Back
Mae Ysgol Gynradd Glyncoed yn dathlu hanner canrif gyda dathliad lliwgar o'r gorffennol a'r dyfodol

 

15/7/2025

Yn ddiweddar, dathlodd Ysgol Gynradd Glyncoed ym Mhentwyn ei phen-blwydd yn 50 oed gyda digwyddiad bywiog i gynhesu'r galon a ddaeth â disgyblion, staff a chyn-fyfyrwyr ynghyd mewn teyrnged lawen i hanes cyfoethog a dyfodol disglair yr ysgol.

Trawsnewidiwyd yr ysgol i gyfnod hiraethus y 1970au, gyda disgyblion a staff yn gwisgo gwisgoeddretroi anrhydeddu degawd sefydlu'r ysgol. Roedd y dathliadau yn cynnwys prosiect creadigol lle cafodd logo presennol yr ysgol ei ail-greu gan ddefnyddio topiau poteli wedi'u hailgylchu, gan arddangos dawn artistig ac ymrwymiad i gynaliadwyedd.

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill roedd cymhariaeth o focsys cinio modern a rhai'r 1970au, gemau parti clasurol, a sesiynau gwneud ysgytlaeth a oedd yn talu teyrnged i nodi gwreiddiau ffermio llaeth tir yr ysgol. Bu'r plant hefyd yn gweithio ar brosiectau ymchwil a chelf am y 1970au, gan ddyfnhau eu dealltwriaeth o'r cyfnod ac esblygiad yr ysgol.

Dychwelodd cyn-aelodau staff i rannu atgofion annwyl, tra bod disgyblion heddiw wedi ysgrifennu llythyrau twymgalon at fyfyrwyr y dyfodol a gafodd eu selio mewn capsiwl amser a'u claddu ar dir yr ysgol i'w darganfod gan genedlaethau i ddod

Meddai'r pennaeth, Elizabeth Keys:  "Mae ein pen-blwydd yn 50 oed wedi bod yn achlysur llawen dros ben, llawn chwerthin, dysgu, ac ymdeimlad gwych o gyd-dynnu. Mae'r plant wedi cael cymaint o hwyl yn archwilio hanes ein hysgol, cwrdd â chyn-staff a disgyblion, a chymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau cyffrous.

 "O blannu capsiwl amser i gymryd rhan mewn prosiectau trawsgwricwlaidd, mae pob eiliad wedi cryfhau ein hymdeimlad o gymuned ac wedi arddangos creadigrwydd a brwdfrydedd ein disgyblion."

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:

"Mae'r dathliadau 50 yn ein hatgoffa o sut mae Ysgol Gynradd Glyncoed wedi tyfu a ffynnu dros y degawdau ac mae'n galonogol clywed sut mae'r disgyblion wedi bod yn cymryd rhan wrth ddysgu am y gorffennol tra'n gadael eu hôl eu hunain ar ddyfodol yr ysgol."