Back
Gwella bywydau unigolion niwroamrywiol a'u teuluoedd yng Nghaerdydd
4/7/25

Mae cynllun beiddgar a chynhwysol i greu dinas lle mae pobl niwrowahanol yn cael eu cefnogi i fyw'n dda, ffynnu a theimlo eu bod yn cael eu deall wedi cael ei ddatblygu ar gyfer y ddinas gan Gyngor Caerdydd ac amrywiaeth eang o bartneriaid.

Mae Strategaeth ddrafft Caerdydd sy’n Deall Niwrowahaniaeth 2025 – 2030 yn amlinellu gweledigaeth ac ymrwymiad partneriaeth i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o niwrowahaniaeth ac i gael gwared ar rwystrau i gynhwysiant sy'n wynebu unigolion niwrowahanol  a'u teuluoedd, ar draws pob maes o fywyd. Mae hyn yn dilyn cynnig gafodd ei basio gan y Cyngor Llawn ym mis Medi 2023 i geisio bod yn ddinas sy'n deall niwrowahaniaeth yn well.

 

Mae’r strategaeth ddrafft wedi cael ei datblygu gan Gaerdydd sy'n Deall Niwrowahaniaeth, rhwydwaith o bartneriaid gwasanaeth cyhoeddus wedi ei gydlynu gan Gyngor Caerdydd ac yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIPCaF), Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru, a'r trydydd sector yn ogystal â sefydliadau eraill gan gynnwys busnesau, siopau, lleoliadau adloniant, grwpiau cymunedol a phobl niwrowahanol eu hunain, sy’n ymdrechu i greu dinas fwy cynhwysol a niwrogadarnhaol.

At ei gilydd, mae 46 o sefydliadau wedi cyfrannu at y strategaeth, gan nodi beth y byddant yn ei wneud i gefnogi unigolion niwrowahanol a'u teuluoedd.

Mae'n cyd-fynd ag ymrwymiad Cryfach Tecach Gwyrddach y Cyngor i greu cynllun sy'n sicrhau bod ein gwasanaethau yn nodi ac yn diwallu anghenion dinasyddion niwrowahanol, ac mae wedi'i adeiladu o amgylch chwe nod allweddol:

 

  • Cael eich cynnwys a bod yn rhan o'ch cymuned
  • Cyflawni eich nodau mewn addysg a chyflogaeth
  • Cael gwybodaeth y gallwch ymddiried ynddi
  • Cefnogi iechyd a lles pobl niwrowahanol a’u teuluoedd
  • Cael eich deall a dathlu gwahaniaethau
  • Gwella amgylcheddau ar gyfer pobl niwrowahanol

Bydd y nodau allweddol hyn yn cael eu cyflawni drwy gyflawni cyfres o ymrwymiadau 'Byddwn Ni' y mae'r Cyngor a'i bartneriaid wedi'u gwneud ac sy'n cael eu hadlewyrchu trwy gydol y strategaeth. Mae gwaith eisoes ar y gweill ar rai o'r ymrwymiadau hyn a bydd ystod eang o ymrwymiadau ychwanegol yn cael eu dwyn ymlaen gan y Cyngor a'i bartneriaid i wneud Caerdydd yn ddinas sy'n deall niwrowahaniaeth.

 

Rhai o'r prif ymrwymiadau yw:

·       Byddwn yn datblygu gwefan Caerdydd sy'n Deall Niwrowahaniaeth, gyda'r nod o ddod â gwybodaeth leol at ei gilydd mewn lleoliad canolog sy'n hawdd ei lywio (Cyngor Caerdydd)

·       Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i gynnig cyngor arbenigol i unigolion niwrowahanol sy'n chwilio am waith (Yr Adran Gwaith a Phensiynau) 

·       Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â phob ysgol yng Nghaerdydd i gyflwyno fframwaith sy'n cefnogi athrawon i ymgorffori arferion gorau ar gyfer dysgu niwrowahanol (Cyngor Caerdydd)

·        Byddwn yn cynnig 'sesiynau hamddenol' i blant a phobl ifanc niwrowahanol a’u teuluoedd, fyddai’n ffafrio sesiynau tawelach (Gwasanaethau Chwarae Plant – Cyngor Caerdydd)

