Back
Casglu dŵr glaw yn gwneud parciau Caerdydd yn wyrddach

19.6.25

Mae system casglu dŵr glaw newydd bellach yn cyflenwi hyd at 60% o'r dŵr sydd ei angen i ofalu am y 350,000 o blanhigion sy'n cael eu tyfu mewn tai gwydr ym Mharc Bute bob blwyddyn.

Wedi'i gosod fel rhan o ymateb 'Caerdydd Un Blaned' Cyngor Caerdydd i'r argyfwng hinsawdd, mae'r system yn cynnwys dau danc storio sy'n gallu dal cyfanswm o 48,000 litr. Yn seiliedig ar ddata glawiad diweddar, mae gan y system y potensial i gasglu 1738m3o ddŵr glaw bob blwyddyn. 

A group of people standing in front of a round metal structureAI-generated content may be incorrect.

Y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau (canol) gydag aelodau o'r tîm Parciau a thîm Caerdydd Un Blaned, a chontractwyr o flaen un o'r tanciau storio dŵr.

Cyn cael ei bwmpio yn ôl i'r tai gwydr, mae'r dŵr yn mynd drwy hidlydd UV i ladd unrhyw bathogenau, gan sicrhau bod y planhigion yn cael eu gofalu amdanynt cyn cael eu plannu mewn parciau ledled Caerdydd, eu defnyddio yn y basgedi crog a'r blychau plannu sy'n addurno canol y ddinas, neu eu gwerthu'n uniongyrchol i'r cyhoedd o siop y Blanhigfa yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Bute.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae casglu dŵr glaw sy'n disgyn ar y tai gwydr yn golygu biliau dŵr is, llai o allyriadau carbon a phlanhigion iachach."

"Gall deimlo ei bod bob amser yn bwrw glaw yma yng Nghaerdydd, ond mae dŵr yn adnodd gwerthfawr ac mae'n bwysig ei ddefnyddio'n ddoeth."

Ers datgan argyfwng hinsawdd yn 2019, mae allyriadau carbon a grëwyd yn uniongyrchol gan Gyngor Caerdydd wedi gostwng 18%.

A group of potted plantsAI-generated content may be incorrect.

Rhai o'r 350,000 o blanhigion sy'n cael eu tyfu bob blwyddyn yn y tai gwydr ym Mharc Bute.

I ddysgu mwy am yr ymateb Caerdydd Un Blaned, ewch ihttps://www.caerdyddunblaned.co.uk/