Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 26 Gorffennaf 2022

Diweddariad: mwy o Faneri Gwyrdd yng Nghaerdydd nag unrhyw le arall yng Nghymru; anrhydeddu'r cyngor am ymrwymiad i lluoedd arfog; ymgynghoriad ar y gwaith ar Ysgol Willows; plant a phobl ifanc yn rhannu eu barn ar sut mae'r cyfryngau yn eu gweld nhw.

 

Baner Werdd newydd i barc yng Nghaerdydd yn codi'r cyfanswm i 16

Mae Cadwch Gymru'n Daclus wedi cyhoeddi bod 16 o Faneri Gwyrdd wedi'u dyfarnu i barciau a mannau gwyrdd sy'n cael eu rheoli gan Gyngor Caerdydd.

Parc Llyn Hendre yn Nhredelerch yw'r parc diweddaraf i ennill y dyfarniad rhyngwladol mawr ei fri, sy'n cael ei gyflwyno gan arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol drwy farnu yn erbyn ystod o feini prawf cadarn gan gynnwys bioamrywiaeth, cyfranogiad y gymuned, glendid a rheolaeth amgylcheddol.

Gyda 19% o'r ddinas yn fannau gwyrdd hygyrch i'r cyhoedd, mae Caerdydd yn gartref i safleoedd baner werdd hyfryd. Gwnaed cyfanswm o 35 o ddyfarniadau.

Dyma'r rhestr lawn o fannau gwyrdd a reolir gan Gyngor Caerdydd sydd wedi ennill statws y Faner Werdd: Parc Bute; Morglawdd Bae Caerdydd; Gwarchodfa Gwlyptir Bae Caerdydd; Mynwent Cathays; Ynys Echni; Fferm y Fforest; Gerddi'r Faenor; Parc Hailey; Parc y Mynydd Bychan; Parc Llyn Hendre; Parc Cefn Onn; Parc y Rhath; Gerddi Bryn Rhymni; Mynwent Draenen Pen-y-graig; Parc Fictoria; Gerddi Waterloo.

Cadwodd Parc Bute a Mynwent Cathays hefyd u statws Treftadaeth Werdd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  "Mae'r ffaith bod gan Gaerdydd fwy o fannau Baner Werdd nag  unrhyw le arall yng Nghymru yn dyst i waith caled, angerdd ac ymrwymiad ein timau, a'r holl grwpiau Cyfeillion a gwirfoddolwyr sy'n helpu i ofalu am ein mannau gwyrdd gwych."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29546.html

 

Anrhydeddu'r Cyngor am ymrwymiad i bersonél y Lluoedd Arfog

Mae Cyngor Caerdydd wedi'i anrhydeddu â gwobr aur fawreddog Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn (ERS) am ei gefnogaeth i'r Lluoedd Arfog.

Y wobr uchaf yn yr ERS, fe'i cyflwynir i'r cyflogwyr hynny sy'n cyflogi a chefnogi'r rhai sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog neu'r Adfyddin, cyn-filwyr a'u teuluoedd ac fe'i lansiwyd yn 2014 gan Brif Weinidog y DU ar y pryd, David Cameron, i sicrhau bod personél a chyn-filwyr yn cael eu trin yn deg.

Dywedodd Leo Docherty, y Gweinidog Amddiffyn: "Waeth beth fo'ch maint, lleoliad neu sector, mae cyflogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog yn dda ar gyfer busnes ac mae'r gwobrau hyn yn cydnabod y gefnogaeth eithriadol gan gyflogwyr ledled y DU a hoffwn ddiolch i bob un ohonynt a'u llongyfarch."

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, Aelod Cabinet Cyllid, Moderneiddio a Pherfformiad Cyngor Caerdydd: "Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cael ein cydnabod gyda Gwobr Aur ERS. "Byddwn bob amser yn croesawu ceisiadau am swyddi gan aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys milwyr wrth gefn a chadetiaid na fydd byth o dan anfantais annheg ar unrhyw gam o'n proses recriwtio a dethol."

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29550.html

 

Ymgynghoriad Cyhoeddus nawr ar agor ar waith yn gysylltiedig ag Ysgol Uwchradd newydd Willows

Gwahoddir y cyhoedd i rannu eu barn ar y gwaith sy'n gysylltiedig â sefydlu safle newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Willows.