·       Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth i godi ymwybyddiaeth o'r Prosiect Cyflogaeth Dan Gymorth Lleol gyda chyflogwyr ledled Caerdydd (Cyngor Caerdydd)

·       Byddwn yn gweithio gydag eraill ar draws Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i nodi a phrofi ymyriadau fydd yn gwella profiadau a chanlyniadau i'r rheini sydd ag anawsterau synhwyraidd (Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru)

·       Byddwn yn creu map synhwyraidd o'r adeilad i gefnogi staff ac ymwelwyr sy'n dod i'r Amgueddfa (Amgueddfa Cymru)

·       Byddwn yn parhau i gynnal y Rhaglen Ddarganfod sy'n cynnig cyfle i bobl ifanc awtistig fynychu gweithdai sydd wedi'u cynllunio i'w helpu i wella eu hyder a'u sgiliau ar gyfer eu dyfodol (Prifysgol Caerdydd)

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod y strategaeth ddrafft yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 10 Gorffennaf, gan ystyried yr argymhelliad i gychwyn ymarfer ymgynghori cyhoeddus wyth wythnos i gasglu barn pobl. Os bydd cytundeb, bydd yr ymgynghoriad yn lansio ar 18 Gorffennaf ac yn dod i ben ar 30 Medi.

 

Dwedodd y Cynghorydd Leonora Thomson, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion: “Mae un o bob saith o bobl yn y DU yn niwrowahanol, sy'n golygu bod eu profiad o’r byd yn wahanol. Yn aml, mae gan bobl niwrowahanol gryfderau a galluoedd unigryw, ond maen nhw’n gallu wynebu ystod o rwystrau ar draws ein cymdeithas, gan gynnwys dod o hyd i waith, tebygolrwydd uwch o gael diagnosis iechyd meddwl, ac ynysu cymdeithasol.

 

"Rwyf am weithio tuag at greu Caerdydd lle gall unigolion a theuluoedd niwrowahanol ffynnu - i wella nid yn unig y ddealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn niwrowahanol, ond hefyd i greu Caerdydd sy'n dathlu ac yn cefnogi gwahaniaethau."

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry:  "Trwy sicrhau bod ein hysgolion a'n lleoliadau addysg yn amgylcheddau cynhwysol, cefnogol, rydym yn helpu i ddarparu'r offer a'r ddealltwriaeth gywir i ddysgwyr niwrowahanol sydd eu hangen arnynt i gyrraedd eu potensial yn yr ysgol a thu hwnt."

 

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant: "Mae'r strategaeth hon yn gwneud lleisiau plant a theuluoedd niwrowahanol yn greiddiol i’r ffordd rydym yn llunio gwasanaethau yng Nghaerdydd. Mae'n ymwneud â chreu dinas lle mae pob person ifanc yn teimlo ei fod yn cael ei ddeall, ei gefnogi, ac yn gallu ffynnu."

 

Bydd yr adroddiad llawn i'w ystyried gan y Cabinet, gan gynnwys y strategaeth ddrafft a fersiwn hawdd ei darllen o'r strategaeth, ar gael yma:

Agenda'r Cabinet- Dydd Iau, 10 Gorffennaf, 2025, 2.00 pm : Cyngor Caerdydd

 

Cyn y cyfarfod hwnnw, trafodwyd y strategaeth ddrafft gan y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ddydd Mawrth 1 Gorffennaf. Mae'r agenda ar gyfer y cyfarfod hwnnw ar gael yma Agenda ar gyferPwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar Dydd Mawrth, 1 Gorffennaf, 2025, 4.30 pm: Cyngor Caerdydd

 

Bydd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol hefyd yn trafod y strategaeth ddrafft ddydd Llun 7 Gorffennaf am 4.30pm. Mae'r agenda ar gyfer y cyfarfod hwnnw ar gael yma: Agenda ar gyferPwyllgor Craffu Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol ddydd Llun, 7 Gorffennaf,2025, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd

 

Mae'r ddau gyfarfod o'r pwyllgor craffu yn cael eu darlledu ar y we yma:

Hafan -Gwe-ddarlledu Cyngor Caerdydd