnabyddiaeth o fy ngwaith caled yn ystod y saith mlynedd diwethaf."

A person holding a lawn mowerAI-generated content may be incorrect.

Morgan gyda'i wobr yn un o'r wicedi criced mae'n helpu i ofalu amdanyn nhw.

Mae'r gwobrau'n cael eu rhoi i unigolion sydd wedi rhagori yn eu prentisiaethau ond sydd hefyd wedi dangos ymrwymiad eithriadol, gwytnwch, ac angerdd gwirioneddol am ddysgu a gwasanaeth cyhoeddus. Ar ôl brwydro yn erbyn problemau iechyd difrifol fel plentyn, ac yn fwy diweddar goresgyn tiwmor yr ymennydd, mae Morgan yn ymgorffori'r holl rinweddau hyn a mwy.

"Dwi'n dod i'r gwaith bob dydd gyda gwên ar fy wyneb ac yn ceisio creu'r caeau chwaraeon gorau posibl i bobl eu mwynhau. Dwi'n caru fy swydd, ac yn gobeithio parhau i ddysgu a gwella am flynyddoedd lawer i ddod ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o brentisiaid."                        

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae hon yn gydnabyddiaeth wych ac yn wobr haeddiannol am ymroddiad ac ymrwymiad Morgan i weithio i Gaerdydd. Mae'n enghraifft arbennig o'r hyn y gellir ei gyflawni gyda gwaith caled ac awydd i ddysgu. Dwi'n siŵr bod y tîm cyfan yn falch o'r hyn y mae wedi'i gyflawni yn ystod y blynyddoedd diwethaf."

"Dechreuodd nifer cynyddol o'n parciau eu gyrfaoedd ar un o'n cynlluniau prentisiaeth parciau llwyddiannus, gan ennill bywoliaeth tra hefyd yn ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen i ofalu am fannau gwyrdd penigamp y ddinas."

Er bod ceisiadau am brentisiaethau parciau ar gau ar hyn o bryd, bydd cyfleoedd pellach yn cael eu hysbysebu yn ddiweddarach eleni. Mae Morgan yn argymell gwneud cais am un.

"Mae pawb wedi bod yn gefnogol iawn dros y blynyddoedd," meddai, "a dwi i wedi caru pob munud."

Bydd cyfleoedd prentisiaeth yn y dyfodol yn cael eu hysbysebu yma: www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Swyddi-a-hyfforddiant/