Back
Creu Caerdydd Decach: Ceisiadau ar agor am Grant Urddas Mislif i gefnogi cymunedau

9/7/25
 
Gwahoddir sefydliadau'r trydydd sector ledled Caerdydd i wneud cais am gyllid grant i gefnogi mynediad gwell at nwyddau mislif urddasol, cynaliadwy, am ddim, yn y ddinas.

Mae ceisiadau ar gyfer Grant Urddas Mislif 2025–26, menter sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda'r nod o sicrhau bod nwyddau mislif ar gael i'r rhai sydd eu hangen, bellach ar agor ac mae cyllid hyd at £2,000 fesul sefydliad ar gael i gefnogi'rprynu a dosbarthu nwyddau mislif ecogyfeillgar, deunyddiau addysgol, ac eitemau hylendid hanfodol.

Yn y DU, ni all un o bob 10 merch fforddio prynu nwyddau mislif, wrth i un o bob 7 gael trafferth eu fforddio, yn ôl arolwg cynrychioliadol o ferched a menywod ifanc 14-21 oed. Nod y Grant Urddas Mislif yw mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn yn uniongyrchol, drwy sicrhau nad oes neb yng Nghaerdydd yn cael ei adael heb y nwyddau sydd eu hangen arnynt.

Gall sefydliadau ddefnyddio'r cyllid i ddarparu:

  •   Nwyddau mislif amldro a di-blastig (Rhaid dyrannu hyd at 75% o'r dyraniad grant i nwyddau cynaliadwy
  • Pecynnau cychwynnol addysgol a deunyddiau ymwybyddiaeth
  • Bagiau gwaredu hylendid, bagiau gwlyb, a dillad brys i'r rhai mewn argyfwng
  • Rhaid dosbarthu nwyddau mewn ffordd ymarferol, hygyrch ac urddasol - boed hynny trwy hybiau cymunedol, pantris bwyd, mannau diogel, neu raglenni allgymorth.

Dywedodd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet dros Iechyd y Cyhoedd a Chydraddoldeb: “Mae urddas mislif yn hawl, nid yn fraint. Trwy'r grant hwn, rydym yn grymuso sefydliadau lleol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau - gan sicrhau nad oes rhaid i neb ddewis rhwng prynu bwyd a nwyddau mislif. Rwy'n annog pob grŵp cymwys i wneud cais, a bod yn rhan o'r ymdrech hanfodol hon ledled y ddinas."

Rhwng Ebrill a Rhagfyr y llynedd, dosbarthwyd mwy na 3,000 o nwyddau mislif ar draws hybiau a llyfrgelloedd Cyngor Caerdydd, ynghyd â'r timau Parciau a Hamdden, cyrff chwaraeon a lleoliadau byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro. Cefnogwyd dros 1,000 o unigolion a theuluoedd trwy wasanaethau'r Cyngor.

Amcangyfrifir bod 1,250 o bobl wedi'u cyrraedd trwy grwpiau cymunedol ac elusennau ac mae 100% o'r adborth a dderbyniwyd wedi bod yn gadarnhaol, gyda defnyddwyr yn disgrifio'r gwasanaeth fel un sy'n “newid bywydau" ac yn "achubiaeth i'n cymuned leol".

Mae'r Cyngor wedi ffurfio partneriaeth gyda sefydliadau ac elusennau mewn 71 o leoliadau gwahanol ledled y ddinas, gan sicrhau sylw lleol cynhwysfawr, cefnogi ceiswyr lloches, pobl ag anableddau dysgu, a theuluoedd incwm isel gyda darpariaeth ddiwylliannol sensitif a chynhwysol.

Yn ogystal â sicrhau bod nwyddau ar gael ac yn hygyrch mewn lleoliadau cymunedol, mae'r Cyngor wedi buddsoddi dros £1m yn ei fenter urddas mislif mewn ysgolion ledled y ddinas ers 2019, gan ddarparu mynediad i ddysgwyr at nwyddau am ddim, helpu i frwydro yn erbyn stigma, mynd i'r afael â thlodi mislif, a hyrwyddo urddas trwy wella cyfleusterau mewn ysgolion.

Mae'r rhaglen wedi cyfrannu at gydnabyddiaeth Caerdydd fel Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF ac mae'n enghraifft o sut rydym yn blaenoriaethu barn ac anghenion plant wrth wneud penderfyniadau.

I wneud cais am gyllid, gall sefydliadau e-bostio  GrantiauSectorGwirfoddol@caerdydd.gov.uk

Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus gyflwyno dogfennau llywodraethu sylfaenol ac adrodd ar y ffordd mae'r cyllid wedi cael ei ddefnyddio.

Am ragor o wybodaeth am gael gafael ar nwyddau mislif am ddim yng Nghaerdydd, edrychwch yma