Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 24 Tachwedd

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion; cyn Gapel y CRI i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd a lles i drigolion lleol; a ŵyl Hydref gyntaf Bwyd Da Caerdydd.

 

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (15 Tachwedd - 21 Tachwedd)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

23 Tachwedd

 

Achosion: 628

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 171.2 (Cymru: 185.3 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,008

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,364.9

Cyfran bositif: 12.5% (Cymru: 12.2% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 24.11.20

Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Mae 11 o ddisgyblion Blwyddyn 12 ac 13 a 4 aelod staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.   

Ysgol Uwchradd Willows

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Willows. Mae 9 disgybl o Flwyddyn 9 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunan-ynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith. 

Ysgol Gynradd Llanedern

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Llanedern. Mae 28 o ddisgyblion Blwyddyn 4 a 6 aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

Ysgol Uwchradd y Dwyrain

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain. Mae 6 disgybl o Flwyddyn 8 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.    Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunan-ynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith. 

Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant. Mae 174 o ddisgyblion Blwyddyn 9 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunan-ynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith. 

Ysgol Gyfun Glantaf

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gyfun Glantaf. Mae 104 o ddisgyblion Blwyddyn 9 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu henwi'n gysylltiadau agos yr achos o COVID-19 a gadarnhawyd. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunan-ynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith. 

 

Cyn Gapel y CRI i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd a lles i drigolion lleol

Mae gwaith adnewyddu ar y gweill i drawsnewid yr hen Gapel yn y CRI yn gyfleuster iechyd a llesiant bywiog i'r trigolion yn ne a dwyrain Caerdydd. Bydd yr adeilad rhestredig gradd II eiconig yn dod yn gartref i wybodaeth a chyngor iechyd a llesiant, llyfrgell newydd, mannau cyfarfod, ystafell TG a Chaffi Aroma. Er gwaethaf y pandemig parhaus, mae gwaith yn mynd rhagddo'n gyflym gyda'r bwriad i ailagor yr adeilad i'r cyhoedd yn gwanwyn y flwyddyn nesaf.

Bydd staff, cleifion sy'n ymweld â chlinigau yn y CRI, ynghyd â theuluoedd, pobl ifanc ac oedolion yn y gymuned, yn elwa ar amrywiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau gan gynnwys defnyddio man hyblyg a rennir lle gallant gael gafael ar wasanaethau cymorth gan asiantaethau partner.

Bydd y datblygiad yn darparu model ar gyfer prosiectau cymunedol yn y dyfodol ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, a weithredir drwy gynllun Llunio Ein Lles yn y Dyfodol: Yn ein Rhaglen Seilwaith Cymunedol, gyda'r nod o wella iechyd a lles ein cymunedau. 

Darparwyd cyllid ar gyfer adnewyddu ac ailfodelu gan Gronfa Gofal Integredig (CGI) Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chyngor Caerdydd ac mae'n cael ei ddarparu mewn partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, y Bartneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig, Cyngor Caerdydd, a Phartneriaid y Trydydd Sector.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25185.html

 

Ŵyl Hydref gyntaf Bwyd Da Caerdydd

Er mwyn annog pobl i ddechrau tyfu gartref, dosbarthwyd 5,000 o blanhigion llysiau, gan gynnwys Sbigoglyw, Winwns, Bresych a dail salad y gaeaf ac a dyfwyd gan Blanhigfeydd Parc Bute, fel rhan o Ŵyl Hydref gyntaf Bwyd Da Caerdydd.

Trefnwyd yr ŵyl, a oedd yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau rhithwir a chymdeithasol o bell, gan bartneriaeth Bwyd Caerdydd er mwyn helpu i ddatrys dwy broblem sydd wedi gwaethygu yn sgil Covid-19 - ansicrwydd bwyd ac unigedd - ac fe ddenodd yr ŵyl dros 4,000 o bobl o bob rhan o'r ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://foodcardiff.com/cy/