Back
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 7 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 25/01/21


 

22/01/21 - Datganiad ar y cyd gan Race Council Cymru a Chyngor Caerdydd

Roedden ni'n siomedig iawn o weld y lluniau o dorchau pabi a osodwyd i anrhydeddu milwyr Du a Lleiafrifoedd Ethnig yng nghofeb rhyfel Gerddi Alexandra wedi cael eu gadael wrth fin sbwriel cyfagos yr wythnos hon.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25690.html
 

22/01/21 - Dirwy o £1,200 am oryrru ar Afon Elái

Mae preswylydd o Gaerdydd wedi'i gael yn euog o oryrru ar Afon Elái a gorchmynnwyd iddo dalu dirwy o £1,200 gan Lys yr Ynadon.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25685.html

 

22/01/21 - Coffáu Diwrnod Cofio'rHolocost Cymru gartref

Bydd recordiad o Seremoni Genedlaethol Cymru eleni i goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost ar gael ar sianel YouTube Cyngor Caerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25681.html

 

21/01/21 - Estyn yn cyhoeddi adolygiad cadarnhaol o ddull Caerdydd o gefnogi ysgolion a dysgwyr yn ystod y pandemig

Canfu gwerthusiad fod arweinyddiaeth strategol barhaus, cyfathrebu cryf a phwyslais ar weithio mewn partneriaeth i gefnogi athrawon, plant a phobl ifanc yn rhan o ddull Cyngor Caerdydd o helpu dysgwyr yn y ddinas yn ystod pandemig COVID-19.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25679.html

 

21/01/21 - Contractwr wedi'i ddewis i adeiladu Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd

Dyfarnwyd y contract i adeiladu cartref newydd Ysgol Uwchradd Fitzalan i Kier, wrth i'r cynllun diweddaraf a gyflawnir dan Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg, gwerth £284 miliwn, fynd yn ei flaen yng Nghaerdydd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25669.html

 

19/01/21 - Paratoi ar gyfer Storm Christoph

Mae tîm priffyrdd y Cyngor yn gweithio'n galed i glirio draeniau a gylïau ledled y ddinas i sicrhau y gall dŵr wyneb ddraenio'n effeithiol o'r rhwydwaith ffyrdd.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25653.html