Mae'r cyflawniad ysbrydoledig hwn yn ganlyniad cydweithrediad deinamig rhwng Tîm Cwricwlwm Cyngor Caerdydd, y Tîm Amhariadau, Pasbort i’r Ddinas, a UCAN (Unique Creative Arts Network) Productions.
Bellach yn ei hail flwyddyn, dechreuodd y rhaglen yn 2023/24 fel peilot ar gyfer 10 dysgwr gydag amhariad ar eu golwg, yn dilyn dewis UCAN fel elusen faer gan y Maer ar y pryd Bablin Molik. Ers hynny mae wedi tyfu i fod yn fenter gynhwysfawr sy'n cefnogi dros 62 o ddysgwyr ar draws chwe grŵp.
Wedi'i lletya yng Nghanolfan Tŷ Calon (Darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion sydd ag ADY) yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i sicrhau y gall pob dysgwr gymryd rhan a llwyddo ar eu lefel eu hunain, gan ennill cymhwyster cydnabyddedig yn genedlaethol yn y celfyddydau. Mae gweithdai wythnosol, dan arweiniad UCAN, wedi cael eu cynnal ers tymor yr hydref ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 9-13. Mae'r fenter yn cael ei hariannu'n rhannol gan Gyngor Caerdydd ac yn cael ei chefnogi ymhellach gan ymdrechion codi arian Hanner Marathon Caerdydd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry.
Dywedodd y Cyng. Merry: "Mae Caerdydd wrthi’n cychwyn ar ein trawsnewidiad mwyaf radical o ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ers blynyddoedd. Mae rhaglenni fel hyn yn dangos sut y gall cydweithredu creadigol ddatgloi potensial a rhoi cyfle i bob dysgwr ddisgleirio."
Meddai Sarah Williams, addysgwr arweiniol Tŷ Calon: "Mae wedi bod yn gymaint o bleser gweld y dysgwyr yn agor i fyny ac yn mynegi eu hunain gyda chymaint o lawenydd."
Ychwanegodd Paul Morgan, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd: "Mae gallu cydweithio i roi'r cyfleoedd hyn i'n pobl ifanc ragori ac i gyflawni yn eu rhinwedd eu hunain yn amhrisiadwy."
Cynhaliwyd y seremoni raddio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan gynnig dathliad llawn ar ffurf prifysgol gyda chapiau, gynau, areithiau a ffotograffau, diolch i Basbort i’r Ddinas. Cafodd y digwyddiad ei wneud hyd yn oed yn fwy cofiadwy gyda pherfformiad arbennig gan Rachel Starritt, cyn-fyfyriwr UCAN a phianydd adnabyddus, a chwaraeodd gymysgedd o hoff gerddoriaeth y dysgwyr o'r prosiect.
Wrth edrych ymlaen, disgwylir i'r rhaglen ehangu yn 2025/26 gyda chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Gwaddol Addysg Caerdydd, gan gyrraedd dysgwyr newydd yng Nghanolfan ADY Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Canolfan Marion yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf a Ffederasiwn y Gorllewin, gydag arweinyddiaeth barhaus gan y Tîm Cwricwlwm.
Yng ngeiriau un dysgwr brwdfrydig: "Dyma'r peth gorau – rydw i wedi cael cymaint o hwyl!!"