Back
Ysgol Glan Morfa yn dathlu adroddiad canmoladwy gan Estyn

04/08/25

Yn ystod arolwg diweddar gan Estyn, mae Ysgol Glan Morfa yn y Sblot wedi cael ei chanmol am ei gwerthoedd cryf, ei hethos cynhwysol a'i hymrwymiad i les a chynnydd disgyblion.

Two girls watering flowers in a gardenAI-generated content may be incorrect.

A group of children leaning on a fenceAI-generated content may be incorrect.

A group of children in school uniformsAI-generated content may be incorrect.

Tynnodd arolygwyr sylw at y safonau uchel sy'n cael eu gosod gan arweinwyr yr ysgol, yn ogystal â gweledigaeth glir, gynhwysfawr sy'n rhoi cynnydd a lles disgyblion wrth ei chalon. Mae'r adroddiad yn canmol partneriaethau cryf yr ysgol gyda rhieni, llywodraethwyr, a'r gymuned ehangach, sy'n helpu i ddarparu cyfleoedd dysgu diddorol ac ystyrlon.

Rhoddwyd canmoliaeth arbennig i waith yr ysgol wrth ddatblygu dealltwriaeth bersonol, gymdeithasol a moesol disgyblion, a'i hymrwymiad i ddathlu a pharchu amrywiaeth ddiwylliannol.

Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod gwaith gwych Ysgol Glan Morfa yn hyrwyddo'r Gymraeg a rôl ganolog yr iaith ym mywyd bob dydd yr ysgol. Mae'r ysgol yn falch o feithrin siaradwyr Cymraeg hyderus sy'n cyfrannu at dwf a phwysigrwydd parhaus yr iaith yn y gymuned leol.

Mae Mr M. Tomos, Pennaeth Ysgol Glan Morfa, wedi croesawu adroddiad ardderchog Estyn, "Rwy'n falch iawn o ganfyddiadau ein harolwg diweddaraf gan Estyn sy'n cydnabod bod Ysgol Glan Morfa yn cynnig amgylchedd gofalgar a chynhwysol ac yn chwarae rhan ganolog ym mywyd ein cymuned. Mae'n dyst i ymroddiad ein staff, llywodraethwyr, rhieni a disgyblion ein bod ni'n creu lle mor gefnogol ac ysgogol i ddysgu."

"Mae'r adroddiad ardderchog hwn o ganlyniad i flynyddoedd lawer o waith caled, ymrwymiad a chydweithio," ychwanegodd Mr Tomos. "Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'n holl randdeiliaid - staff, disgyblion, llywodraethwyr, teuluoedd a phartneriaid cymunedol - am eu cefnogaeth ddiwyro. Mae'r canfyddiadau hyn yn cadarnhau cryfder ein hethos - 'Gyda'n Gilydd Fe Lwyddwn' - ac rydym yn gyffrous i adeiladu ar y llwyddiant hwn wrth i ni barhau i wasanaethu ein disgyblion a'n cymuned."

Gwnaeth Estyn un argymhelliad i helpu'r ysgol i barhau i wella, a fydd yn cael ei ystyried yn ei chynllun gweithredu; Datblygu cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg ar draws y cwricwlwm ymhellach.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae adroddiad Estyn diweddaraf Ysgol Glan Morfa yn gymeradwyaeth bwerus o ethos cynhwysol, arweinyddiaeth gref, ac ymrwymiad diwyro'r ysgol i les a chynnydd disgyblion.

"Mae ymroddiad yr ysgol i feithrin siaradwyr Cymraeg hyderus a meithrin diwylliant o barch ac amrywiaeth yn wirioneddol ganmoladwy.  Mae'r gydnabyddiaeth hon yn dyst i ysbryd cydweithredol cymuned gyfan yr ysgol."

Adeg yr arolwg, roedd 246 o ddisgyblion ar gofrestr Ysgol Glan Morfa, ac roedd 37.4% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Roedd gan 5.3% o'r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac roedd 18.1% o'r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref.