Back
Beth Nesaf? Cymorth dros yr Haf i Bobl Ifanc sy'n Dewis eu Dyfodol

 

22/7/2025

Wrth i ddiwrnodau canlyniadau Safon Uwch a TGAU ym mis Awst agosáu, bydd pobl ifanc ledled Caerdydd unwaith eto yn cael eu cefnogi gan raglen helaeth o ddigwyddiadau i'w helpu i gymryd eu camau nesaf mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

 

Mae Addewid Caerdydd, y Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith a Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd yn cynnig digwyddiadau, adnoddau ac arweiniad i bobl ifanc 16-24 oed. Dros yr haf eleni, bydd gohebiaeth yn cael ei hanfon yn uniongyrchol at ddisgyblion Blwyddyn 11, 12 a 13, gan eu cyfeirio at y gwasanaethau sydd ar gael i'w helpu i gynllunio eu dyfodol.

 

Addewid Caerdydd

Mae gwefan "Beth Nesaf?" yn parhau i wasanaethu fel siop un stop i bobl ifanc, gan gynnig cyfleoedd sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd fel:

  • Cyrsiau Chweched Dosbarth a Choleg
  • Llwybrau Prifysgol
  • Twf Swyddi Cymru+
  • Prentisiaethau a Swyddi Gwag
  • Profiad Gwaith ac Interniaethau
  • Cyfleoedd i Raddedigion
  • Gwirfoddoli a Dechrau Busnes
  • Ysbrydoliaeth am Yrfaoedd a Mwy

P'un a ydynt yn dal i benderfynu, wedi newid eu meddwl, neu'n barod i gymryd y cam nesaf, anogir pobl ifanc a'u teuluoedd i fynd i'r wefan "Beth Nesaf?" sy'n darparu gwybodaeth eglur a hygyrch i'w helpu i wneud dewisiadau gwyboduswww.whatsnextcardiff.co.uk/cy/

 

Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith

Mae'r haf yn gyfnod hollbwysig i bobl ifanc ac mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn cynnig rhaglen haf lle gall pobl ifanc ystyried eu dyfodol. Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau cyflogaeth, addysg a hyfforddiant yn cael eu cynnal ledled y ddinas, gan gynnwys yn Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Hyb Cymunedol Trelái/Caerau, Pafiliwn Butetown a Hyb / Den Ieuenctid Llaneirwg. Bydd darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr ledled y ddinas yn bresennol i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc.

 

Bydd y Gwasanaeth i Mewn i Waith hefyd yn cynnig Cefnogaeth Diwrnod Canlyniadau gyda chynghorwyr pwrpasol ym mhob hyb ac ar-lein fel a ganlyn:

Cefnogaeth Diwrnod Canlyniadau Safon Uwch: Dydd Iau 14 Awst

Cefnogaeth Diwrnod Canlyniadau TGAU Dydd Iau 21 Awst

https://www.imewniwaithcaerdydd.co.uk/

 

Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd

Bydd gweithwyr ieuenctid ar gael drwy gydol yr haf a dechrau'r hydref i gefnogi pobl ifanc ynghylch addysg, hyfforddiant, cyflogaeth neu wirfoddoli. Ar y ddau ddiwrnod canlyniadau, bydd cefnogaeth bwrpasol ar gael ledled y ddinas, gyda chynghorwyr yn barod i helpu pobl ifanc i archwilio eu hopsiynau.

 

Am gymorth, cysylltwch âcyfeiriadAYC@caerdydd.gov.ukneu ffoniwch 02920615260.

Ewch i www.cardiffyouthservices.wales/cy/neuwww.cardiffyouthservices.wales/cy/school-holidays/i weld y rhestr lawn o ddigwyddiadau gan gynnwys y gwahanol fathau o gefnogaeth a digwyddiadau camau nesaf.

 

Ysbrydoliaeth gan Gyflogwyr ar y Cyfryngau Cymdeithasol

Bydd Addewid Caerdydd hefyd yn rhannu negeseuon gan gyflogwyr ar draws ei sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae'r negeseuon hyn yn cynnig anogaeth, cyngor a straeon bywyd go iawn gan gyflogwyr lleol i ysbrydoli dosbarth 2025. Gallwch ddarllen mwy o negeseuon o gyngor ar gyfer dosbarth 2025 yma:Dosbarth 2025: Ymgyrch Diwrnod Canlyniadau a Negeseuon gan Gyflogwyr

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:

"Rydyn ni am i bob person ifanc yng Nghaerdydd deimlo'u bod yn cael eu cefnogi a'u grymuso wrth iddynt wneud penderfyniadau pwysig am eu dyfodol. Mae'r rhaglen ‘Beth Nesaf?', ynghyd â'n partneriaid, yn sicrhau nad oes rhaid i neb fynd ar y daith hon ar eu pen eu hun."