Back
Cyngor Caerdydd yn ymrwymo i fod yn Gyflogwr sy’n Ystyriol o Endometriosis
5/8/25
 
Cyngor Caerdydd yw'r sefydliad diweddaraf i wneud addewid i gefnogi cydweithwyr y mae endometriosis yn effeithio arnynt, drwy ymuno â'r cynllun Cyflogwyr sy’n Ystyriol o Endometriosis.

Gyda 14,800 o staff, dyma'r corff llywodraeth leol mwyaf i wneud yr ymrwymiad hwn, a dim ond yr ail yng Nghymru i wneud hynny, ar ôl Cyngor Sir Powys.

Trwy'r cynllun, sy'n cael ei redeg gan yr elusen Endometriosis UK, bydd Cyngor Caerdydd yn gwella ei gefnogaeth i'r rhai y mae’r clefyd cyffredin hwn yn effeithio arnynt, yn ogystal â chwalu’r tabŵ a’r stigma ynghylch iechyd mislif.

Mae endometriosis yn effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol 1 o bob 10 menyw a pherson y neilltuwyd rhywedd benywaidd iddynt adeg eu geni, o'r glasoed hyd at y menopos, er y gellir teimlo’r effaith am oes.

Mae'r symptomau'n cynnwys poen pelfig cronig, mislifoedd poenus, symudiadau coluddyn poenus a phoen wrth droethi. Er ei fod mor gyffredin, mae'n cymryd naw mlynedd ac 11 mis ar gyfartaledd i gael diagnosis yng Nghymru – yr hiraf o blith holl wledydd y DU – am resymau sy’n cynnwys diffyg dealltwriaeth o'r clefyd.

Fel rhan o'r cynllun, bydd Cyngor Caerdydd yn penodi Eiriolwyr Endometriosis a fydd yn cael hyfforddiant gan Endometriosis UK i'w galluogi i ddarparu cymorth a gwybodaeth i'r gweithlu.

Dywedodd Emma Cox, Prif Swyddog Gweithredol Endometriosis UK: “Rwy'n falch iawn o groesawu Cyngor Caerdydd i'r ystod amrywiol o sefydliadau sy'n mynd i'r afael â’r tabŵ ynghylch iechyd mislif ac endometriosis drwy'r cynllun Cyflogwyr sy’n Ystyriol o Endometriosis.

“Trwy ddangos i'w dîm eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu disgwyl cefnogaeth ac addasiadau rhesymol i helpu'r rhai sydd ag endometriosis a chyflyrau mislif i lwyddo yn y gwaith, byddant yn cynyddu ymgysylltiad ar draws eu gweithlu cyfan, gan wneud y sefydliad yn fwy llwyddiannus yn y pen draw.”

Dywedodd Frances Sheppard, Eiriolwr Endometriosis yng Nghyngor Caerdydd: “Ar ôl ymdopi’n bersonol â’r heriau o gael diagnosis a llawdriniaeth ar gyfer endometriosis, rwy'n deall pa mor ynysig a gorlethol y mae’r daith yn gallu bod. Rwy am fod yn ffynhonnell o gefnogaeth ac arweiniad i eraill, gan gynnig cyngor, empathi ac anogaeth i'w helpu i deimlo'n llai unig.”

Dywedodd yr Eiriolwr Sian Coleman: “Trwy ddod yn Eiriolwr Ystyriol o Endometriosis, rwy'n gobeithio codi ymwybyddiaeth o endometriosis a sicrhau bod gweithwyr a rheolwyr yn derbyn y gefnogaeth a'r arweiniad sydd eu hangen arnynt.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: “Rydym yn falch iawn o ymuno â'r cynllun Cyflogwyr sy’n Ystyriol o Endometriosis i sicrhau y gallwn ddechrau deall a chefnogi'r rheiny yn y gweithle sydd ag endometriosis yn well, yn ogystal â chwalu tabŵs am iechyd mislif. Edrychwn ymlaen at weithio gydag Endometriosis UK, a gobeithio y byddwn yn ysbrydoli eraill i ymuno â'r cynllun hefyd.”

Endometriosis UK yw'r elusen flaenllaw sy'n eirioli dros hawliau ac anghenion mwy na 1.5m o bobl yn y DU sydd ag endometriosis.

Yn ogystal â darparu gwasanaethau cymorth, gwybodaeth ddibynadwy a chymuned i'r rhai y mae endometriosis yn effeithio arnynt, mae Endometriosis UK yn gweithio i sicrhau bod pawb sydd ag endometriosis yn cael diagnosis prydlon a'r driniaeth a'r gefnogaeth orau, er mwyn rhoi diwedd ar ddiystyru poen cronig sy'n gysylltiedig â'r mislif fel rhywbeth arferol, ac i godi ymwybyddiaeth o endometriosis ymhlith y cyhoedd yn ehangach.

Mae endometriosis yn digwydd pan gaiff celloedd tebyg i'r rhai ym meinwe’r groth eu canfod mewn rhannau eraill o’r corff. Gall y celloedd hyn dyfu a newid mewn ymateb i hormonau yng nghylchred y mislif, a all achosi llid, poen a meinwe greithiol. Mae endometriosis yn digwydd amlaf yn leinin y pelfis (peritonewm) a gall ddigwydd yn yr ofarïau ac organau pelfig eraill fel y coluddyn neu'r bledren. Yn llai cyffredin, gellir canfod endometriosis y tu allan i'r pelfis hefyd, fel yn y frest.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun Cyflogwyr sy’n Ystyriol o Endometriosis ar gael yn: https://www.endometriosis-uk.org/endometriosis-friendly-employer-scheme