Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 21 Awst

Croeso i ddiweddariad diwethaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: bydd pedwar man chwarae i blant arall yng Nghaerdydd yn ailagor am 12pm ddydd Sadwrn 22 Awst, gan ddod â'r cyfanswm sydd bellach ar agor i 104; Cafodd disgyblion Blwyddyn 11 o bob rhan o'r ddinas eu canlyniadau TGAU ddoe, a chafodd llawer ohonynt eu cyflwyno'n rhithiol oherwydd COVID-19; ac mae mam ddiolchgar dyn o Gaerdydd a oedd yn cysgu ar strydoedd y ddinas wedi anfon neges bwerus o ddiolch i'r tîm a helpodd ei mab i gyflawni newid gwirioneddol yn ei fywyd.

 

Pedair ardal chwarae ychwanegol i ailagor ddydd Sadwrn

Bydd pedair ardal chwarae i blant ychwanegol yng Nghaerdydd yn ailagor o 12pm ddydd Sadwrn 22 Awst, sy'n golygu bod 104 o ardaloedd chwarae bellach ar agor eto.

Mae'r ardaloedd chwarae wedi eu hailagor yn raddol, gan ddilyn ymagwedd diogelwch yn gyntaf a gyda'r nod o sicrhau bod plant ledled y ddinas yn gallu cael rhyw fath o ddarpariaeth chwarae yn eu hardal leol cyn gynted â phosibl.

Y pedair a fydd ar agor o 12pm ddydd Sadwrn 22 Awst yw:

  • Glenwood - Pentwyn
  • Lascelles Drive - Pontrennau a Llaneirwg
  • Coleford Drive - Trowbridge
  • Heol Booker - Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth iechyd a diogelwch, cynhaliwyd asesiad risg Covid-19 ar bob safle ac mae arwynebau'r offer a'r arwynebau diogelwch wedi cael eu harchwilio gan arolygydd ardal chwarae cymwys, cyn eu hail-agor.

Gwnaed newidiadau i rai ardaloedd chwarae er mwyn helpu i gadw pellter cymdeithasol a lleihau'r risg o drosglwyddo COVID-19. Er enghraifft, mae rhai seddi siglenni wedi eu tynnu er mwyn sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal.

Er mwyn helpu i sicrhau diogelwch, mae arwyddion newydd wedi eu gosod ar y safleoedd hefyd, yn gofyn i deuluoedd sy'n eu defnyddio:

  • olchi neu ddiheintio eu dwylo, cyn, ar ôl ac wrth ddefnyddio'r offer;
  • dilyn gofynion cadw pellter cymdeithasol;
  • cyfyngu eu hymweliad i 30 munud yn ystod adegau prysur;
  • bod ag uchafswm o un oedolyn fesul plentyn yn yr ardal chwarae.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24582.html

 

Canlyniadau TGAU Caerdydd 2020

Cafodd disgyblion Blwyddyn 11 o bob rhan o'r ddinas eu canlyniadau TGAU ddoe, a chafodd llawer ohonynt eu cyflwyno'n rhithiol oherwydd COVID-19.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae diwrnod canlyniadau TGAU yn garreg filltir bwysig ym mywydau pobl ifanc, yn nodi dechrau pennod newydd yn eu bywydau, boed nhw'n mynd ymlaen i addysg ôl-16, i gyflogaeth neu i raglenni hyfforddi.

"Wynebodd y grŵp yma o fyfyrwyr blwyddyn 11 set eithriadol o heriau oherwydd yr argyfwng iechyd a chânt eu hadnabod o hyd am oresgyn y rhain. Maent hefyd wedi gorfod delio ag ansicrwydd ychwanegol ynglŷn â'r ffordd y byddai graddau'n cael eu cyfrifo.

"Hoffwn longyfarch holl fyfyrwyr Caerdydd wrth iddynt ddathlu eu gwaith caled, a dechrau edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous a newydd." 

O ystyried y penderfyniad i ganslo arholiadau'r haf hwn o ganlyniad i'r pandemig, mae CBAC wedi datblygu proses sy'n caniatáu i raddau gael eu seilio ar Raddau Asesiad Canolfan a Threfnau Rhestrol sydd wedi eu cyflwyno gan athrawon/darlithwyr.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24573.html

 

Teyrnged farddonol i weithiwr allgymorth digartref wnaeth 'achub bywyd'

Mae mam ddiolchgar i ddyn o Gaerdydd fu'n cysgu ar strydoedd y ddinas wedi anfon neges bwerus o ddiolch i'r tîm a helpodd ei mab i sicrhau newid go iawn yn ei fywyd.

Fe ffilmiodd y fam - Philippa - ei hun yn darllen cerdd emosiynol a gyfansoddodd, yn talu teyrnged i weithiwr cymorth sydd wedi helpu Michael ar ei daith i ffwrdd o'i fywyd ar y stryd.

Mae'r gerdd, a stori Philippa, yn rhoi cipolwg pwysig ar y rhesymau cymhleth a all arwain at rywun yn dod yn ddigartref, a sut nad yw datrys y mater mor syml â rhoi to dros ben person.

Mae Philippa yn diolch i Sian Farrugia, gweithiwr allgymorth yn nhîm amlddisgyblaethol y ddinas am yr holl amser a'r cymorth y mae hi wedi'u rhoi i helpu Michael i gael ei fywyd yn ôl ar y trywydd iawn.

Mae'r tîm amlddisgyblaethol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth i fynd i'r afael ag anghenion cymorth sylfaenol unigolion sy'n cysgu ar y stryd ac mewn hosteli, ac mae wedi cael cryn lwyddiant wrth gynorthwyo unigolion sy'n agored i niwed i ailadeiladu eu bywydau a sicrhau newid hirhoedlog a pharhaol. Mae'r tîm hwn yn cynnwys nyrs iechyd meddwl a gweithiwr cymdeithasol; gweithwyr cyffuriau ac alcohol; y gallu i ddefnyddio gwasanaethau rhagnodi cyflym, nyrsys gofal sylfaenol, cwnselydd a gweithwyr therapiwtig; mentoriaid cymheiriaid a nyrsys gofal sylfaenol.

Yn y gerdd, disgrifir Sian fel 'gweithiwr gwyrthiol' sydd wedi bod yn gefn i Michael yn ystod blwyddyn anoddaf ei fywyd, pryd y bu'n cysgu ar strydoedd y ddinas cyn dechrau ymgysylltu â'r tîm allgymorth a symud i lety dros dro.

Mae Sian, a ddechreuodd ei rôl yn y Tîm Amlddisgyblaethol fel eiriolwr cyn symud i'w safle allgymorth presennol, wedi parhau i weithio gyda Michael dros y 12 mis diwethaf ac mae e bellach yn byw yn ei fflat ei hun drwy'r project Llety â Chymorth i Fyw'n Annibynnol (SAIL).

Mae Philippa yn canmol Sian am y gwaith anhygoel mae hi'n ei wneud, am gredu yn Michael, am ei hempathi, ei gwybodaeth, ei hamynedd a'i gofal. Mae hi'n disgrifio sut mae pobl fel Sian yn achub bywydau mewn gwirionedd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/24563.html