Back
Hyb Hanes Lleol Newydd yn Lansio yng Nghaerdydd i ddod â straeon y ddinas i ystafelloedd dosbarth a chymunedau

 

25/6/2025

Mae menter newydd yn lansio yr hydref hwn yng Nghaerdydd i helpu pobl ifanc i ddarganfod a dathlu hanes lleol cyfoethog y ddinas.  Fel rhan o gynllun peilot ledled y Deyrnas Gyfunol, mae Caerdydd wedi'i dewis fel un o bum ardal yn unig fydd yn croesawu Hyb Hanes Lleol, prosiect dan arweiniad athrawon sydd wedi'i gynllunio i gysylltu ysgolion, safleoedd hanesyddol, a sefydliadau cymunedol drwy adrodd straeon a dysgu sydd wedi ei seilio ar leoedd.

Mae canolfan Caerdydd yn cael ei arwain gan Elizabeth Berry, Pennaeth Ysgol Gynradd Bryn Celyn, a'i nod yw gwneud hanes yn fwy hygyrch, cynhwysol ac ystyrlon i ddysgwyr a'u cymunedau.

Meddai Elizabeth Berry, Pennaeth Ysgol Gynradd Bryn Celyn: "Rwy'n falch iawn o fod yn arwain Hyb Hanes Lleol Caerdydd yn Ysgol Gynradd Bryn Celyn! Mae'n gyfle cyffrous i archwilio treftadaeth gyfoethog ein dinas a dod â hanes yn fyw.  Bydd cydweithio gydag ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill yn gwneud dysgu yn ystyrlon, yn hwyl ac wedi ei wreiddio yn ddwfn iawn yn ein cymuned leol a'i straeon.

"Fel rhan o'r daith hon, rwy'n angerddol am ddatblygu cwricwlwm yng Nghymru sy'n un dilys. Trwy ymgorffori hanes lleol a hanes byw, gallwn ennyn diddordeb disgyblion yn eu treftadaeth eu hunain a meithrin ymdeimlad cryf ogynefin— cysylltiad dwfn â lle, diwylliant a hunaniaeth sy'n eu helpu i ddeall pwy ydyn nhw ac i le maen nhw'n perthyn."

Wedi'i wreiddio mewn ysgolion lleol a'i gefnogi gan adnoddau wedi'u teilwra, partneriaethau cymunedol, a hyfforddiant ymarferol, bydd yr Hyb Hanes Lleol yn gwasanaethu fel rhwydwaith bywiog ar lawr gwlad. Mae'r fenter yn cael ei harwain gan Local History Hub CIC, menter gymdeithasol dan arweiniad athrawon sy'n ail-ddychmygu addysg hanes ledled y gwledydd hyn.

Mae gwaith yr hyb yn dechrau y tymor hwn, gyda nifer cynyddol o ysgolion Caerdydd eisoes yn cofrestru.  Bydd cyfres o gyfarfodydd cynllunio cydweithredol yn cael eu cynnal gydol y flwyddyn i lunio gweithgareddau a gwaith allgymorth yr hyb.

Dwedodd Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rydym yn croesawu sefydlu'r Hyb Hanes Lleol yng Nghaerdydd a fydd yn rhoi cyfle i ddysgwyr ymgysylltu â'u hanes lleol,dyfnhau eu dealltwriaeth a meithrin balchder yn lle maen nhw'n byw."