Back
Dyddiad i’r dyddiadur: Diwrnod Chwarae Cenedlaethol Caerdydd 2025
 
10/7/25

Gwahoddir teuluoedd ledled Caerdydd i ymuno yn nathliad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2025 ym mis Awst.

Bydd y digwyddiad am ddim eleni yn cael ei gynnal ar gaeau chwarae Canolfan Hamdden y Dwyrain ddydd Mercher 6 Awst, 1 – 4pm a'r thema yw Mannau i Chwarae.

Mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ledled y DU ar ddydd Mercher cyntaf mis Awst. Mae'r thema eleni yn tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol mannau hygyrch a chynhwysol lle mae plant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd i chwarae'n rhydd, treulio amser a chysylltu â ffrindiau – a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel rhan o'u cymuned.

Wedi'i drefnu gan dîm Gwasanaethau Chwarae'r Cyngor o fewn Gwasanaethau Plant, mewn partneriaeth â thimau eraill y cyngor a phartneriaid cymunedol, gall ymwelwyr y digwyddiad ddisgwyl prynhawn llawn profiadau chwarae anniben, creadigol ac egnïol i blant o bob oed.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol yn ddathliad o blentyndod a phŵer chwarae. Mae'n gyfle i deuluoedd ddod at ei gilydd, archwilio creadigrwydd, a mwynhau'r rhyddid o chwarae mewn gofod diogel a chroesawgar.

“Mae digwyddiadau fel hyn yn ein hatgoffa nad hwyl yn unig yw chwarae – mae'n hanfodol ar gyfer datblygiad a lles plant a’u hymdeimlad o berthyn. Rydym yn gwahodd pob teulu i ymuno â ni am brynhawn hwyliog o gysylltu, chwerthin a darganfod.”

Anogir teuluoedd i ddefnyddio teithio llesol – fel cerdded, beicio, neu drafnidiaeth gyhoeddus – i gyrraedd y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ar gaeau Canolfan Hamdden y Dwyrain, er mwyn helpu i leihau traffig a chefnogi Caerdydd lanach a gwyrddach.

Mae'r lleoliad yn hawdd ei gyrraedd ar lwybrau cerdded a beicio lleol, a bydd lle i barcio beiciau ar gael ar y safle. Am opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ewch i Traveline Cymru - Journey Planning Wales