22.7.25
Mae dau gi achub a fabwysiadwyd o Gartref Cŵn Caerdydd wedi cael bywyd newydd yn synhwyro troseddau i Heddlu De Cymru.
Mae'r ddau gi, un Sbaengi adara (cocker spaniel) ac un Sbaengi defaid croes (collie spaniel) wedi cwblhau eu hyfforddiant yn llwyddiannus i ddod o hyd i gyffuriau, arian parod ac olion gynnau ac wedi cael eu trwyddedu fel rhan o adran gŵn Heddlu De Cymru ddydd Mercher diwethaf - Gorffennaf 16, 2025.
Daeth Max, sy'n Sbaengi adara du, i mewn fel ci strae. Yn cael ei adnabod bryd hynny fel "Humbug," dangosodd arwyddion cynnar o ddeallusrwydd, ffocws ac egni - nodweddion a ddenodd sylw Cartref Cŵn Caerdydd. Cafodd Chase, sy'n Sbaengi/ci defaid croes, ddechrau gwahanol. Wedi'i enwi'n wreiddiol yn "Neptune," daeth o dorraid nad oedd ei eisiau ac fe gafodd ei dderbyn yn ddim ond naw wythnos oed gan ei hyfforddwr, a welodd ei botensial ar unwaith.
Dros y chwe wythnos diwethaf, mae'r ddau gi wedi cael hyfforddiant trwyadl mewn synhwyro arbenigol. Fe wnaethon nhw gwblhau tri modiwl gan ennill sgiliau hanfodol a fydd yn helpu i fynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol ledled de Cymru.
Canmolodd Sarjant Nathan Burton gyflawniad y ddau: "Mae Max a Chase yn enghreifftiau gwych o sut y gall cŵn achub, o gael yr arweiniad cywir, gyflawni pethau anhygoel. Mae eu penderfyniad, eu ffyddlondeb a'u greddf yn eu gwneud yn ychwanegiadau perffaith i'n tîm cŵn heddlu.
"Mae ein hyfforddwyr cŵn yn ymrwymo llawer iawn o amser, sgiliau ac ymroddiad i hyfforddi'r cŵn hyn. Mae eu gwaith caled yn hanfodol wrth baratoi'r cŵn hyn i gefnogi plismona rheng flaen a chadw ein cymunedau'n ddiogel."
Fe wnaeth Cartref Cŵn Caerdydd, a hwylusodd y broses o achub ac ailgartrefu'r ddau gi, fynegi balchder a llawenydd am y newyddion. Dywedodd Rheolwr Cartref Cŵn Caerdydd, Maria Bailie: "Mae cyflawniadau Max a Chase yn dangos y gwahaniaeth enfawr y gall paru'r cŵn cywir â'r cartrefi cywir ei wneud i'w bywydau. Er bod y ddau wedi dod i'n gofal am wahanol resymau, mae'n amlwg bod angen gwaith ar y ddau ohonyn nhw i'w cadw'n hapus ac yn fywiog yn feddyliol.
"Mae gan y tîm yn y Cartref Cŵn berthynas waith ardderchog gyda Heddlu De Cymru ac mae pawb wrth eu bodd bod Max a Chase wedi dod o hyd i yrfaoedd newydd cyffrous iddyn nhw eu hunain yn ogystal â chartrefi hapus a gofalgar."
Maen nhw bellach yn barod i weithio a byddan nhw'n helpu i synhwyro troseddau ar draws de Cymru.