Wedi'u hariannu gan y
Gronfa Teithio Llesol, Caerdydd Un Blaned a'r Rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer
Natur, bydd cyfanswm o 30 o unedau yn cael eu darparu ym mis cyntaf y cynllun.
Dilynir hyn gan raglen 5 mlynedd i osod rhagor o unedau ar draws canol y ddinas
ac mewn ardaloedd siopa lleol.
Bydd gan yr holl unedau
cychwynnol doeau byw, a fydd yn darparu manteision amgylcheddol sylweddol trwy
wella bioamrywiaeth mewn lleoliadau yng nghanol y ddinas.
Bydd y contract cychwynnol,
a ddyfarnwyd i Spoke Safe, yn canolbwyntio ar ganol y ddinas yn unig. Bydd
beicwyr yn gallu archebu a thalu am eu locer trwy ap ar-lein ymlaen llaw, am
gyn lleied â rhwng £1 a £1.50 y dydd.
Bydd yr unedau newydd
cychwynnol yn cael eu pweru gan fatri, gan ddileu'r angen i'w cysylltu â'r grid
trydan a lleihau costau gosod.
Dywedodd y Cynghorydd Dan
De’Ath, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a
Thrafnidiaeth: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wella'r cyfleusterau ar gyfer
beicwyr gan ein bod yn gwbl ymwybodol bod problemau gyda dwyn beiciau a difrod
i feiciau yng Nghaerdydd. Dyma pam rydym yn datblygu rhaglen 5 mlynedd a allai
gynnwys darparu amrywiaeth o wahanol atebion beicio diogel mewn lleoliadau
allweddol ledled y ddinas.
"Er ein bod yn
gobeithio darparu'r gwasanaethau hyn am ddim i ddechrau, ar ôl ymgysylltu â
grwpiau beicio lleol a'r cyhoedd - roedd bron 80% ohonynt yn hapus i dalu ffi
fach yn gyfnewid am gynllun mwy effeithlon, a gwelsom fod tâl cymedrol yn
gwneud y cynllun yn gynaliadwy yn ariannol, fel y gall barhau i ehangu i
ganolfannau siopa ardal mewn ardaloedd fel Bae Caerdydd, Cathays, Y Rhath,
Llanisien a'r Mynydd Bychan.
"Drwy gydol y
prosiect, rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda Heddlu De Cymru ac arbenigwyr
diogelwch i sicrhau bod y loceri newydd yn ddiogel ac na ellir eu
camddefnyddio. Trwy gynnig atebion
diogel a dibynadwy i feicwyr, rydym yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn sychu’r
llwch oddi ar eu beiciau yn eu garej ac yn dechrau beicio eto, yn hyderus y
bydd eu beic yn ddiogel pan gaiff ei barcio.
Bydd y cam cyntaf yn
defnyddio cynwysyddion beicio unigol a fydd yn cael eu gosod yng nghanol dinas
Caerdydd, gyda 30 wedi'u gosod yn y mis cyntaf, 30 arall wedi'u gosod erbyn y
Nadolig a chyfanswm o 100 o unedau wedi'u gosod yn y flwyddyn gyntaf.
Disgwylir i'r contract ar
gyfer y rhaglen 5 mlynedd gael ei benodi yn ddiweddarach yr haf hwn. Gallai
gynnwys amrywiaeth o wahanol atebion codi tâl fel llochesi, stondinau neu
loceri pellach, wrth gadw'r stondinau dur am ddim presennol ar gyfer parcio beiciau
am ddim.
Fel rhan o gynllun ar
wahân, bydd y Cyngor hefyd yn treialu llochesi beiciau diogel mewn ardaloedd
preswyl. Bydd ymgynghoriad lleol yn cael ei gynnal yn yr wythnosau nesaf
ynghylch ble y gellid lleoli'r llochesi.