Back
Y Diweddariad: 25 Mehefin 2025

Dyma'ch diweddariad dydd Mercher, sy'n cynnwys:

  • Cyngor teithio ar gyfer Cyngherddau Blackweir Live yng Nghaerdydd
  • Mynd i'r afael â blaenoriaethau lleol gyda phrosiectau adfywio ledled y ddinas
  • Peidiwch â cholli eich pleidlais - trigolion yng Nghaerdydd yn cael eu hannog i wirio manylion cofrestru pleidleiswyr
  • O fod yn ddysgwr i fod yn rownd derfynol yr Eisteddfod: Taith Gymraeg ryfeddol Ffion gydag Uned Drochi Iaith Caerdydd

 

Cyngor teithio ar gyfer Cyngherddau Blackweir Live yng Nghaerdydd

Bydd cyfres o gyngherddau'n cael eu cynnal yng Nghaeau'r Gored Ddu ar lannau Afon Taf yng Nghaerdydd yr haf hwn, o 27 Mehefin i 9 Gorffennaf.

Er mwyn sicrhau bod pawb sy'n mynychu'r cyngherddau yn gallu mynd i mewn ac allan o'r lleoliad yn ddiogel, bydd ffyrdd ar gau yng nghanol dinas Caerdydd o 4pm tan hanner nos ar gyfer y digwyddiadau hyn.

Mae'r digwyddiadau fel a ganlyn:

  • Noah Kahan - Dydd Gwener 27 Mehefin 
  • Alanis Morrisette - Dydd Mercher 2 Gorffennaf 
  • Slayer - Dydd Iau 3 Gorffennaf 
  • Stevie Wonder - Dydd Mercher 9 Gorffennaf

Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn ar gyfer y cyngherddau hyn - felly cynlluniwch ymlaen llaw.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y draffordd a'r cefnffyrdd, ewch i  wefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS ar Twitter a Facebook.

Cynghorir yn gryf i unrhyw un sy'n mynd i'r cyngherddau hyn gynllunio eu taith o flaen llaw a chyrraedd Caerdydd yn gynnar.

Mae atebion i rai cwestiynau cyffredin am y cyngherddau Blackweir Live sydd ar ddod ar gael  yma.

Darllenwch fwy yma

 

Mynd i'r afael â blaenoriaethau lleol gyda phrosiectau adfywio ledled y ddinas

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi ei raglen Cynllun Adnewyddu Cymdogaethau (CAC) ar gyfer 2025, gan danlinellu ei ymrwymiad parhaus i fuddsoddi mewn cymunedau ledled y ddinas.

Bellach yn ei 25ain flwyddyn, mae'r rhaglen yn hyrwyddo blaenoriaethau lleol trwy ariannu gwelliannau amgylcheddol a chyhoeddus a gynigir gan aelodau ward lleol ar gyfer eu hardaloedd.  Nod y prosiectau hyn yw gwella cymdogaethau a gwella ansawdd bywyd trigolion, ac fe'u cynlluniwyd a'u cyflwyno mewn partneriaeth â busnesau lleol, preswylwyr a grwpiau cymunedol.

Gyda chefnogaeth gan Arian Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn ogystal â chyllid y Cyngor, mae mwy na £2m wedi'i sicrhau ar gyfer y cynlluniau eleni. 

Mae'r fenter yn chwarae rôl allweddol wrth gyflawni gweledigaeth Cryfach, Tecach, Gwyrddach y Cyngor, gan gefnogi creu cymunedau diogel, hyderus a grymus ledled y brifddinas.

Eleni, cyflwynwyd 27 o syniadau prosiect gan gynghorwyr lleol ac aseswyd pob cynnig yn erbyn meini prawf allweddol gan gynnwys effaith adfywio, cynaliadwyedd, mynd i'r afael ag anfantais, cyfranogiad cymunedol, a chyflawnadwyedd. 

O ganlyniad, mae naw prosiect adfywio cymunedol wedi'u blaenoriaethu i'w cyflawni'n llawn yn 2025/26, gyda phedwar prosiect ychwanegol wedi'u dewis ar gyfer gwaith cwmpasu a dylunio.

