Back
Gwaith Adnewyddu Cartref Cŵn Caerdydd ar y gweill ar ôl ymdrech codi arian gwerth £500,000

7.8.25

Mae gwaith adnewyddu wedi dechrau'n swyddogol yng Nghartref Cŵn Caerdydd, gan nodi cam mawr ymlaen o ran gwella cyfleusterau ar gyfer cŵn coll a chŵn y cefnwyd arnynt yng Nghaerdydd.

Mae'r gwaith adnewyddu yn bosibl diolch i ymdrechion codi arian gwych The Rescue Hotel, elusen gofrestredig a sefydlwyd yn 2020 i gefnogi Cartref Cŵn Caerdydd.

A group of people posing for a photo AI-generated content may be incorrect.

Matthew Acreman o The Rescue Hotel gyda chynrychiolwyr rhai o'r busnesau lleol sy’n cefnogi'r gwaith adnewyddu. Llun gan: The Rescue Hotel

Wedi'i lansio gan gyn-gapten rygbi Cymru a chennad The Rescue Hotel, Sam Warburton, cododd eu hymgyrch codi arian dros £500,000 i uwchraddio'r cytiau. Mae hyn yn cynnwys rhodd hael o £180,000 gan y Pets Foundation.

Mae'r gwaith yn cael ei wneud mewn dau gam. Mae cam 1, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, yn cynnwys trawsnewid y bloc stabl presennol o bedwar cwt yn gyfleuster modern estynedig gydag un ar ddeg o gytiau. Yn ystod Cam 2 bydd y 40 o gytiau yn y prif adeilad yn cael eu disodli gan 32 o unedau newydd wedi’u huwchraddio.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd â chyfrifoldeb am Gartref Cŵn Caerdydd, y Cynghorydd Norma Mackie: "Bydd y gwelliannau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i les y cŵn. Rydym yn hynod ddiolchgar i The Rescue Hotel a'u holl gefnogwyr am wneud hyn yn bosibl."

Dywedodd Matthew Acreman o The Rescue Hotel: "Rydyn ni wrth ein bodd o weld y gwaith yn dechrau o'r diwedd. Diolch yn fawr i'n holl gefnogwyr, partneriaid ariannu, a'r busnesau sydd wedi camu i’r adwy i helpu trwy roi deunyddiau yn ogystal â'u hamser a'u harbenigedd i ddod â'r prosiect yn fyw. Gyda'n gilydd rydyn ni'n creu dyfodol gwell i'r cŵn sydd ein hangen fwyaf."

Mae'r prosiect wedi cael ei gefnogi gan: RNF Group, Atlantic Recycling, Mike Gulley o Keyline and Llanharan Concrete, BECT Building Contractors, Gwalia, Monay Limited, Atkins Realis, Knox and Wells, Capital Construction Training Group.