Mae'r ymgynghoriad yn nodi'r cam nesaf yn y datblygiad i adleoli ac ailadeiladu'r ysgol uwchradd ar dir oddi ar Heol Lewis, y Sblot. Os eir ymlaen â'r cynlluniau, byddai gan yr ysgol newydd amrywiaeth o gyfleusterau cynhwysfawr a fyddai ar gael at ddefnydd y cyhoedd y tu allan i oriau ysgol ac a fyddai'n cael eu darparu'n rhan o Fand B Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru.

Mae'r Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio ar agor tan 16 Awst 2022 ac mae'n caniatáu i bobl ddweud eu dweud am y gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â'r cynllun, cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd.

Mae'r cynigion yn cynnwys:

  • Gorchymyn cau ar Heol Lewis a gwaith priffyrdd perthnasol, er mwyn caniatáu i'r datblygiad fynd rhagddo
  • Adeiladu llwybrau teithio llesol i berimedr dwyreiniol y safle
  • Gosod cyfleustodau newydd ac adleoli gwasanaethau presennol
  • Cloddio a gwaith tir gan gynnwys tynnu rhai deunyddiau llygrol ar ôl tarfu ar y tir
  • Dymchwel adeiladau presennol ar Heol Portmanmoor ac ar hen safle Marchnad y Sblot
  • Gosod ffensys diogelwch o amgylch ffin y safle

 

Dwedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn yw'r cam nesaf i adleoli ac ailadeiladu Ysgol Uwchradd Willows ac mae'r gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â'r prosiect yn rhan annatod o'r datblygiad, a fydd, pan fydd wedi'i gwblhau, yn darparu cyfleusterau, arbenigedd a chyfleoedd addysgu eithriadol i fyfyrwyr, staff a'r gymuned."

Darllenwch fwy yma:

https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/29500.html

 

Plant a phobl ifanc yn llywio dealltwriaeth y cyfryngau lleol o hawliau plant ac effaith eu gwaith

Rhoddwyd cyfle i bobl ifanc o bob rhan o Gaerdydd gwrdd â chyfryngau Cymru mewn digwyddiad a gynlluniwyd i ddechrau trafodaeth am sut y caiff plant eu portreadu yn y newyddion prif ffrwd ac i drafod sut y gall straeon negyddol effeithio ar eu lles.

Rhoddodd y digwyddiad ‘Plant a'r Cyfryngau', a gafodd ei drefnu gan dîm Caerdydd sy'n Dda i Blant mewn cydweithrediad â Chyngor Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd, gyfle i bobl ifanc, oedolion a gweithwyr proffesiynol yn y cyfryngau ddod at ei gilydd i drafod sut mae pobl yn cael eu portreadu yn y cyfryngau, stereoteipiau yn y cyfryngau a sut mae'r cyfryngau yn dewis straeon.

Yn ystod y digwyddiad, aeth prif siaradwyr - dan arweiniad pobl ifanc yn eu harddegau - i'r llwyfan i siarad am yr effaith y mae'r cyfryngau'n ei chael ar blant a phobl ifanc, sut maen nhw'n teimlo bod eu lleisiau'n aml yn mynd heb eu clywed ac i godi ymwybyddiaeth o hawliau plant i lwyfannau newyddion yng Nghymru.

Clywodd y grŵp o 90 o siaradwyr sgyrsiau gan nifer o siaradwyr gan gynnwys Sally Holland, cyn Gomisiynydd Plant Cymru a'r Athro yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant ym Mhrifysgol Caerdydd, Zoe Thomas, Golygydd Rhaglenni Saesneg yn ITV Wales; Andrew Collins, Ymgynghorydd Cyfathrebu Digidol ProMo Cymru; ac Arthur Templeman-Lilly, 14 oed, o'r Bwrdd Cynghori Plant a Phobl Ifanc (BCPPhI).

Yna daeth y digwyddiad Amgylcheddau Dysgu Hunandrefnedig â phawb ynghyd i gydweithio wrth drafod ac ymchwilio i dri chwestiwn allweddol:

 

  • Sut mae plant a phobl ifanc yn cael eu cynrychioli yn y cyfryngau?  A sut allwn ni ei wneud yn well?
  • Pa wybodaeth mae plant a phobl ifanc ei hangen?   A sut allwn ni ei wneud yn fwy hygyrch?
  • Sut gall Caerdydd ddathlu a hyrwyddo plant a phobl ifanc, a'u hawliau?

 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29509.html