Back
Disgwyl i'r gwaith i uwchraddio Taith Taf trwy Barc Hailey ddechrau yr hydref hwn
 25/07/25

 Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i wella llwybrau beicio ledled y ddinas, bydd gwaith i uwchraddio'r rhan o lwybr Taith Taf trwy Barc Hailey yn dechrau yn gynnar yn yr hydref. 

Yn dilyn dau ymgynghoriad cyhoeddus, mae adolygiad cynhwysfawr wedi’i gynnal a bydd y cynllun dewisol yn sicrhau y bydd llwybr y feicffordd newydd yn 3.5 metr o led ac yn dilyn aliniad y llwybr presennol yn fras. Mae hyn yn sylweddol llai na'r cynnig blaenorol o lwybr 5 metr o led.

Bydd y llwybr wedi'i uwchraddio yn cael ei adeiladu gan ddefnyddio tarmac lliw llwydfelyn i weddu i leoliad y parcdir, a bydd yn lleihau'r effaith ar fannau gwyrdd, wrth sicrhau nad yw'r llwybr yn agos at y man chwarae i blant mwyach – mater a gafodd ei amlygu yn ystod ymgynghoriadau cyhoeddus.

Bydd adeiladu'r cynllun hefyd yn lliniaru'r materion canlynol a gafodd eu codi:

·       Bydd y cynefin pwysig ar gyfer ffyngau Capiau Cwyr ym mhen deheuol y parc yn cael ei ddiogelu trwy fesurau lliniaru

·       Bydd yr effaith ar goed yn cael ei osgoi trwy ddefnyddio dull adeiladu 'dim palu', gan fod rhannau byr iawn o'r llwybr o fewn ardaloedd diogelu gwreiddiau coed

·       Bydd dŵr wyneb yn cael ei reoli trwy wella systemau draenio.

Dywedodd y Cynghorydd Dan De’Ath, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Rydyn ni wedi ymgynghori ar y cynllun hwn ddwywaith ac wedi gwrando ar y safbwyntiau a gafodd eu mynegi. Mae'r cynllun dewisol yn unol â gofynion dylunio'r Ddeddf Teithio Llesol, wrth sicrhau bod y pryderon amgylcheddol a gafodd eu codi yn yr ymgynghoriadau cyhoeddus yn cael eu lleihau neu eu lliniaru'n sylweddol.

"Bydd adeiladu'r cynllun yn cynnwys dull 'dim palu' i ddiogelu gwreiddiau coed, tra bydd Clerc Gwaith Ecolegol yn bresennol i sicrhau bod ffyngau Capiau Cwyr yn cael eu diogelu.

"Bydd y prif waith yn dechrau yn gynnar yn yr hydref ac o dan yr amserlen bresennol, bydd y cynllun yn cael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2026".

Gall yr adroddiad llawn ar y gwelliannau i’r llwybr beiciau ym Mharc Hayley gael ei ddarllen yma: www.caerdydd.gov.uk/parc-hailey