Roedd yr achos yn dilyn
cwynion cwsmeriaid, gan ysgogi swyddogion o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
(GRhR) i gynnal archwiliadau mewn dwy archfarchnad Asda yng Nghaerdydd ar chwe
achlysur gwahanol rhwng Ionawr a Mehefin 2024
Yn ystod yr ymweliadau hyn,
darganfuwyd bod mwy na 100 o eitemau bwyd wedi mynd heibio i'w dyddiad
defnyddio a chawsant eu tynnu oddi ar y silffoedd. Roedd y siopau yr
effeithiwyd ym Mharc Manwerthu Capital, ar Heol Lecwydd, ac Archfarchnad
Pentwyn, yn Heol Dering, Pontprennau.
Canfuwyd bod rhai o'r
cynhyrchion bwyd hyd at saith diwrnod ar ôl eu dyddiad defnyddio, gyda llawer
yn cael eu gwerthu fel eitemau parod i'w bwyta. Roedd nifer o'r cynhyrchion hyn
yn amlwg yn cael eu marchnata tuag at blant, gan godi pryderon am ddiogelwch
bwyd a diogelu defnyddwyr.
Mewn gwrandawiad blaenorol
ar 21 Mai 2025, plediodd Asda Stores Ltd yn euog i bedwar cyhuddiad o werthu
bwyd anniogel. Roedd y troseddau’n cynnwys gwerthu eitemau risg uchel fel cig a
chynhyrchion llaeth, sy'n peri risg sylweddol i iechyd os cânt eu bwyta y tu
hwnt i'w dyddiadau defnyddio.
Mae dyddiadau defnyddio yn
gyfreithiol ofynnol ar gynhyrchion bwyd tra darfodol gan y gwneuthurwyr i
sicrhau bod cwsmeriaid yn prynu ac yn bwyta bwyd sy'n ddiogel. Mae gwerthu bwyd
sydd wedi mynd heibio'r dyddiad hwn yn torri rheoliadau diogelwch bwyd a gall
arwain at ganlyniadau iechyd difrifol.
Croesawodd y Cynghorydd
Norma Mackie, Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Rheoliadol a Rennir
yng Nghyngor Caerdydd, y ddirwy a osodwyd gan y llys, gan ddweud: "Dylai
defnyddwyr fod yn hyderus bod y bwyd sydd ar werth mewn siopau yn ddiogel i'w
fwyta. Mae'n hanfodol bod systemau cadarn ar waith i atal gwerthu bwyd y tu
hwnt i'w ddyddiad defnyddio. Yn yr achos hwn, roedd Asda yn sylweddol is na'r
safonau gofynnol a ddisgwyliwyd. Roedd y systemau oedd ganddynt ar waith yn
amlwg yn annigonol ac rydym yn gobeithio bod Asda bellach wedi cymryd y camau
angenrheidiol i unioni'r methiannau hyn i sicrhau nad yw digwyddiadau o'r fath
yn digwydd eto."
Cyfeiriodd y Barnwr
Rhanbarth Charlotte
Murphy at ddifrifoldeb y
troseddau, hyd yr amser y digwyddodd y troseddu, nifer yr eitemau bwyd a oedd
wedi mynd heibio eu dyddiad defnyddio, maint, graddfa a throsiant y sefydliad,
a'r ffaith fod yr ymdrechion a wnaed gan y cwmni i fynd i'r afael â'r troseddu yn
aneffeithiol.
Cafodd Asda Stores Limited
ddirwy o £640,000, a gorchmynnwyd iddynt dalu £15,115 mewn costau erlyn a
Gordal Dioddefwr o £2,000. Roedd y pedwar tramgwydd yn torri Rheoliad 4 9 (b) o
Reoliadau Bwyd Cyffredinol 2004, sy'n ymwneud â gwerthu bwyd anniogel.