Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 27 Tachwedd

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, yn cwmpasu: coblynnod COVID-19 yn ceisio cadw Caerdydd yn ddiogel y Nadolig hwn; achosion a phrofion COVID-19;diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion; arena dan do gam yn nes; a Bwrdd Iechyd i weithredu canolfannau brechu Covid-19 yn adeiladau'r Cyngor ym Mhentwyn a Sblot.

 

#CadwchGaerdyddYnDdiogel

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws
 

Coblynnod COVID-19 yn ceisio cadw Caerdydd yn ddiogel y Nadolig hwn

Cyn bo hir, bydd corachod bach lliwgar Nadolig yn lledaenu hwyl yr ŵyl a negeseuon diogelwch Covid-19 coblyn o bwysig yng nghanol dinas Caerdydd.

Mewn amrywiaeth o wisgoedd Nadoligaidd bydd gan yr wyth corrach, ochr yn ochr â thîm o 12 stiward diogelwch, neges bwysig i ymwelwyr - cadw Caerdydd yn ddiogel y Nadolig hwn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Rydyn ni eisiau i'r Nadolig yng Nghaerdydd fod yn llawn hwyl yr ŵyl, ac mae'r Coblynnod Covid yn cynnig ffordd gyfeillgar, ysgafn o gyflwyno neges wirioneddol bwysig.

"Y Nadolig yw tymor ewyllys da ac yn unol â'r ysbryd hwnnw bydd y tîm yn gofyn i bobl ddilyn y rheolau a chadw ei gilydd, a Chaerdydd yn ddiogel."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25318.html

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (18 Tachwedd - 24 Tachwedd)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

26 Tachwedd

 

Achosion: 675

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 184.0 (Cymru: 189.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,460

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,488.1

Cyfran bositif: 12.4% (Cymru: 12.3% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion: 27.11.20

 

Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi

Mae disgybl Blwyddyn 10 yn Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 220 o ddisgyblion Blwyddyn 10 wedi cael cyngor i hunanynysu heddiw, tra bod ymchwiliad pellach yn cael ei gynnal i nodi'r grŵp cyswllt.

 

Ysgol GynraddCreigiau

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Creigiau. Mae 27 o ddisgyblion a 2 aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Ysgol Uwchradd y Dwyrain

Mae disgybl Blwyddyn 7 yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 23 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

 

Ysgol Uwchradd Fitzalan

Mae 7 disgybl, ar draws 3 Grŵp Blwyddyn yn Ysgol Uwchradd Fitzalan wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 92 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Ysgol Gyfun Glantaf

Mae dau ddisgybl Blwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Glantaf wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae 240 o ddisgyblion Blwyddyn 8 wedi cael cyngor i hunanynysu o heddiw, tra bod ymchwiliad pellach yn cael ei gynnal i nodi'r grŵp cyswllt.

 

Ysgol Gynradd Lansdowne

Mae disgybl Blwyddyn 5 yn Ysgol Gynradd Lansdowne wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 28 o ddisgyblion a phum aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

 

Ysgol Gynradd Tredelerch

Mae aelod o staff a thri disgybl, ar draws pedwar Grŵp Blwyddyn yn Ysgol Gynradd Tredelerch wedi cael prawf COVID-19 positif. Mae 184 o ddisgyblion ac 11 aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.

 

Ysgol Gynradd Tongwynlais

Mae aelod o staff Yn Ysgol Gynradd Tongwynlais wedi profi'n bositif am COVID-19.  Mae 26 o ddisgyblion Blwyddyn 6 ac un aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.

 

Ysgol Gynradd Treganna

Mae 2 aelod o staff Ysgol Gynradd Treganna wedi profi'n bositif am COVID-19. Mae 29 o ddisgyblion Blwyddyn 3, 30 o ddisgyblion Blwyddyn 6 a 3 aelod o staff yn ychwanegol wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.
 

Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

Mae dau ddisgybl yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd wedi cael prawf COVID-19 positif. Anfonwyd pob disgybl ym Mlwyddyn 11 adref heddiw, wrth i ymchwiliadau pellach fynd rhagddynt i'r grŵp cyswllt.

 

Arena Dan Do Gam yn Nes

Nodi Live Nation fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer arena dan do â 15,000 sedd ym Mae Caerdydd

Bydd y lleoliad newydd a gynllunnir yn costio tua £150m i'w adeiladu a bydd yn denu mwy na miliwn o ymwelwyr ac amcangyfrif o £100m i'r economi leol bob blwyddyn. Bydd hefyd yn dod â swyddi newydd i bobl leol. Bydd dros 2000 o swyddi'n cael eu creu yn ystod y rhaglen adeiladu tair blynedd a phan fo'r arena ar waith, bydd 1000 o swyddi uniongyrchol a 600 o swyddi eraill yn cael eu cefnogi yn yr economi leol.