Darllenwch fwy yma

 

Peidiwch â cholli eich pleidlais - trigolion yng Nghaerdydd yn cael eu hannog i wirio manylion cofrestru pleidleiswyr

Mae trigolion Caerdydd yn cael eu hannog i wirio eu manylion cofrestru etholiadol neu wynebu'r posibilrwydd o golli eu cyfle i bleidleisio ar benderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Mae'r canfas blynyddol yn galluogi Cyngor Caerdydd i gadw'r gofrestr etholiadol yn gyfredol, i ganfod pwy sydd mewn perygl o golli eu llais mewn etholiadau a'u hannog i gofrestru cyn ei bod hi'n rhy hwyr.

Dywedodd Paul Orders, Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Nghaerdydd:

"Cadwch lygad allan am ddiweddariadau pwysig gan Gyngor Caerdydd. Y canfasiad blynyddol yw ein ffordd ni o sicrhau bod yr wybodaeth ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn gywir ac yn ddiweddar. Er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych yn colli'r cyfle i ddweud eich dweud mewn unrhyw etholiadau sydd ar ddod yng Nghymru, gan gynnwys etholiadau'r Senedd fis Mai nesaf, dilynwch y cyfarwyddiadau a anfonwyd atoch.

"Os nad ydych wedi cofrestru ar hyn o bryd, ni fydd eich enw yn ymddangos yn y diweddariadau rydym yn eu hanfon. Os ydych am gofrestru, y ffordd hawsaf yw ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio."

Atgoffir trigolion bod pobl ifanc 16 oed a hŷn yn gymwys i bleidleisio yn etholiad y Senedd a fydd yn cael ei gynnal ar 7 Mai, 2026, ond rhaid iddynt gofrestru er mwyn gallu defnyddio eu pleidlais. Gall pobl ifanc gofrestru i bleidleisio pan fyddant yn 14 oed ac yn hŷn felly dylai aelwydydd sydd â phreswylwyr cymwys sicrhau bod yr unigolion hyn yn cael eu cynnwys yn y wybodaeth y maent yn ei darparu i'r Cyngor.

Darllenwch fwy yma

 

O fod yn ddysgwr i fod yn rownd derfynol yr Eisteddfod: Taith Gymraeg ryfeddol Ffion gydag Uned Drochi Iaith Caerdydd

Mewn dim ond chwe mis, mae Ffion, sy'n naw oed, wedi trawsnewid o fod yn un nad oedd yn siarad Cymraeg i fod yn un o'r tri dysgwr Cymraeg gorau yng Nghymru, diolch i gefnogaeth ac ymroddiad Uned Drochi Iaith Caerdydd. Mae ei thaith yn enghraifft wych o bŵer trochi iaith hwyr ac effaith addysg cyfrwng Cymraeg sy'n newid bywydau.

Ymunodd Ffion â'r Uned Drochi Iaith ym mis Tachwedd 2024. A hithau heb siarad Cymraeg o'r blaen, a heb fod neb yn siarad Cymraeg gartref a heb brofiad blaenorol o Eisteddfod yr Urdd, dechreuodd fynychu'r uned bedwar diwrnod yr wythnos, gyda diwrnod ychwanegol yn Ysgol Melin Gruffydd. Erbyn mis Ionawr 2025, roedd hi'n paratoi ar gyfer ei chystadleuaeth Eisteddfod gyntaf erioed.

Roedd ei chynnydd cyflym yn ddim llai na rhyfeddol. Ym mis Mawrth, enillodd y wobr gyntaf yn cynrychioli ysgolion Caerdydd yn yr Eisteddfod Gylch am adrodd 'Mewn Siop Anifeiliaid Anwes' gan y bardd Myrddin ap Dafydd. Y mis canlynol, llwyddodd eto yn yr Eisteddfod Sir ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gystadlu yn erbyn ysgolion o bob rhan o Gaerdydd a'r Fro. Yn rownd derfynol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, daeth Ffion yn drydydd allan o 19 o gyfranogwyr - cyflawniad anhygoel i rywun sydd ond wedi bod yn dysgu Cymraeg ers chwe mis.

Mae stori Ffion yn dyst i lwyddiant Uned Drochi Iaith Caerdydd, sydd wedi cefnogi bron 500 o blant a phobl ifanc ers 2010. Mae'r uned yn darparu amgylchedd croesawgar, cynhwysol i ddysgwyr o bob cefndir, gan eu helpu i ennill y sgiliau iaith sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn addysg cyfrwng Cymraeg a theimlo ymdeimlad o berthyn yn eu cymunedau.

Darllenwch fwy yma