Back
Strydoedd Glanach ac Ailgylchu Gwell wrth i Gyngor Caerdydd a Myfyrwyr Ddod Ynghyd
 15.07/25

 Mae Cyngor Caerdydd wedi gweithio gyda myfyrwyr prifysgol yn Cathays a Phlasnewydd yr haf hwn mewn ymdrech ar y cyd i fynd i'r afael â gwastraff a hyrwyddo ailgylchu fel rhan o'r ymgyrch flynyddol 'Myfyrwyr ar Fynd'.

Arweiniodd y fenter, sydd â’r nod o darfu cyn lleied â phosibl ar breswylwyr lleol yn ystod cyfnod symud allan myfyrwyr, dimau'r cyngor yn rhoi mwy o gefnogaeth i helpu myfyrwyr i waredu eu gwastraff yn gyfrifol cyn gwyliau'r haf.

Wedi'i lansio ddechrau mis Mehefin, arweiniodd yr ymgyrch at fwy o gasgliadau sbwriel, glanhau strydoedd yn ddyddiol, gwirfoddolwyr yn casglu sbwriel, a defnyddio swyddogion gorfodi gwastraff ychwanegol. Cynhaliodd staff y cyngor wasanaeth allgymorth o ddrws i ddrws i sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o'r gwasanaethau sydd ar gael ac yn deall sut i reoli eu gwastraff yn briodol.

Ymwelodd fan ailgylchu bwrpasol â sawl lleoliad yn Cathays a Phlasnewydd trwy gydol mis Mehefin a Gorffennaf, gan ganiatáu i fyfyrwyr ailgylchu eitemau swmpus na ellir eu rhoi mewn biniau ailgylchu cartref safonol.

O ganlyniad i'r ymgyrch, casglwyd mwy na 7,000kg o ddeunydd ailgylchu - cynnydd o 700kg o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd hyn yn cynnwys 849kg o eitemau amldro, 318kg o fwyd a roddwyd i Fanc Bwyd Caerdydd, a 5,964kg o wastraff ailgylchu cyffredinol.

Canmolodd y Cynghorydd Norma Mackie, Aelod Cabinet dros Wastraff, Strydlun a’r Gwasanaethau Amgylcheddol, gyfranogiad y myfyrwyr a llwyddiant yr ymgyrch.

"Hoffwn ddiolch i'r holl fyfyrwyr a gymerodd ran. Trwy weithio'n agos gyda'n timau, maen nhw wedi helpu i leihau faint o wastraff sydd ar ôl ar strydoedd Cathays a Phlasnewydd. Eleni, rydyn ni wedi gweld gwelliant sylweddol - strydoedd glanach a mwy o ailgylchu gan aelwydydd myfyrwyr. Mae ein swyddogion wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â myfyrwyr i sicrhau eu bod yn gwybod am y gwasanaethau ychwanegol a sut i waredu gwastraff yn iawn," dywedodd.

Yn y blynyddoedd blaenorol, roedd gwastraff cymysg yn cael ei adael mewn bagiau du a oedd yn aml yn cael eu rhwygo gan anifeiliaid, gan achosi i sbwriel ledaenu ar draws y strydoedd. Eleni, helpodd defnyddio swyddogion gwastraff ychwanegol i atal sbwriel rhag cronni a chynnal amgylchedd glanach i bawb.