Back
Cyfanwerthwr bwyd wedi'i garcharu am droseddau hylendid a gwerthu cyw iâr wedi'i gam-labelu fel halal
 25/07/25

 Cafodd dau gyfanwerthwr bwyd eu dedfrydu ddoe am werthu cyw iâr nad yw'n halal fel cyw iâr halal i fusnesau bwyd ledled De Cymru.

Yn Llys y Goron Merthyr ddoe, anfonwyd Helim Miah i'r carchar am 4 blynedd ac 8 mis am fasnachu twyllodrus a thorri cyfraith ansolfedd, tra bod Noaf Rahman wedi cael dedfryd o ddwy flynedd, wedi'i ohirio am ddwy flynedd, a gorchymyn i gyflawni 150 awr o waith di-dâl.

Dilynodd y ddedfryd ymchwiliad gan Wasanaethau Rheoliadol a Rennir Caerdydd a’r Fro i Universal Foods (Wholesale) Ltd, sydd wedi'i leoli yng Nghlos Bessemer, Caerdydd.

Gwerthodd y pâr gyw iâr wedi'i labelu fel cyw iâr halal i siopau tecawê a bwytai Indiaidd  ledled De Cymru. Fodd bynnag, datgelodd ymchwiliadau nad oedd eu cyflenwyr yn aml yn darparu cig halal.

Er gwaethaf hyn, gwnaethant barhau i farchnata a dosbarthu'r cyw iâr fel halal i gwsmeriaid a dwyllwyd.

Yn dilyn yr ymchwiliad, plediodd Noaf Rahman yn euog i dair trosedd hylendid bwyd tra bod Helim Miah, a blediodd yn ddieuog, wedi’i erlyn yn ddiweddarach yn Llys y Goron Merthyr ar 11 Ebrill, 2025.

Daeth yr achos i'r amlwg ym mis Ionawr 2019 pan atafaelwyd 2,840 cilogram o gig wedi'i rewi o 20 Clos Bessemer yn Grangetown, Caerdydd.

Datgelodd yr ymchwiliad gyfres o fethiannau, gan gynnwys arferion hylendid bwyd gwael iawn, tystiolaeth fod dofednod wedi cael ei ddadmer a'i ailrewi, dod o hyd i gyw iâr a oedd ddwy flynedd heibio ei ddyddiad gwerthu, darganfod nad oedd cofnodion tymheredd yn cael eu diweddaru, tystiolaeth o weithgarwch plâu yn y busnes, a chludo cig heb ei farcio mewn cerbydau brwnt nad oeddent yn cynnwys oergell nac yn addas at y diben.

Yn ystod yr achos pythefnos o hyd, honnodd Miah ei fod yn rhedeg Universal Food Wholesale Ltd gan ddefnyddio cyw iâr halal wedi'i brosesu ymlaen llaw yn unig a bod yr holl brosesu ar y safle yn cael ei wneud gan gwmni ar wahân - Universal Poultry Ltd, sy'n cael ei redeg gan Rahman.

Gwadodd Miah unrhyw ran yng ngwaith prosesu’r busnes o ddydd i ddydd ond fe’i cafwyd yn euog o 10 cyhuddiad o werthu cig nad yw’n halal fel cig halal drwy dwyll, camlabelu dyddiadau dod i ben, anwybyddu rheolau hylendid a methu ag olrhain tarddiadau bwyd – gan beryglu iechyd ac ymddiriedaeth y cyhoedd.

Wrth ddedfrydu, crynhôdd y Barnwr Francis yr achos gan bwysleisio bod y twyll wedi cael effaith gymdeithasol amlwg, gan esbonio y byddai cwsmeriaid wedi cael eu dychryn petaent yn gwybod nad oedd y cig yr oeddent yn ei brynu yn halal.

O ran hylendid bwyd yn y busnes hwn, dywedodd y Barnwr Francis: "Nid oedd y cig a atafaelwyd oddi wrthych yn ddiogel, dyna pam y cafodd ei gymryd oddi wrthych a'i wneud yn fwyd anifeiliaid anwes. Trwy fethu â chadw eich cwsmeriaid yn ddiogel, roedd hon yn drychineb a oedd yn aros i ddigwydd, ac mae'n wyrth na ddigwyddodd."

Dywedodd y Cynghorydd Norma Mackie, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd:  "Bydd y stori hon yn peri pryder i'n cymuned Fwslimaidd. Mae bwyta halal yn ofyniad yn y grefydd Islamaidd, ac mae cymryd rhan mewn twyll o'r fath yn dangos diystyrwch llwyr y dynion hyn tuag at y gymuned.

"Datgelodd yr ymchwiliad amodau hylendid bwyd gwael iawn a allai fod wedi achosi niwed difrifol i'w cwsmeriaid. 

"Mae'r achos hwn yn codi cwestiynau pwysig am sut mae cyflenwyr bwyd yn cael eu dwyn i gyfrif am gywirdeb eu hawliadau halal, yr angen am fwy o ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr, a phwysigrwydd gwirio dilysrwydd ardystiadau halal. Os oes gan unrhyw un bryderon am olrhain y cynhyrchion bwyd maen nhw'n eu prynu gan gyfanwerthwr, cysylltwch â’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ar 0300 123 6696"