Ers mis Rhagfyr y llynedd mae'r Cyngor wedi datblygu proses gaffael i gael partner o'r sector preifat ac mae dau gynnig bellach wedi dod i law i ddarparu lleoliad gyda'r gorau yn y DU a fydd yn galluogi'r ddinas i gynnal digwyddiadau o bob maint. Mae Robertson hefyd yn y consortiwm a arweinir gan Live Nation.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Rydym yn dal i ymrwymo i ddarparu arena dan do newydd a heddiw rydym wedi cymryd cam mawr ymlaen. Credwn y bydd yr arena newydd yn cael effaith debyg ar Fae Caerdydd ag a gafodd Dewi Sant 2 ar ganol y ddinas. Bydd yn gweithredu fel catalydd pwysig ar gyfer cam nesaf adfywio Bae Caerdydd gan ddarparu swyddi a chyfleoedd newydd lle mae eu hangen fwyaf. Bydd hefyd yn helpu gyda'r achos i wella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus â Bae Caerdydd a bydd yn rhoi hwb i ail-ddychmygu ardal Canolfan y Ddraig Goch yn llwyr. Mae'n gyfle hynod gyffrous i Gaerdydd, yn enwedig wrth i ni geisio codi o ddifrod economaidd y pandemig.

"Rwy'n gwybod y bydd lleisiau'n gofyn "sut y gall y Cyngor fforddio bod yn rhan o brosiect fel hwn ar hyn o bryd", dyna pam y mae'n bwysig eu bod yn gwybod bod hwn yn gynnig a arweinir gan y sector preifat y mae'r Cyngor yn ei gefnogi. Mae hynny'n golygu y bydd y sector preifat yn talu'r gyfran fwyaf o'r costau ac yn cymryd y mwyafrif helaeth o'r risg sy'n gysylltiedig â chyflawni'r prosiect hwn. Bydd ymrwymiad cyfalaf y Cyngor yn llai na 15% a gallai fod yn sylweddol is erbyn diwedd y broses, ac yn hytrach byddwn yn defnyddio cryfder ein cyfamod i alluogi ein partner i gael cyllid ar gyfradd fwy fforddiadwy."

Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo adroddiad ddoe (26 Tachwedd) sy'n awdurdodi paratoi'r dyluniadau manwl terfynol a'r costau cyn fynd i gontract datblygu yn yr haf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Bydd yr Arena yn agos at lawer o gymunedau mwyaf difreintiedig Caerdydd ac rydym am i'r cymunedau hynny elwa o'r cyfleoedd gwaith a fydd ar gael. Mae'r Cyngor wedi sicrhau ymrwymiadau y bydd swyddi a hyfforddiant ar gael i bobl leol drwy gydol gwaith adeiladu'r arena a hefyd pan fo ar agor i fusnes. Bydd ffocws allweddol ar helpu pobl ddi-waith i gael gwaith ac ymgysylltu â'r rhai sy'n gadael yr ysgol drwy gynnig cyfleoedd dechreuwyr, prentisiaeth a chyflogaeth i raddedigion. Mae'n bwysig iawn bod preswylwyr yn elwa o'r prosiect hwn."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25315.html

 

Bwrdd iechyd i weithredu canolfannau brechu Covid-19 yn adeiladau'r Cyngor ym Mhentwyn a Sblo

Bydd canolfannau brechu Covid-19 yn cael eu sefydlu yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn a chanolfan STAR gynt yn Splott Road fel rhan o gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ddarparu rhaglen frechu dorfol ar gyfer Caerdydd.

Bydd y bwrdd iechyd yn defnyddio dau leoliad y Cyngor i roi brechlyn i drigolion Caerdydd dros gyfnod o 12 mis.

Nid oes dyddiad wedi'i bennu eto ar gyfer pryd y bydd brechu'n cychwyn, ond bydd gwaith paratoi'r canolfannau yn dechrau er mwyn bod yn barod i agor eu drysau cyn gynted ag y bo eu hangen. Pan fydd y canolfannau ar waith, bydd brechu'n digwydd saith diwrnod yr wythnos.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r bwrdd iechyd wedi dewis y ddau leoliad hyn, y mae'n teimlo bod y cyfleusterau angenrheidiol ynddynt ac maent mewn sefyllfa ddelfrydol yn y ddinas i'w helpu i gyflwyno ei raglen frechu. Mae gallu brechu cymaint o'r boblogaeth â phosibl, cyn gynted â phosibl yn hanfodol - y cyflymaf a'r mwy effeithiol y gellir ei wneud, y mwyaf o fywydau y gellir eu hachub, ond hefyd y cyflymaf y gall Caerdydd ddechrau adfer yn llawn wedi effaith Covid-19."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25308.html