Back
5 pheth y dylai pob myfyriwr yng Nghaerdydd ei wybod am eu gwastraff a’u hailgylchu

12.10.2020

Os yw'ch mab, merch, wŷr neu wyres, ffrind neu berthynas yn dechrau ym Mhrifysgol Caerdydd y flwyddyn hon bydd yn gwybod bod llawer o bethau i'w dysgu yn byw oddi cartref.

P'un ai a yw mewn Neuadd neu lety preifat, mae'n bwysig i fyfyrwyr wybod sut i waredu eu sbwriel yn gywir.

Bydd y 5 argymhelliad hyn yn sicrhau eu bod yn osgoi cael dirwy:

  1. Gall gwastraff bwyd gael ei ailgylchu'n ynni. Defnyddiwch y cadi bwyd ar gyfer yr holl fwyd nas defnyddiwyd, gan gynnwys pliciau ffrwythau a llysiau, bwyd sy'n weddill, plisg wy, bagiau te a choffi mâl yn y cadi cegin. Cewch ragor o wybodaeth am y cadis bwyd  yma.

 

  1. Caiff ailgylchu ei gasglu bob wythnos yng Nghaerdydd mewn bagiau ailgylchu gwyrdd AM DDIM. Gallwch eu harchebu ar-lein neu eu nôl nhw o'n stocwyr lleol. Bydd defnyddio casgliadau ailgylchu a gwastraff bwyd yn golygu na fydd llawer o wastraff yn weddill i'w roi yn y bin du/bagiau streipiau coch.  Dewch o hyd i'ch stocwyr lleol  yma.

 

  1. Lawrlwythwch ap Cardiff Gov er mwyn peidio â cholli dyddiad casglu. Gallwch wirio dyddiadau eich casgliadau ailgylchu a gwastraff a gosod negeseuon atgoffa. I lawrlwytho'r ap ewch i siop Google Play neu siop apiau Apple a chwilio am ‘Cardiff Gov'.

 

  1. Os nad ydych yn siŵr beth sy'n perthyn i ble, edrychwch ar ein canllaw  Ailgylchu A-Z - https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/A-Y-o-ailgylchu/Pages/default.aspx - a theipiwch enw unrhyw eitem i gael gwybod sut i gael gwared ohoni'n gywir. O bolystyren i blastig a balwnau i bapur swigod, gallwn ni eich helpu i roi eich deunyddiau gwastraff ac ailgylchu yn y lle iawn.

 

  1. Os gosodwyd sticer pinc ar eich bin neu fag ailgylchu, edrychwch yn gyntaf i weld a ydych chi wedi rhoi'r eitemau canlynol yn y bag mewn camgymeriad:
     
  • Gwastraff bwyd / gweddillion bwyd mewn pecynnau, tuniau, jariau ac ati.
  • Tecstilau - megis dillad, dillad gwely, carpion ac ati.
  • Cewynnau

 

Mae'n bwysig sicrhau bod pobl yn rhoi'r eitemau cywir yn y cynwysyddion cywir fel y gallwn ailgylchu a chompostio cymaint â phosibl. 

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd â'r deunyddiau ailgylchu yn ôl i mewn a thynnu'r eitemau anghywir cyn eich diwrnod casglu nesaf.

 

Os nad ydych yn cofio sut mae'r cynllun Sticer Pinc yn effeithio arnoch chi, edrychwch ar ein Cwestiynau Cyffredin:  https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23293.html

Cewch ragor o wybodaeth am ailgylchu a gwastraff  yma.

Mae achosion COVID-19 ar gynnydd yng Nghaerdydd ac ardaloedd cyfagos. Helpwch i atal y Coronafeirws rhag lledaenu drwy ddilyn canllawiau'r Llywodraeth:

  • Golchwch eich dwylo gyda sebon a dŵr yn aml - gwnewch hyn am o leiaf 20 eiliad
  • Golchwch eich dwylo bob tro y byddwch yn cyrraedd adref neu'r brifysgol
  • Defnyddiwch gel diheintio'r dwylo os nad oes sebon a dŵr ar gael
  • Gorchuddiwch eich ceg a'ch trwyn â hances neu eich llawes (nid eich dwylo) pan fyddwch yn peswch neu'n tisian
  • Rhowch hancesi wedi'u defnyddio yn y bin ar unwaith a golchwch eich dwylo wedyn
  • Ceisiwch osgoi cyswllt agos â phobl nad ydynt yn teimlo'n dda
  • Peidiwch â chyffwrdd â'ch llygaid, eich trwyn neu eich ceg os nad yw eich dwylo'n lân
  • Os oes gennych dwymyn, peswch ac anhawster anadlu, gofynnwch am ofal meddygol yn gynnar
  • Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf a dilyn y cyngor a roddwyd gan eich darparwr gofal iechyd

Am fwy o wybodaeth ewch i  https://llyw.cymru/coronafeirws

Pob lwc a chroeso i holl fyfyrwyr prifysgol newydd Caerdydd!