Back
Cyfle i drawsnewid hen bafiliwn y lawnt fowlio ym Mharc Hailey

8.7.25

Mae busnesau, grwpiau chwaraeon a grwpiau cymunedol lleol yn cael cynnig cyfle i gymryd safle hen bafiliwn lawnt fowlio ym Mharc Hailey ar brydles.

Mae Cyngor Caerdydd wrthi'n ceisio datganiadau o ddiddordeb mewn gweithredu cyfleuster cymunedol neu chwaraeon, caffi, neu fenter arall a fyddai'n ategu cyfleusterau presennol y parc.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae hwn yn gyfle gwych i fusnes neu sefydliad cymunedol lleol adfer y defnydd o'r gofod hwn a darparu rhywbeth newydd i drigolion lleol ac rwy'n edrych ymlaen at weld pa syniadau sy'n cael eu cynnig.

"Mae llawer o barciau Caerdydd eisoes wedi elwa o'r math yma o drefniant prydles. Gallant fuddsoddi mewn cyfleusterau, helpu i annog ymwelwyr, a chynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon trwy alluogi sefydliadau cymunedol a chlybiau chwaraeon lleol i ddatgloi cyfleoedd cyllido newydd."

Mae'r holl sefydliadau cymunedol lleol sydd wedi'u lleoli yn y parc wedi cael gwybod am y cyfle.

Mae'r cyfleoedd yn cael eu marchnata gan EJ Hales. Mae rhagor o fanylion ar gael ymahttps://cardiffcouncilproperty.com/cy/