Back
Mae disgyblion yn helpu i lunio eu dyfodol wrth i'r gwaith fynd rhagddo ar adeilad newydd Ysgol y Llys gwerth £23 miliwn

 

25/7/2025


Mae Cyngor Caerdydd yn dathlu cerrig milltir pwysig yn natblygiad newydd Ysgol y Llys, gyda chyfres o ddigwyddiadau cyffrous a mentrau ymgysylltu â'r gymuned yn cael eu cynnal drwy gydol mis Mehefin.

Bydd y prosiect gwerth £23 miliwn, a ddarperir dan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, yn golygu adeiladu dwy safle ysgol newydd - un yn y Tyllgoed ac un yn Llanrhymni. Mae'r ysgol newydd, o'r enw Ysgol Cynefin, yn adlewyrchu cysylltiad dwfn rhwng pobl a byd natur, gan hyrwyddo hunaniaeth a lles.

Mewn partneriaeth â Kier, y contractwr a ddewiswyd i ddylunio ac adeiladu'r ysgol newydd, mae amrywiaeth o weithgareddau, o weithdai dylunio ymarferol i ddiwrnod hwyl i'r teulu a'r ddefod o lofnodi'r strwythur, yn dod â disgyblion, rhieni a'r gymuned ehangach i galon y broses ddatblygu.

Yn gynharach y mis hwn, cymerodd disgyblion ran mewn sesiwn dylunio creadigol dan arweiniad y cyflenwr dodrefn addysgol, Morleys. Archwiliodd plant gysyniadau ystafell ddosbarth, paletau lliwiau a deunyddiau, gan helpu i lunio golwg a theimlad eu hamgylchedd dysgu yn y dyfodol. Roedd y sesiwn yn enghraifft fywiog o sut mae'r prosiect yn meithrin cynhwysiant a dychymyg.

Mae defod llofnodi'r strwythur ar safle Llanrhymni wedi'i chynllunio lle bydd disgyblion a rhanddeiliaid yn llofnodi strwythur pren yr adeilad newydd.Mae Ysgol Cynefin yn arloesi mewn adeiladu cynaliadwy drwy ddefnyddio Pren Traws-laminedig (CLT), deunydd sy'n lleihau allyriadau carbon ac yn cefnogi effeithlonrwydd ynni. Mae CLT hefyd yn cyflymu'r broses adeiladu ac yn lleihau'r gwastraff a gynhyrchir, a hynny trwy'r prosesau gweithgynhyrchu oddi ar y safle sy'n galluogi torri'r darnau pren yn fanwl gywir. Ynghyd â dyluniad sydd ynghlwm wrth fyd natur, gan ymgorffori elfennau naturiol fel pren, bydd hyn yn creu amgylchedd ysbrydoledig a fydd yn gwella lles a dysgu ac yn adlewyrchu ymrwymiad Caerdydd i gynaliadwyedd, arloesedd a lles myfyrwyr a staff yn y dyfodol.

Dywedodd Jamyn Beesley, y Pennaeth: "Mae cyffro'n byrlymu yn ein cymuned ysgol wrth i'r prosiect barhau i ddatblygu. Mae'r gwaith adeiladu yn edrych yn wych, ac rydym yn hynod ddiolchgar i'r Awdurdod Lleol a Kier am eu cydweithrediad a'u cefnogaeth barhaus. Rydyn ni wir yn teimlo eu bod wedi gwrando arnom a'n bod wedi bod yn rhan o bob cam o'r broses.

"Mae ein disgyblion anhygoel yn arbennig yn mwynhau bod yn rhan o'r daith. Maen nhw wrth eu bodd yn ymweld â'r safleoedd, gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol amdanynt, a chael bod yn rhan o gamau allweddol fel torri'r tywarch a llofnodi'r strwythur.

