Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 01 Gorffennaf 2022

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf, sy'n cynnwys: sesiynau hamddenol newydd yn y Pad Sblasio; gartrefi gwag wedi cael eu hadfer hon i'w defnyddio eto; a mae gŵyl olau arobryn Cymru yn ôl ac mae tocynnau ar werth nawr.

 

'Sesiynau hamddenol' newydd yn y Pad Sblasio i blant sydd ag anghenion ychwanegol

Bydd ymweliad â Phad Sblasio Parc Fictoria ar ddiwrnod heulog yn uchel ar restr ddymuniadau llawer o blant yr haf hwn, ond i rai plant sydd ag anghenion ychwanegol mae poblogrwydd y cyfleuster, hyd yma, wedi ei gwneud yn anodd ei fwynhau.

O ddydd Mercher nesaf (6 Gorffennaf) bydd awr bob dydd Mercher yn cael ei rhedeg fel 'sesiwn hamddenol' gynhwysol fel y gall plant sydd ag anghenion ychwanegol, a fyddai'n elwa o amgylchedd tawelach a llai o niferoedd, fwynhau'r 33 nodwedd ddŵr gyffrous, sy'n cynnwys jetiau, chwistrellau, twneli a bwced dŵr tipio.

Yn ystod y tymor, bydd y 'sesiynau hamddenol' yn rhedeg bob dydd Mercher rhwng 11am a hanner dydd.  Yn ystod gwyliau'r ysgol bydd y sesiynau newydd yn cael eu cynnal bob dydd Mercher o 10am-11am.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Barciau, Diwylliant a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  "Mae parciau ar gyfer pawb, ac rydym am iddynt fod mor gynhwysol a hygyrch â phosibl.  Cynlluniwyd y Pad Sblasio gyda hynny mewn golwg, ond wrth i'w boblogrwydd dyfu, mae wedi dod yn anos i blant sydd ag anghenion ychwanegol fwynhau'n llawn. Mae gwneud Caerdydd yn Ddinas sy'n Dda i Blant yn un o'n blaenoriaethau, a bydd y sesiynau Pad Sblasio tawelach newydd hyn yn caniatáu i lawer mwy o blant fwynhau'r pleser syml o chwarae."

Dywedodd preswylydd lleol, Amy, y mae ei mab deg oed yn defnyddio cadair olwyn: "Mae'r Pad Sblasio yn rhywbeth sy'n apelio'n wirioneddol at blant sydd ag anghenion ychwanegol gan ei fod yn wastad ac mae'r plant wrth eu bodd â'r dŵr, felly mae'n wych bod y cyngor yn gallu dechrau gwneud hyn."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29337.html

 

Mae 83 o gartrefi gwag yng Nghaerdydd wedi cael eu hadfer y flwyddyn ariannol hon i'w defnyddio eto

Mae 83 o eiddo gwag yng Nghaerdydd wedi cael eu hadfer i'w defnyddio eto ers mis Ebrill 2021, gyda chymorth drwy bolisi cartrefi gwag y Cyngor.

Mae eiddo gwag yn falltod ar gymunedau lleol oherwydd gallant achosi problemau i eiddo cyfagos, denu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ogystal â thipio anghyfreithlon a phroblemau gyda fermin.

Mae hyd at 300 o eiddo yng Nghaerdydd wedi'u hamlygu fel problem, ac er mai perchennog yr eiddo preifat sy'n gyfrifol am ddelio â'r materion hyn, mae swyddogion y Cyngor yn mynd ar eu trywydd i sicrhau y gellir adfer yr eiddo i'w defnyddio eto cyn gynted â phosibl.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd: "Mae eiddo'n mynd yn wag am amryw o resymau, p'un a ydynt wedi cael eu hetifeddu yn y cyflwr y maent ynddo, ni all y perchennog fforddio datrys y problemau, neu gallai'r perchennog fod yn byw dramor neu mewn gofal hirdymor, ac mae'r eiddo'n cael eu gadael yn wag am gyfnod sylweddol cyn mynd i gyflwr gwael."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29326.html

 

Mae gŵyl olau arobryn Cymru, Nadolig ym Mharc Bute, yn ôl ac mae tocynnau ar werth nawr

Mae'r Nadolig ym Mharc Bute yn ôl a bydd yn fwy disglair nag erioed yn 2022 wrth iddo ddychwelyd am ei ail flwyddyn gyda llu o atyniadau newydd.

Bydd y digwyddiad arobryn yn ceisio efelychu llwyddiant mawr  2021 gyda gosodiadau newydd sbon gan gynnwys 'taith laser hypnotig' gyffrous, 'orb epig symudliw', a 'Chanion Goleuadau' hudolus gyda mil o sêr llesmeiriol. 

Dywedodd Roxy Robinson, Cyfarwyddwr Creadigol From The Fields sy'n cynhyrchu'r llwybr: "Ar ôl blwyddyn gyntaf mor syfrdanol, mae'n bleser aruthrol dod â'r Nadolig ym Mharc Bute yn ôl i Gaerdydd unwaith eto, ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at ddangos i bawb beth sydd ar y gweill ar gyfer 2022."

"Rydyn ni'n adeiladu ar ein gwaith gyda busnesau a chymunedau lleol i greu profiad hudolus o'r dechrau i'r diwedd. Unwaith eto, bydd ymwelwyr o bob oed a chefndir yn gallu mwynhau hud adeg y Nadolig ym Mharc Bute, ac rydym ar ben ein digon ein bod yn cael gwneud y cyfan eto."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29315.html