Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 02/11/20

 

01/11/20 - Grantiau sydd ar gael ar gyfer y cyfnod atal

Mae grantiau ar gael i fusnesau bach sy'n wynebu heriau gweithredol ac ariannol yn sgil y cyfnod atal.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25106.html

 

30/10/20 - Cyflwyno dau gynllun yng Nghymru i helpu pobl i hunanynysu

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan y Prif Weinidog am Daliadau Hunan-ynysu rydym wrthi'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gwblhau manylion y cynllun.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25101.html

 

30/10/20 - Gwylio Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol Cymru yn fyw ar-lein

Mae trefniadau wedi'u gwneud eleni a fydd yn caniatáu i aelodau o'r cyhoedd gymryd rhan yng Ngwasanaeth Cofio Cenedlaethol Cymru, yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25097.html

 

29/10/20 - Diweddariad: Cymorth digidol ychwanegol i blant ysgol Caerdydd

Cyn diwedd tymor yr Hydref bydd pob ysgol brif ffrwd yng Nghaerdydd yn cael swp o ddyfeisiau Chromebook newydd sy'n cyfateb i grŵp blwyddyn lawn o ddisgyblion yn eu hysgol.  Bydd cyfanswm o 10,000 o ddyfeisiau newydd yn cael eu dosbarthu i ysgolion ledled y ddinas.  Bydd hyn yn helpu ysgolion i ddarparu dysgu ar-lein a dysgu cyfunol, tra y gallai absenoldeb effeithio ar blant oherwydd COVID-19.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25092.html

 

29/10/20 - Addewid strydoedd glanach

Bydd Caerdydd yn elwa o strydoedd glanach o dan gynlluniau newydd i newid y ffordd y cesglir gwastraff ac a deunyddiau ailgylchadwy ar draws y ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25090.html

 

29/10/20 - 10 Syniad Crefft Calan Gaeaf BWGANdigedig gyda deunydd ailgylchu i blant yr Hanner Tymor hwn

Gyda'r Calan Gaeaf eleni yn ystod yr Hanner Tymor, dyma'r amser perffaith i gael y plant i gymryd rhan mewn rhai celf a chrefftau OFNadwy o dda.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25083.html

 

28/10/20 - Bwriad i baentio Cofeb Scott ym Mharc y Rhath

Bydd goleudy eiconig Cofeb Scott ym Mharch y Rhath yn cael ei ailbaentio i gofio am ddwy fenyw a arferai, cyn iddynt farw yn anffodus, fwynhau cerdded o amgylch Llyn Parc y Rhath.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25078.html