"Er y byddwn yn gweld eisiau ein cartref hirsefydlog yn Llanisien, rydym yn gwybod bod ein disgyblion yn haeddu cyfleusterau pwrpasol a fydd yn eu helpu i ffynnu. Mae Diwrnod Hwyl i'r Teulu yr wythnos nesaf yn uchafbwynt mawr - mae bwrlwm gwirioneddol o amgylch y gweithgareddau creadigol sydd wedi'u cynllunio, gan gynnwys gweithdai graffiti a chrochenwaith. Rydym yn arbennig o gyffrous i fod yn gweithio gyda Lloyd, ein hartist graffiti, i greu murluniau bywiog a fydd yn symud gyda ni i'n cartrefi newydd yn y Tyllgoed a Llanrhymni."

Ymhlith y digwyddiadau eraill mae diwrnod hwyl lle bydd teuluoedd yn cael eu gwahodd i gyfrannu at waddol yr ysgol trwy greu darnau celf graffiti a chrochenwaith a fydd yn cael eu hymgorffori yn yr adeiladau newydd a seremoni gosod carreg gopa'r adeilad, gan ddod â phartneriaid ac aelodau o'r gymuned at ei gilydd.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae datblygu Ysgol Cynefin yn adlewyrchu ymrwymiad pwerus a rennir i feithrin ymdeimlad o berthyn, creadigrwydd a chymuned.

Fel rhan hanfodol o weledigaeth Caerdydd i drawsnewid darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, mae pob carreg filltir yn y datblygiad cyffrous hwn yn dod â ni'n agosach at ddyfodol cynhwysol i'r ysgol lle mae cydweithio, arloesedd a chyfleoedd wrth wraidd taith addysgol pob plentyn."

Ar ôl ei chwblhau, bydd yr ysgol yn ehangu o 42 i 72 o leoedd, gyda 36 o ddisgyblion ar bob safle, yn dechrau yn ystod blwyddyn academaidd 2025-26. Bydd y cyfleusterau'n cynnwys:

  • Adeiladau ysgol unllawr modern ar y ddwy safle
  • Ardaloedd chwaraeon aml-ddefnydd, meysydd chwaraeon ac ardaloedd chwarae meddal
  • Mannau garddwriaethol ac amgylcheddau dysgu yn yr awyr agored wedi'u tirlunio
  • Mannau parcio ceir, draenio a seilwaith cysylltiedig
  • Dymchwel hen adeiladau Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg ar safle Llanrhymni

Dywedodd Ian Rees, cyfarwyddwr rhanbarthol, Kier Construction Cymru a Gorllewin Lloegr:   "Mae dwy ysgol Ysgol Cynefin wedi datblygu dros y misoedd diwethaf ac rydym yn falch iawn o fod yn dathlu carreg filltir bwysig y mis hwn.

"Mae'r ddau brosiect hyn yn ymgorffori ein hymrwymiad i greu amgylcheddau dysgu cynaliadwy a chynhwysol. Mae wedi bod yn wych cael disgyblion o'r ysgol yn cymryd rhan yn ein dathliadau carreg filltir ac yn cynhyrchu gwaith celf a fydd yn cael ei arddangos yn falch yn eu hysgolion newydd."

Mae nifer o fentrau yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â Kier fel rhan o les y gymuned sy'n gysylltiedig ag adeiladu'r ysgol newydd, sydd wedi'u cynllunio i fod o fudd i gymunedau lleol.

Mae'n ofynnol i gontractwyr sy'n cyflawni prosiectau datblygu gwerth mwy na £250 mil gyflwyno cynllun cyflawni cyffredinol sy'n amlinellu eu dull gweithredu ac maent yn cael eu cefnogi gan y Cyngor i gyflawni eu hymrwymiadau i gymunedau drwy gydol cylch bywyd y prosiect.

Maent yn canolbwyntio ar:

  • Hyfforddi a recriwtio pobl sy'n economaidd anweithgar
  • Mentrau cadwyn gyflenwi a gweithio gyda'r 3ydd sector
  • Mentrau addysgol
  • Mentrau cymunedol a diwylliannol
  • Mentrau amgylcheddol

 

#TîmYLlys #ysgolcynefin