Back
Mae Rhentu Doeth Cymru wedi ffurfio partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru i gyflwyno cwrs rheoli llifogydd hanfodol
7/8/25

Mae Rhentu Doeth Cymru wedi lansio 
hyfforddiant Rheoli Llifogydd newydd ar gyfer landlordiaid ac asiantiaid, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r cwrs Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yn rhad ac am ddim ac mae bellach ar gael ar wefan Rhentu Doeth Cymru.  

Gydag 1 o bob 7 cartref a busnes yng Nghymru mewn perygl o lifogydd, a chyda'r argyfwng hinsawdd yn dod â thywydd mwy eithafol, mae'n bwysicach nag erioed bod pobl yn gwybod ac yn deall eu perygl o lifogydd.

Mae tîm Ymgysylltu â’r Gymuned a Gwydnwch Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru i ddylunio a chyflwyno cwrs ar-lein i landlordiaid ac asiantiaid yng Nghymru, i'w helpu i ddeall sut i reoli eiddo sydd mewn perygl o lifogydd.

Y gobaith yw y bydd yr hyfforddiant yn cynnig cyngor ac arweiniad ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd a lliniaru'r effaith ar gartrefi, bywoliaeth a chymunedau pobl.

Trwy gwblhau'r hyfforddiant, bydd landlordiaid ac asiantiaid yn casglu 10 pwynt DPP fydd yn cyfrif tuag at gais adnewyddu trwydded Rhentu Doeth Cymru.

Dywedodd Anne Rowland, Arweinydd Grŵp Rhentu Doeth Cymru: "Ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar ddarparu ystod eang o gyrsiau DPP ar bynciau o ddiddordeb i landlordiaid ac asiantiaid, er mwyn cynorthwyo pobl i fodloni eu gofynion hyfforddi ar gyfer adnewyddu trwydded.

"Mae cydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru ar y cwrs hwn wedi bod yn werthfawr iawn."

Mae'r cydweithrediad â Rhentu Doeth Cymru yn rhan o ymdrech ehangach CNC i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cymunedau gwydn ledled Cymru.

Dywedodd Kelly McLauchlan, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol - Ymgysylltu â'r Gymuned a Gwydnwch ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru: "Gall llifogydd ddinistrio cartrefi, tarfu ar fywoliaeth, a gadael effeithiau parhaol ar iechyd meddwl a lles.

"Gyda chymaint o eiddo rhent yng Nghymru, mae'n hanfodol bod landlordiaid ac asiantiaid yn deall a yw eu heiddo mewn perygl o lifogydd, a beth yw eu cyfrifoldebau i denantiaid.

"Rydyn ni wedi gwerthfawrogi gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru. Mae eu mewnwelediad i'r sector rhentu preifat a'r ffordd orau i'w gyrraedd wedi bod yn amhrisiadwy wrth ein helpu i droi arweiniad technegol yn gwrs ar-lein clir, ymarferol.

"Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn cefnogi mwy o landlordiaid, asiantiaid, ac yn y pen draw tenantiaid ledled Cymru i ddeall perygl llifogydd a chymryd camau i baratoi."