Back
Estyn yn canmol Gwasanaethau Addysg Caerdydd

Gall addysg dda weddnewid bywydau.

Dyna pam rydym wedi bod yn gweithio'n galed i wella safonau ledled Caerdydd.

Dyna pam rydym yn buddsoddi £284 miliwn (ar ben y miliynau rydym eisoes wedi'u buddsoddi) mewn ysgolion newydd a gwell (fel y rhain) dros y 5 mlynedd nesaf.

Llun yn cynnwys testun, dan do, llawrDescription automatically generated

A dyna pam rydym wrth ein bodd bod adroddiad Estyn ar wasanaethau addysg Caerdydd a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, yn dweud ein bod wedi dangos gwelliant parhaus yn ansawdd ac effeithiolrwydd ein gwasanaethau addysg yn y blynyddoedd diwethaf.

Yng ngeiriau'r Cyng. Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae addysg yng Nghaerdydd wedi cyflawni llawer dros y 10 mlynedd diwethaf."

Ac mae hyny mor wir. Mewn gwirionedd, yn ôl yr adroddiad, mae ansawdd yr addysg y mae plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd yn ei derbyn nawr mewn sawl achos gyda'r gorau sydd i'w chael yng Nghymru.

Mae'r dyfarniadau "rhagorol" o ran safonau mewn ysgolion uwchradd yn uwch na'r niferoedd yn genedlaethol, gyda deilliannau dysgwyr yn uwch na'r disgwyliadau yn CA4 yn y rhan fwyaf o ysgolion a arolygwyd rhwng 2017-20.

Ar y cyfan, bu deilliannau disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn uwch na'r un grŵp yn genedlaethol - gyda chyfran y grŵp hwn a gyflawnodd raddau 5A/A* yn nodedig uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol.

Cafwyd canmoliaeth hefyd am ansawdd darpariaeth Gwasanaeth Ieuenctid mewn ardaloedd o'r ddinas a flaenoriaethwyd ac am y gwaith a wnaed gan Addewid Caerdydd i sefydlu rhwydweithiau dinesig i gefnogi ymgysylltiad ieuenctid a'u datblygiad, gydag arolygwyr yn gweld bod addysg a chymorth effeithiol ar gael i grwpiau lleiafrifol a rhai agored i niwed, ac i bobl ifanc o ardaloedd difreintiedig yn y ddinas.

A picture containing text, road, sky, truckDescription automatically generated

Yn wir, gwnaed cymaint o argraff ar arolygwyr eu bod wedi gofyn i ni baratoi tair astudiaeth achos i'w cynnwys fel enghreifftiau o arfer da ar wefan Estyn.

Bydd y cyntaf yn rhoi sylw i'r gwaith arloesol a wnaeth Addewid Caerdydd i ymgysylltu â busnesau i wella cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc.

Bydd ail astudiaeth achos yn amlygu ein cefnogaeth i blant ceiswyr lloches, a bydd trydydd yn edrych ar sut rydym wedi mynd ati i drawsnewid gwaith ieuenctid.

Beth sydd nesaf?  Wel, rydym yn parhau i Gweithio Dros Gaerdydd.

Fel gyda phob adroddiad ysgol (o leiaf y rhai a gofiwn o'n dyddiau ysgol) mae meysydd y gallwn eu gwella o hyd, ond yn ôl yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cyng. Sarah Merry...

"Law yn llaw â'n haddewid o £284m i adeiladu ysgolion newydd a gwell dros y pum mlynedd nesaf yn ogystal â'n cyllideb sylweddol a ddirprwyir i ysgolion, mae'r adroddiad hwn yn newyddion da i Gaerdydd, i rieni ac i'n plant a'n dysgwyr ifanc."

A gall yr adeiladau ysgol newydd yna wneud gwahaniaeth go iawn.  Ers 2017 rydym wedi agor chwe ysgol gynradd newydd, a dwy ysgol uwchradd newydd sbon o'r radd flaenaf, un ohonynt oedd Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.

Grŵp o bobl yn cerdded tu allan i adeiladDescription automatically generated with low confidence

Hydref y llynedd, cawsom air â'r pennaeth Martin Hulland i ddysgu mwy am yr effaith yr oedd adeiladau newydd yr ysgol yn eu cael ar ddisgyblion.

Dyma beth ddywedodd wrthym...  

https://www.youtube.com/watch?v=Q1zbLyaQ5ZM

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglen adeiladu ysgolion yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/28262.html  Ond cyn i chi fynd... gair o rybudd.

Rydym yn cyflwyno ysgolion newydd cyn gynted â phosibl, felly bydd y prosiectau rydym yn eu crybywll yn y trywydd hwnnw wedi symud ymlaen - mae'r Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd yn enghraifft dda - aeth o fod yn ddelwedd CGI, i hon...

A couple of people wearing safety vests and helmets posing for the cameraDescription automatically generated with low confidence

Ar ôl ei orffen, bydd yr Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd yn fuddsoddiad o £64 miliwn yn y gymuned, yn gartref i 100 ystafell ddosbarth, 4 cae chwarae a phwll nofio 25 metr.

Ond bydd yn fwy na hynny hefyd.

Bydd hefyd yn arwydd arall o'n haddewid i drawsnewid addysg yng Nghaerdydd, i #CDYDDsynDdaiBlant ac o'r hyn eilw Estyn yn  "gweledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol i bob dysgwr."

Mae'r adroddiad llawn yma: https://www.estyn.gov.wales/system/files/2022-02/Inspection%20report%20Cardiff%20Council%202022_2.pdf