Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 24 Mehefin

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a hwb ariannol mawr i strydoedd mwy diogel Caerdydd.

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (13 Mehefin - 19 Mehefin)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

23 Mehefin 2021, 09:00

 

Achosion: 158

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 43.1 (Cymru: 35.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,250

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,158.3

Cyfran bositif: 3.7% (Cymru: 2.8% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 24 Mehefin

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  579,340 (Dos 1: 350,323 Dos 2:  228,964)

 

  • 80 a throsodd: 20,955 / 94.5% (Dos 1) 20,196 / 91% (Dos 2)
  • 75-79: 15,105 / 96.1% (Dos 1) 14,691 / 93.5% (Dos 2)
  • 70-74: 21,474 / 95.5% (Dos 1) 21,218 / 94.3% (Dos 2)
  • 65-69: 21,911 / 93.9% (Dos 1) 21,194 / 90.8% (Dos 2)
  • 60-64: 25,976 / 92% (Dos 1) 25,329 / 89.7% (Dos 2)
  • 55-59: 29,234 / 89.8% (Dos 1) 28,025 / 86% (Dos 2)
  • 50-54: 28,786 / 87.2% (Dos 1) 26,862 / 81.3% (Dos 2)
  • 40-49: 54,100 / 80% (Dos 1) 32,322 / 47.8% (Dos 2)
  • 30-39: 57,373 / 72% (Dos 1) 19,469 / 24.4% (Dos 2)
  • 18-29: 73,085 / 71.7% (Dos 1) 16,164 / 15.8% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,960 / 98.2% (Dos 1) 1,916 / 96% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,328 / 93.6% (Dos 1) 10,964 / 90.6% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,715 / 88.8% (Dos 1) 42,164 / 81.9% (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Hwb ariannol mawr i strydoedd mwy diogel Caerdydd

Mae cais ar y cyd i sicrhau cyllid ar gyfer mesurau a fydd yn helpu i wneud strydoedd Caerdydd yn lleoedd mwy diogel wedi bod yn llwyddiannus.

Dyfarnwyd £432,000 i Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd, sy'n cynnwys sefydliadau gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a phartneriaid statudol a thrydydd sector allweddol eraill, o gronfa Strydoedd Diogelach y Swyddfa Gartref, sy'n rhan o gyhoeddiad cyllid o £18.4m ar gyfer cynlluniau ledled Cymru a Lloegr sy'n ceisio mynd i'r afael â throseddau cymdogaeth fel bwrglera, dwyn cerbydau a lladrad.

Caiff yr arian ei wario yng Nghaerdydd i gyflwyno nifer o fesurau newydd gan gynnwysteledu cylch cyfyng, gwell goleuadau a gwelliannau diogelwch ffisegol yn ardaloedd Grangetown a Butetown, teledu cylch cyfyng symudol i ymateb i ddigwyddiadau a materion ar draws y ddinas pan fo angen a gwell gwasanaeth atal troseddu i ddioddefwyr eildro, megis darparu monitro cloch y drws, gwelliannau diogelwch, marcio eiddo a gweithdai addysgol.

Bydd yr hwb ariannol hefyd yn ariannu dulliau newydd o nodi mannau lle ceir problemau gwrthgymdeithasol i lywio atal troseddu a cherbyd gorchymyn ymateb / atal troseddau newydd, gan ddarparu sylfaen i roi sicrwydd cymunedol a chyngor atal troseddu.

Bydd menter benodol Crimestoppers hefyd yn cael ei rhoi ar waith mewn ardaloedd lle mae cymunedau wedi codi pryderon i'r Cyngor am y lefelau uchel o ddigwyddiadau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Rwy'n falch iawn bod cais Caerdydd i'r Swyddfa Gartref wedi bod yn llwyddiannus gan fod hon wedi bod yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth rhwng y Cyngor, Heddlu De Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar fesurau a fydd yn helpu cymunedau i fod yn fwy diogel a theimlo'n fwy diogel. Bydd yr adnodd ychwanegol hwn yn gwella ein cydweithio ymhellach i wneud Caerdydd yn lle mwy diogel.

"Bydd cyllid y Swyddfa Gartref yn ein galluogi nid yn unig i fynd i'r afael ag achosion o droseddau meddiangar mewn mannau problemus penodol yn y ddinas, byddant yn helpu i'w hatal yn y lle cyntaf ac yn rhoi sicrwydd i breswylwyr mai eu diogelwch yw ein blaenoriaeth.

"Rydym hefyd wedi gweithio'n agos gyda thrigolion Butetown a Grangetown, gan wrando ar eu pryderon am ddiogelwch cymunedol yn eu hardaloedd lleol, i ddatblygu'r cais hwn.  Bydd mesurau fel mwy o deledu cylch cyfyng, gwell goleuadau, technolegau clyfar a chael y cymunedau eu hunain i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd atal troseddu yn ein helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran atal troseddau meddiangar a throseddau eraill rhag difetha'r ardaloedd hyn a'n trigolion.

"At hynny, gyda'n partneriaid rydym wedi ymrwymo i weithredu a chynnal a chadw'r mesurau hyn yn y tymor hir er budd ein cymunedau am flynyddoedd i ddod."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26883.html