Back
Cynllun Llogi Beiciau Trydan Newydd Caerdydd i'w Lansio ar Ddechrau 2026 — Mwy Diogel, Doethach, a Dim Cost i'r Cyngor
 03/07/25

 Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau cynlluniau i lansio cynllun llogi beiciau trydan newydd gan gynnig ffordd lanach, fwy diogel a dibynadwy i breswylwyr ac ymwelwyr fynd o gwmpas y ddinas.

Bydd y cynllun yn cael ei ariannu'n llawn a'i weithredu gan gwmni preifat, gyda'r Cyngor ond yn talu'r gost o osod mannau parcio wedi'u paentio. Mae hyn yn golygu bydd y cynllun yn dod heb unrhyw gost i'r Cyngor am ei redeg o ddydd i ddydd.

Mae'r cynllun newydd yn dilyn llwyddiant - a heriau - rhaglen flaenorol Nextbike, arweiniodd at fwy na 2 filiwn o deithiau beic rhwng 2018 a 2023. Cafodd y cynllun hwnnw ei atal yn y pen draw oherwydd lefelau uchel o fandaliaeth a lladrad.

Y tro hwn, bydd pob beic yn feic trydan. Mae e-feiciau yn fwy cadarn, yn llai tebygol o gael eu fandaleiddio, ac mae angen llai o waith cynnal a chadw arnyn nhw. Bydd ganddyn nhw hefyd dracio GPS i helpu i adfer beiciau os ydyn nhw’n cael eu symud neu eu dwyn pan nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio.

Bydd y beiciau’n cael eu parcio mewn ardaloedd "geoffens" dynodedig - ardaloedd rhithwir sy'n sicrhau bod beiciau ond yn gallu cael eu gadael mewn lleoliadau cymeradwy. Mae hyn yn helpu i gadw'r palmentydd yn glir ac yn gwneud y cynllun yn haws i'w reoli.

Mae'r Cyngor wedi siarad â gweithredwyr llogi beiciau blaenllaw ledled y DU ac Ewrop, ac mae diddordeb cryf mewn rhedeg cynllun yng Nghaerdydd. Gallai hyd at 2,500 o e-feiciau gael eu cyflwyno ledled y ddinas, gyda'r opsiwn i ychwanegu e-sgwteri yn y dyfodol, os bydd penderfyniad yn cael ei wneud gan y Cyngor ac yn dibynnu ar y penderfyniad gan yr Adran Drafnidiaeth ar y treialon e-sgwteri, a newidiadau cyfreithiol yn cael eu gwneud i ganiatáu iddyn nhw gael eu defnyddio ar dir cyhoeddus yng Nghymru.

Mae cynghorau cyfagos ym Mro Morgannwg a Chasnewydd hefyd wedi mynegi diddordeb mewn ymuno â'r cynllun, a allai arwain at rwydwaith rhanbarthol ehangach.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De’Ath:

"Rydyn ni'n dod â chynllun llogi beiciau yn ôl sy'n gweithio i Gaerdydd - un sy'n fwy diogel ac yn graffach. Mae hon yn enghraifft wych o’r ffordd y gallwn ddarparu gwasanaethau gwell i breswylwyr heb gost ychwanegol i'r Cyngor. Rydyn ni wedi gwrando, rydyn ni wedi dysgu, ac rydyn ni'n barod i gael Caerdydd i feicio eto."

 

Disgwylir i'r cynllun lansio yng Ngwanwyn 2026, gyda fflyd newydd o e-feiciau i’r cyhoedd eu defnyddio. Os caiff ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU, gallai e-sgwteri gael eu hychwanegu yn 2026.

Cyn cyfarfod y Cabinet, caiff yr adroddiad ei graffu gan y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol pan fo’n cwrdd heddiw (3 Gorffennaf). Rhagor o wybodaeth yma:

https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=143&MId=8739&Ver=4&LLL=1

Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod ar 10 Gorffennaf i drafod y cynllun. Bydd gwe-ddarllediad o'r cyfarfod hwnnw ar gael i’w wylio ar y diwrnod yma: https://cardiff.public-i.tv/core/portal/home